main logo

Diploma Lefel 2 BTEC Pearson mewn E-chwaraeon

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP87922
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, 1 Flwyddyn
Adran
Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Hoffech chi ddysgu a datblygu sgiliau i weithio yn y diwydiant E-Chwaraeon? Os felly, yna mae'r cwrs hwn ar eich cyfer chi.

Mae’r diwydiant E-Chwaraeon yn tyfu ac mae amrywiaeth anferth o fathau o waith ar gael I rywun mewn E-chwaraeon.

Mae’r rhain yn amrywio o rolau cynllunio digwyddiadau, marchnata a brandio I hyfforddi a strategaeth gemau I gynhyrchu fideo a llawer rhagor.

Mae’r cwrs hwn yn eich helpu I ddatblygu sgiliau a gwybodaeth y bydd eu hangen arnoch I weithio yn y sector hwn. Nid yw’r cyfan yn ymwneud â chwarae gemau, ac ychydig iawn o brofiad chwarae gemau y byddwch yn ei gael, ar gyfer asesiadau neu wrth gystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Byddwch yn cwblhau nifer o fodiwlau gan gynnwys y canlynol:

Uned 1: Gemau E-Chwaraeon, Timau a Thwrnameintiau
Uned 3: Ffrydio ar gyfer E-Chwaraeon
Uned 4: Cynllunio Digwyddiad E-Chwaraeon
Uned 5: Dechrau Menter mewn E-Chwaraeon
Uned 7: Iechyd a Llesiant mewn E-Chwaraeon
Byddwch yn creu tystiolaeth ar gyfer eich aseiniadau mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys gwaith ysgrifenedig, cyflwyniadau, animeiddio, recordio fideos a pherfformiad personol.
4 TGAU gradd D/3 gan gynnwys Iaith Saesneg neu Gymraeg (Iaith Gyntaf), neu’ch bod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Bydd dysgwyr sy’n cwblhau eu cymhwyster Lefel 2 BTEC mewn E-Chwaraeon yn anelu at fynd ymlaen i astudiaeth bellach, cyflogaeth neu i brentisiaeth. Y dilyniant, os yn llwyddiannus ar lefel 2, yw mynd ymlaen i Lefel 3 mewn E-Chwaraeon neu gyrsiau cysylltiedig.

Mae cyfleoedd swyddi’n cynnwys gweithio yn y Cyfryngau, Marchnata, Chwaraewr Tîm, Hyfforddwr Tîm, Sylwebydd, Dylunydd, Dadansoddwr Gemau.
Efallai bod angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gwelwch y rhestr offer atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?