main logo

Lefel 3 Gofal Iechyd, Cymdeithasol a Phlant

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01279
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, 2 flynedd
Adran
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi chi i weithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Byddwch yn astudio ystod o bynciau i ddatblygu a dangos eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch dealltwriaeth yng nghyd-destun gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys materion cyfoes ynglŷn ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol, egwyddorion arferion gofal ac arferion diogel, ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigol a’r effaith ar anghenion gofal a chymorth, hyrwyddo hawliau, cynorthwyo unigolion sy’n agored i niwed ac yn gweithio yn y sector iechyd a gofal.

Mae elfen lleoliad gwaith sylweddol sydd yn gysylltiedig â’r cwrs, a bydd gofyn i chi gwblhau 100 awr o waith o leiaf, mewn lleoliad perthnasol.
Asesir y cwrs hwn trwy asesiad mewnol ac asesiad allanol sy’n cynnwys aseiniadau ac arholiadau.
5 TGAU gradd A*-C / 9-4 gan gynnwys Mathemateg, Iaith Saesneg neu Gymraeg (Iaith Gyntaf) a Gwyddoniaeth, neu’ch bod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus ar lefel Rhagoriaeth sy’n cynnwys:

● Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chydestunau
● TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
● Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craid

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch
Gall dysgwyr symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth mewn ystod o swyddi, gan gynnwys Cynorthwyydd Gofal Iechyd, Cynorthwyydd Ffisio, Gweithiwr Prosiect, Technegydd Ambiwlans.

Mae’r cymhwyster yn darparu sylfaen addas i astudio iechyd a gofal cymdeithasol trwy ystod o gyrsiau addysg uwch fel Gwaith Cymdeithasol, Addysgu, Hyrwyddo Iechyd, Seicoleg, Ffisiotherapi, Therapydd Galwedigaethol, Bydwreigiaeth, Nyrsio a Radiograffeg.

Mae’r Diploma Estynedig cyfwerth â 3 Safon Uwch ac yn darparu’r pwyntiau UCAS sydd eu hangen ar gyfer mynediad i Raglenni Galwedigaethol Addysg Uwch fel Gofal Cymdeithasol a Nyrsio.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?