main logo

Tystysgrif Dechnegol Lefel 2 C&G mewn Blodeuwriaeth

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00259
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Blodeuwriaeth
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr creadigol sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa mewn blodeuwriaeth. Mae’r cwrs yn cynnwys ystod o sgiliau blodeuwriaeth sy’n hanfodol i’r diwydiant blodeuwriaeth, gan gynnwys dyluniadau fel clymu, gosod blodau ar gyfer angladdau a phriodasau.

Byddwch hefyd yn cael cipolwg ar enwau botanegol blodau a phlanhigion, yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael yn y diwydiant a pha sefydliadau sy’n cefnogi gwerthwyr blodau heddiw.

Fel rhan o’r cwrs bydd y myfyrwyr yn mynd ar deithiau ac ymweliadau addysgol diddorol, a phrofiad gwaith.

Mae myfyrwyr yn cael defnyddio cyfleusterau safon uchel, gweithdai ymarferol gydag offer da ynddynt ac adnoddau helaeth ar-lein. Bydd y myfyrwyr yn cael amrywiaeth eang o flodau ffres, cyffredin ac anarferol, deiliach a manion cyffredin fel rhan o’u cwrs.

Bydd dysgu mor hwyliog â phosibl a byddwch yn dysgu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd a gwaith ymarferol, a byddwch yn defnyddio ystod o dechnoleg dysgu fodern.

Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o’r rhaglen a byddwn yn gweithio gyda chi I wella’ch sgiliau llythrennedd a rhifedd, yn ogystal â rhoi cyfle I chi ailsefyll TGAU Saesneg a Mathemateg , lle bo hynny’n berthnasol.
Asesiadau synoptig sydd i’r cwrs, sy’n cynnwys arholiad ysgrifenedig, asesiadau dan reolaeth ar gyfer sgiliau ymarferol, Profiad Gwaith ac Iechyd a Diogelwch.

Trwy gydol y rhaglen, byddwch yn cymryd rhan mewn ffug arholiadau ac asesiadau, yn ogystal ag asesiadau ymarferol anffurfiol i’ch helpu i ddysgu cynnwys y cwrs yn effeithiol.

Mae disgwyliad cryf y bydd gwaith yn cael ei wneud gartref i ategu dysgu ar y cwrs.

Byddwch chi hefyd yn mynd i’r afael â phrofiad gwaith allanol yn niwydiant
Blodeuwriaeth.

Efallai y bydd angen sefyll arholiadau ar gyfer Saesneg a Mathemateg.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Rhifedd neu Wyddoniaeth
neu
Diploma Lefel 1 mewn Blodeuwriaeth (yn amodol ar fodloni’r meini prawf).

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Symud ymlaen i gwrs AB Lefel 3 neu Brentisiaeth Lefel 3 yn y Gwaith mewn Blodeuwriaeth.

Nod y cwrs yw cynorthwyo dysgwyr i gael gwaith fel gwerthwr masnachol blodau mewn busnes Blodeuwriaeth. Dylai myfyrwyr llwyddiannus ystyried gwella eu rhagolygon cyflogaeth drwy ddatblygu sgiliau dylunio a goruchwylio uwch.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?