main logo

Mynediad i TG

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01504
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, 1 Flwyddyn (3 diwrnod yr wythnos)
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Mynediad i TG yn cynnig rhaglen sydd wedi’i chefnogi’n llawn i ddysgwyr ar gam cyntaf eu taith addysg bellach mewn TG.

Bydd y rhaglen yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc drechu unrhyw rwystrau sydd ganddynt i ddysgu, gan eu galluogi nhw i dyfu a datblygu’n bersonol, yn gymdeithasol ac yn academaidd er mwyn bodloni eu potensial llawn yn llwyddiannus a symud ymlaen i’r lefel nesaf o ddysgu neu gyflogaeth yn y dyfodol.

Bydd y cwricwlwm craidd yn helpu dysgwyr i feithrin sgiliau TG mewn amgylchedd creadigol a chroesawgar.

Bydd datblygu llythrennedd a rhifedd yn ganolbwynt craidd i’r holl ddysgwyr a phan fyddent yn barod, bydd dysgwyr yn cael y cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.

Mae’r cwrs hwn yn cynnig llawer o dasgau ymarferol a fydd yn helpu eu sgiliau Mathemateg, Saesneg a Llythrennedd Digidol.

Bydd dysgwyr yn cael Anogwr Bugeiliol a fydd yn eu cefnogi yn ystod y rhaglen. Byddant yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY yn ei le cyn i ddysgwyr ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a allai godi yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen i’w helpu i lwyddo. Mae’r cwrs yn cynnig cymorth llawn i fodloni anghenion a gwahaniaethau dysgu unigolion.

Mae Mynediad i TG yn cael ei gyflwyno dros dri diwrnod.
Bydd pob dysgwr yn cwblhau asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at amrywiaeth o unedau i’w helpu i ennill cymhwyster Mynediad i Sgiliau Bywyd a Byw, Cymhwyster Cyflawni Prince’s Trust a gwobr Efydd Gwobr Dug Caeredin i gynorthwyo dilyniant i Addysg Bellach neu Ddysgu yn y Gwaith.
Mae’r cwrs wedi’i ddylunio ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar Lefel Mynediad felly nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol i gael mynediad at y cwrs hwn.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Bydd dysgwyr yn cael eu cynorthwyo i gynllunio eu camau nesaf yn ystod y cwrs. Gweler rhestr isod o opsiynau posib ar ôl cwblhau’r cwrs:

Cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol o’ch dewis chi;
Hyfforddeiaeth neu raglen brentisiaeth;
Cyflogaeth;
Rhaglen gymunedol
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?