main logo

FdA Cyfryngau Creadigol a Chynhyrchu

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP52302
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, 2 flynedd, llawn amser, a ddyfernir gan LJMU (Prifysgol John Moores, Lerpwl).


Bydd gofyn I fyfyrwyr ar y cwrs hwn ymgymryd â chyfnodau hunastudiaeth yn ogystal â’r oriau addysgu.

Byddwn yn cyflwyno’r rhaglen hon trwy gyfuniad o sesiynau ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb I gyd-fynd â’ch anghenion unigol, yn amodol ar allu gweithi
o dan arweiniad a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru I sicrhau eich diogelwch chi a’n staff ni.
Byddwn hefyd yn parhau I roi cymorth o bell i’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Sylwch, os yw rhesymau diogelwch yn ei hatal rhag trefnu lleoliadau gwaith, byddwn yn addasu modiwlau I gynnwys prosiectau a fydd yn parhau I ddatblygu eich sgiliau yn y gwaith.
Adran
Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol
Dyddiad Dechrau
16 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs Gradd Sylfaen dwy flynedd hwn a ddyfernir gan LJMU (Prifysgol John Moores, Lerpwl) yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y cyfryngau fel ymarferydd hyblyg sy’n gwbl alluog I ymateb I heriau'r diwydiannau cyfryngau, sy'n newid yn gyson. Gan ddefnyddio cyfuniad o brofiadau ymarferol a dysgu damcaniaethol, bydd y cwrs yn cynyddu eich profiad cynhyrchu
cyfryngau, a dyfnhau eich dealltwriaeth a'ch sgiliau gydag offer a thechnegau cyfryngau, arfer proffesiynol, creadigrwydd, sgiliau naratif, technoleg cyfryngau digidol a damcaniaethau cyfryngau cyfoes.
Yn ogystal â chreu cynhyrchion cyfryngau, byddwch yn astudio modiwlau academaidd sy'n eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy’n hanfodol ar gyfer astudio ymhellach ac sy’n werthfawr ar gyfer nifer o lwybrau gyrfa.

MODIWLAU:
Blwyddyn 1
• Offer Cyfryngau Digidol
• Ymarfer Cynhyrchu
• Themâu Cyfryngau Cyfoes
• Cyflwyniad i’r Diwydiant Cyfryngau
• Deall Naratif
• Ymarfer Cynhyrchu Digidol

Blwyddyn 2
• Cynhyrchu Aml-blatfform
• Cyfansoddi ac Ôl-gynhyrchu
• Drama
• Gwneud cais am leoliadau gwaith a swyddi
• Moeseg Cyfryngau Digidol, Cydymffurfiaeth a Hawlfraint
• Diwylliannau Cyfryngau Digidol
• Cynhyrchu mewn Stiwdio Deledu
Mae’r asesiad yn amrywio yn dibynnu ar y modiwlau i’w hasesu, ond bydd fel arfer gwaith cwrs sydd defnyddio ystod o ddulliau asesu, gan gynnwys: gwaith ysgrifenedig (traethodau), cyflwyniadau (grŵp / unigolyn), asesiadau ymarferol (prosiectau unigol a thîm), cynhyrchu cynnwys gwefannau, cynyrchiadau fideo ffeithiol a ffuglen, gweithdai lleoliadau a stiwdio, cynhyrchion rhyngweithiol a phortffolios gan gynnwys e-bortffolios.

Bydd LJMU yn rhoi un dystysgrif ar ôl cwblhau’r dyfarniad yn llwyddiannus.
• 104 o bwyntiau UCAS

• Ar gyfer y Diploma Estynedig, mae angen graddau RhTT mewn pwnc perthnasol os na astudiwyd ymhwyster Lefel 3 arall.

• TGAU Mathemateg ac Iaith Saesneg gradd C / 4 neu uwch. Efallai bydd angen cyfweliad neu gyflwyno portffolio hefyd.

• Mynediad i Ddiploma AU gydag o leiaf 9 Rhagoriaeth a 36 Teilyngdod neu unrhyw gyfuniad arall sy’n cyfateb i 104 pwynt tariff UCAS mewn pwnc perthnasol.

• Byddwn yn ystyried myfyrwyr hŷn gyda TGAU Iaith Saesneg a Mathemateg gradd C neu uwch, neu gymwysterau cyfwerth, ond heb gymwysterau Lefel 3 traddodiadol, ar sail eu profiad a phortffolio priodol o waith.
Pan fyddwch chi’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, efallai y byddech yn dymuno symud ymlaen i astudio cwrs BA (Anrh) Cynhyrchu Cyfryngau ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl neu’n syth i gyflogaeth.

Mae myfyrwyr yn gymwys i symud ymlaen i flwyddyn olaf cwrs BA Anrhydedd, a byddant yn cael cymorth gan staff y coleg a’r brifysgol i benderfynu ar hynny,
£7500

Dylid talu ffioedd i LJMU.

Cod Cwrs UCAS / SLC: 971902
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?