main logo

Lefel 2 Gofal Iechyd, Cymdeithasol a Phlant

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00100
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs wedi cael ei ddatblygu ar gyfer unigolion sy'n gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu'n bwriadu gwneud hynny.

Byddwch yn cwblhau'r cymhwyster Craidd ar y cyd â'r cymhwyster Egwyddorion a Chyd-destun.

Bydd y cymhwyster yn rhoi cyflwyniad trylwyr i'r egwyddorion, gwerthoedd a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag oedolion a phlant a phobl ifanc.

Mae'r cynnwys ar gyfer y cymhwyster Craidd yn cynnwys y themâu canlynol:
● egwyddorion a gwerthoedd
● iechyd a llesiant
● arfer proffesiynol
● diogelu
● iechyd a diogelwch.

Mae’r Egwyddorion a Chyd-destun yn cynnwys dwy uned orfodol sy’n ymdrin â phynciau cyfredol gan gynnwys:
● Twf a datblygiad
● Rôl a chyfrifoldebau gweithwyr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
● Rôl a phwrpas hyrwyddo iechyd a llesiant

Byddwch yn cael profiadau o ymgysylltu â’r sector ac yn cael y cyfle I fynychu lleoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd.
Mae’r cymhwyster Craidd yn cael ei asesu trwy gyfres o dasgau sydd yn cael ei asesu’n fewnol a gellir eu cymryd drwy gydol y cymhwyster neu ar ei ddiwedd. Mae un papur cwestiynau amlddewis wedi’i farcio’n allanol.

Mae’r cymhwyster Egwyddorion a Chyd-destun yn cael ei asesu gan un arholiad ysgrifenedig wedi’i osod a’i farcio’n fewnol. Yn yr aseiniad bydd angen i chi ddwyn ar eich profiadau ymgysylltu â sector a lleoliad gwaith.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch mewn Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg. Rhaid i chi allu dangos eich gallu i weithio’n annibynnol ac yn ddiogel mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd angen i ddysgwyr dilyniant ddangos eu bod wedi cyflawni Lefel 1 o leiaf mewn Sgiliau Hanfodol Cymru ar gyfer Saesneg a Mathemateg os nad ydynt wedi cyflawni graddau D/3 mewn TGAU.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Gall cwblhau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Craidd Lefel 2 arwain at:

● Egwyddorion a Chyd-destun Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
● Cymhwyster Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
● Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Arfe

Bydd y llwybr mwyaf perthnasol I chi yn dibynnu ar ganlyniad y cymhwyster hwn a chymwysterau eraill y byddwch yn eu hastudio.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?