main logo

FdSc Hyfforddi Chwaraeon

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01196
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, 2 flynedd (wedi’i ddyfarnu gan LJMU)

Mae’r cwrs yn gofyn I ddysgwyr ymgymryd â chyfnodau o hunanastudiaeth a lleoliadau gwaith yn ogystal â’r oriau a addysgir.
Adran
Chwaraeon a Ffitrwydd
Dyddiad Dechrau
23 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
30 Jul 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Cyflwynir y rhaglen hon drwy gyfuniad o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb sy'n addas i'ch anghenion unigol, yn amodol ar allu gweithio o fewn canllawiau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau eich diogelwch chi a'n staff. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol o bell. Noder, lle na ellir cyflawni lleoliadau gwaith am resymau diogelwch, byddwn yn addasu modiwlau i gynnwys prosiectau sy'n gysylltiedig â gwaith mewn ffordd a fydd yn dal i ddatblygu eich sgiliau yn y gwaith.

Mae'r FdSc mewn Hyfforddi Chwaraeon yn darparu cyfuniad o brofiadau academaidd ac ymarferol sydd â'r nod o'ch paratoi ar gyfer cyflogaeth neu'r cyfle I symud ymlaen I flwyddyn atodol gyda Phrifysgol John Moores Lerpwl. Cewch gyfle I ymgymryd ag ystod o bynciau perthnasol sy'n gysylltiedig â hyfforddi mewn amrywiaeth o chwaraeon.

Elfen annatod o'r rhaglen astudio hon fydd cwblhau dyfarniadau hyfforddi'r corff llywodraethu a'r cyfle I gyflwyno sesiynau hyfforddi I ddysgwyr AB fel rhan o'n strategaeth Cambria Heini.


Modiwlau
Lefel 4

Modiwlau Lefel 4
Egwyddorion Seicogymdeithasol Chwaraeon
Dysgu mewn Cyd-destunau Addysg Gorfforol a Chwaraeon
Ymarfer Proffesiynol mewn Hyfforddi Chwaraeon 1
Dulliau Ymchwil a Sgiliau Astudio 1
Ffisioleg Ymarfer Corff 1
Symudiad Dynol

Lefel 5

Chwaraeon a Chymdeithas
Dysgu mewn Cyd-destunau Addysg Gorfforol a Chwaraeon 2
Ymarfer Proffesiynol mewn Hyfforddi Chwaraeon 2
Hyfforddi Effeithiol mewn Chwaraeon Paralympaidd a Chwaraeon Anabledd
Cryfder a Chyflyru i Hyfforddwyr
Dulliau Ymchwil 2

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag;

Angela Jones, Arweinydd Rhaglen
angela.jones@cambria.ac.uk neu

Suzanne Barnes, Cyfarwyddwr Cwricwlwm
suzanne.barnes@cambria.ac.uk
Byddwch yn cael eich addysgu drwy amrywiaeth o sesiynau egnïol a difyr, gan gynnwys darlithoedd, tiwtorialau a gweithdai ymarferol. Bydd yna siaradwyr gwadd hefyd a chyfleoedd i ymweld â sefydliadau perthnasol.

Bydd y rhan fwyaf o fodiwlau’n cael eu hasesu drwy draethodau ac arholiadau, ond bydd yna waith ymarferol, cyflwyniadau unigol a grŵp, portffolios a logiau myfyriol hefyd. Byddwch yn cael amserlen asesu lawn ar ddechrau pob blwyddyn academaidd i’ch helpu i gynllunio eich llwyth gwaith.

LLEOLIAD GWAITH – Mae’r rhaglen hon yn cynnwys elfen hanfodol o leoliad gwaith. Os nad ydych eisoes mewn gwaith, byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i leoliad gwaith addas.

Bydd LJMU yn rhoi un dystysgrif ar ôl cwblhau’r dyfarniad yn llwyddiannus.
Fel arfer, dylai ymgeiswyr confensiynol allu dangos un o’r cymwysterau canlynol:


O leiaf 88 pwynt yn TAG Safon Uwch neu gyfwerth
Diploma BTEC priodol – Diploma Estynedig: MMP
Cwrs Mynediad i Addysg Uwch priodol ‘Diploma o Gyrhaeddiad’.

Mae’r Coleg a’r Brifysgol yn annog mynediad a chyfranogiad ehangach mewn Addysg Uwch ac anogir ceisiadau gan y rhai nad oes ganddynt y pwyntiau/cymwysterau angenrheidiol o bosibl. Bydd Arweinydd y Rhaglen yn trafod gofynion y cwrs ac yn asesu darpar fyfyrwyr am eu haddasrwydd yn seiliedig ar gyfuniad o gymwysterau, profiad a chymhelliant.

Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr aeddfed (21 oed neu’n hŷn) heb dystiolaeth o’r cymwysterau uchod ond sydd â phrofiad priodol, ddangos brwdfrydedd a’r gallu i astudio lefel uwch.

Mae Coleg Cambria yn gofyn am Wiriad Heddlu Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ar gyfer y rhaglen hon.

Bydd Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr Coleg Cambria yn cynnal gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyda myfyrwyr cyn dyddiad dechrau’r rhaglen.
Gall myfyrwyr sy’n cwblhau’r FdSc yn llwyddiannus wneud cais i wneud blwyddyn atodol ym mhrifysgol John Moores Lerpwl i ennill BSc mewn Hyfforddi Chwaraeon.

OPSIYNAU GYRFA
Bydd astudio Hyfforddi Chwaraeon yn Cambria yn sicrhau eich bod mewn lle da i ddilyn gyrfa mewn hyfforddi cymunedol neu ddatblygu chwaraeon a gweithgareddau corfforol. Gallwch hefyd ymchwilio i yrfa gyda Chorff Llywodraethu Cenedlaethol chwaraeon.

Mae myfyrwyr sydd â chymhwyster mewn Hyfforddi Chwaraeon yn gyflogadwy iawn oherwydd datblygiad sgiliau fel cyfathrebu, trefnu a gwaith tîm.


Mae’r rhaglen FdSc yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa i fyfyrwyr, gan gynnwys:
• Athro Addysg Gorfforol (*astudiaeth bellach yn ofynnol)
• Hyfforddwr Chwaraeon
• Swyddog Datblygu Chwaraeon
• MSc mewn Astudiaethau Ôl-raddedig (ar ôl cwblhau BSc mewn Hyfforddi Chwaraeon yn LJMU)
Ffioedd y cwrs £ 7,500 y flwyddyn

Dylid talu ffioedd i LJMU.

Y myfyriwr fydd yn talu costau teithio I ac o leoliad gwaith.

Efallai y bydd gofyn prynu offer a / neu wisgoedd ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig I gael rhagor o wybodaeth.

Crys-T a thop sip 1/4 £58.52

Cod Cwrs UCAS / SLC: 974588
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?