main logo

Diploma lefel 2 mewn Trin Gwallt

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01261
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y Diploma Lefel 2 mewn Trin Dynion a Merched yn eich helpu I feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch I ddod yn driniwr gwallt llwyddiannus wrth ddarparu cyfleoedd I chi weithio gyda brandiau gwallt proffesiynol fel L’Oreal.

Bydd dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o anatomi a ffisioleg trwy gydol y cymhwyster. Byddant yn meithrin gwybodaeth am yr holl brofion addas, yn ogystal â’r gofynion iechyd, diogelwch a deddfwriaeth sydd eu hangen ar steilydd gwallt.

Byddwch yn meithrin y wybodaeth, y dealltwriaeth a’r sgiliau I ymgynghori â chwsmeriaid, I ddarparu amrywiaeth o wasanaethau torri sylfaenol, lliwio a goleuo yn ogystal â sgiliau mewn paratoi, trin a sychu gwallt.

Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn meithrin sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmer, ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd amgylcheddol a sgiliau datrys problemau. Mae’r sgiliau hynny’n werthfawr iawn I gyflogwyr.

Yn ogystal â’r cymhwyster Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch, bydd angen I chi gwblhau’r canlynol:
TGAU mewn Saesneg a Mathemateg neu Sgiliau Hanfodol Cymru
Meithrin sgiliau Cymraeg, trwy Gymraeg Gwaith
Gwneir gwaith cwrs trwy asesiad parhaus, a gall dysgwyr ennill gradd Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg / Cymraeg (iaith gyntaf), neu fod wedi cwblhau rhaglen ddysgu lefel 1 mewn Trin Gwallt yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gal; dysgwyr symud ymlaen i gwrs Trin Gwallt Lefel 3 neu Brentisiaeth Fodern mewn Trin Gwallt.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?