Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Addysg a Hyfforddi (QCF)

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant yn gyflwyniad i addysgu a fydd yn rhoi cipolwg ar swyddi, cyfrifoldebau a pherthnaseddau mewn addysg a hyfforddiant, sut i gynllunio a chyflwyno sesiynau addysgu cynhwysol, a sut i asesu a rhoi adborth adeiladol.

Mae’r cymhwyster hwn yn gallu eich helpu i symud ymlaen i swyddi addysgu/hyfforddi mewn ystod eang o sefydliadau yn y sector dysgu gydol oes.
Mae’r rhain yn cynnwys:

● Sefydliadau’r sector cyhoeddus

● Sefydliadau’r sector preifat

● Addysg Bellach, Addysg i Oedolion ac Addysg yn y Gymuned.

(Uned 301) Deall swyddi, cyfrifoldebau a pherthnasau mewn addysg a hyfforddiant

Galluogi’r dysgwr i ddeall swydd a chyfrifoldebau athro a’r berthynas rhwng gwahanol weithwyr proffesiynol ym meysydd addysg a hyfforddiant.
Mae’n cynnwys cyfrifoldeb dros gynnal amgylchedd diogel a chefnogol. [3 chredyd]


(Uned 302) Deall a defnyddio dulliau cynhwysol addysgu a dysgu mewn addysg a hyfforddiant

Galluogi’r dysgwr i ddeall a defnyddio dulliau cynhwysol addysgu a dysgu.
approaches. Mae’n cynnwys sut i greu amgylchedd dysgu sy’n ennyn diddordeb myfyrwyr ac yn eu cymell, a gallu cynllunio, cyflwyno a gwerthuso dulliau ac ymagweddau sy’n cael eu defnyddio. [6 chredyd]


(Uned 305) Deall asesu mewn addysg a hyfforddiant

Galluogi’r dysgwyr i ddeall sut mae gwahanol fathau a dulliau asesu yn cael eu defnyddio. Mae’n cynnwys modd o gynnwys dysgwyr wrth asesu a gofynion cadw cofnodion yn effeithiol.
Mae’n cynnwys sesiwn ymarferol micro-addysgu 30 munud o hyd i gymheiriaid am bwnc a ddewisir o arbenigedd pwnc eich hun. [3 chredyd]


Er mwyn ennill y Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant yn llawn, mae’n rhaid i ddysgwyr ennill 12 credyd.
learners must attain the 12 credits.
Bydd dysgwyr yn llunio Portffolio Tystiolaeth o 3 aseiniad ysgrifenedig (ar gyfer unedau 301, 302 a 305) ac aseiniad ymarferol, h.y. sesiwn micro-addysgu 20 munud o hyd i gymheiriaid (uned 302).
Nid oes gofynion mynediad i’r rhaglen, er bod angen i ddysgwyr gymryd rhan mewn asesiadau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol WEST.

Cysylltwch â Jeanette Edwards i drafod y rhaglen nesaf a fydd yn cael ei chynnal sut i wneud cais. Ei chyfeiriad e-bost ydy jeanette.edwards@cambria.ac.uk

Mae’r cymwysterau hyn yn gallu eich helpu i symud ymlaen i swyddi addysgu/hyfforddi mewn ystod eang o sefydliadau yn y sector dysgu gydol oes. Mae’r rhain yn cynnwys:

● Sefydliadau’r sector cyhoeddus
● Sefydliadau’r sector preifat
● Addysg Bellach, Addysg i Oedolion ac Addysg yn y Gymuned
£560

Gwerslyfrau’r Cwrs – Amanda Turner & Joanne Whiting, Level 3 Award in Education and Training, City & Guilds, London, 2014. (ISBN 978 0 85193 294 1) & Ann Gravells, The Award in Education & Training, 2014 (ISBN 978-1473912212)

Mae dysgwyr yn cael eu hannog i ddarllen yn ehangach, y tu hwnt i werslyfrau’r cwrs.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?