main logo

Diploma Lefel 3 UAL mewn Busnes Ffasiwn ac Adwerthu

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP87944
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae hon yn rhaglen dwy flynedd. Byddwch yn cwblhau 90 credyd ym Mlwyddyn 1 ac yn ennill cymhwyster annibynnol. Ar ôl cwblhau hwn yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i Flwyddyn 2 i ennill y Diploma Estynedig llawn.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
09 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

A oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa mewn Busnes Ffasiwn a Manwerthu? Mae’r cwrs dwy flynedd hwn wedi’I gynllunio I roi’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth I chi symud ymlaen I ragor o astudio, hyfforddiant neu gyflogaeth mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau busnes ffasiwn a manwerthu trwy brofiad dysgu trochi llawn amser.

Mae’r llwybr Busnes a Manwerthu Ffasiwn Lefel 3 wedi’I gynllunio’n benodol ar gyfer dysgwyr 16 oed neu hŷn sy’n dymuno cael profiad eang yn y sector manwerthu ffasiwn ochr yn ochr â thiwtorial a datblygiad personol a phroffesiynol.
Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau cyflwyno, rheoli amser, gwaith tîm, trefnu a chyfathrebu.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys:

Rheoli Ffasiwn a Marchnata
Gweithrediadau storfa
Prynu a Marchnata
Steilio
Marchnata gweledol
Cynhyrchu a chadwyni cyflenwi
Dyfodol ffasiwn gan gynnwys cynaliadwyedd

Ar ddiwedd y cwrs byddwch yn cymhwyso'r sgiliau a'r wybodaeth rydych wedi'u dysgu yn ystod y cwrs I greu a chyflwyno prosiect personol yn ymwneud â busnes ffasiwn a manwerthu. Mae pob uned yn orfodol a rhaid eu cwblhau'n llwyddiannus gennych chi eich hun I ennill cymhwyster Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes Ffasiwn a Manwerthu.

Byddwch yn datblygu eich sgiliau I gynnig atebion creadigol I amgylchedd gwerthu sy'n newid yn barhaus, gan ennill gwybodaeth am fusnes ffasiwn fodern ac ymarfer manwerthu, ei swyddi a strategaethau busnes sylfaenol. Mae'r sector yn darparu 75 y cant o'r holl swyddi sy'n ymwneud â ffasiwn, gyda 414,000 o bobl yn gweithio ym maes manwerthu dillad.
Https://fashionunited.uk/uk-fashion-industry-statistics/

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill y canlynol UAL Diploma Lefel 3 mewn Busnes Ffasiwn ac Adwerthu
Byddwch yn cynnal aseiniadau seiliedig ar ddiwydiant, gan gynhyrchu cyflwyniadau o’ch dyluniadau a chynigion ar gyfer ystod o gynhyrchion. Ar ddiwedd y cwrs byddwch yn cymhwyso’r sgiliau a’r wybodaeth rydych wedi’u dysgu yn ystod y cwrs i greu a chyflwyno prosiect personol yn ymwneud â busnes ffasiwn a manwerthu. Mae pob uned yn orfodol i chi eu cwblhau’n llwyddiannus i ennill y cymhwyster.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Cymraeg/Saesneg (Iaith gyntaf) a Mathemateg.

Ar gyfer dysgwyr dilyniant, mae angen cwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gyrchu cwrs lefel uwch.
Ar ôl cwblhau’r cwrs Lefel 3 mewn Busnes Ffasiwn a Manwerthu hwn, byddwch yn gallu cyrchu addysg uwch. Fel arall, bydd llawer o ddysgwyr yn defnyddio’r cymhwyster hwn fel man dechrau ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau busnes creadigol y maent yn dymuno symud ymlaen iddi fel:

● Prynnu a marsiandïo ffasiwn
● Cysylltiadau cyhoeddus ffasiwn
● Rheoli brand
● Marchnata a hyrwyddo
● Marchnata gweledol a Brandio
● Rheoli ffasiwn/manwerthu
● Cydlynydd/cymhorthydd cyfryngau cymdeithasol
● Dylanwadwr steil
Efallai bydd angen prynu offer a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?