main logo

Lefel 2 Gofal Iechyd, Cymdeithasol a Phlant

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00336
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn, lawn amser.
Adran
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs wedi'i lunio ar gyfer unigolion sy'n gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu'n bwriadu gweithio ynddo.

Byddwch yn cwblhau’r cymhwyster Craidd ynghyd â’r cymhwyster Egwyddorion a Chyd-destun.

Bydd y cymhwyster yn rhoi cyflwyniad trylwyr I'r egwyddorion, y gwerthoedd a'r wybodaeth sydd eu hangen I weithio yn y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag oedolion a phlant a phobl ifanc.

Mae cynnwys y cymhwyster Craidd yn cynnwys y themâu a’r unedau canlynol i’ch cynorthwyo I ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth ar draws hyd oes person.

● Egwyddorion a Gwerthoedd (oedolion)
● Egwyddorion a Gwerthoedd (plant a phobl ifanc)
● Iechyd a Llesiant (plant a phobl ifanc)
● Iechyd a Llesiant (oedolion)
● Diogelu unigolion
● Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol
● Iechyd a Diogelwch mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Byddwch yn profi ymgysylltu â’r sector sy'n cynnwys lleoliad gwaith gorfodol.

Yn ogystal â’r cymhwyster Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bydd angen I chi gwblhau’r canlynol
● TGAU mewn Saesneg a Mathemateg neu Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau Cymraeg, trwy gynllun Cymraeg Gwaith
Asesir y cymhwyster Craidd trwy gyfres o dasgau a asesir yn fewnol y gellir eu cymryd trwy gydol y cymhwyster neu ar ei ddiwedd. Mae un papur cwestiynau amlddewis wedi’i farcio’n allanol.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch, rhaid i ymgeiswyr gael Lefel 1 mewn Saesneg Iaith/Cymraeg (iaith gyntaf) a Mathemateg neu berfformiad boddhaol.

Rhaid i chi allu dangos y potensial i weithio’n annibynnol ac yn ddiogel mewn amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Gallai’r cymhwyster Egwyddorion a Chyd-destun eich arwain at:

● Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3: Egwyddorion a Chyd-destunau
● TAG Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
● Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3: Arferion

Bydd y llwybr sydd fwyaf addas yn dibynnu ar y canlyniad rydych yn ei gyflawni o fewn y cymhwyster hwn a chymwysterau eraill rydych yn eu hastudio hefyd.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?