main logo

Diploma lefel 3 Sylfaen mewn Busnes (Menter ac Entrepreneuriaeth)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00017
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cymhwyster hwn yn un flwyddyn o gymhwyster dwy flynedd, ond gellir ei astudio am flwyddyn a bod yn gymhwyster sy’n gyfwerth â 1.5 cymhwyster Safon Uwch.

Ond mae’n well astudio’r cwrs dros y ddwy flynedd er mwyn cael mwy o ddyfnder a phrofiad yn y meysydd busnes.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Y Diploma Sylfaen yw’r flwyddyn gyntaf o gwrs dwy flynedd.

Mae chwe uned i’w hastudio ym mlwyddyn gyntaf y cwrs, a fydd yn rhoi cyflwyniad o’r amgylchedd busnes i ddysgwyr a’u helpu i’w ddeall.
Bydd myfyrwyr yn gwneud hynny trwy edrych ar sut mae datblygu ymgyrch marchnata, astudio cyllid personol a busnes, a chymhwyso sgiliau hanfodol trwy gynllunio/lansio eu busnes eu hunain.

Yn ogystal â hynny, byddant yn astudio Mentergarwch Cymdeithasol, angen busnesau I allu addasu I newid a sut maen nhw’n gweithio gydag arloesedd a chreadigrwydd.

Mae’r rhain I gyd yn bwysig I lwyddiant sefydliadau busnes yn ogystal â’r lle sydd gan fusnes yn ein bywydau.

Mae Bagloriaeth Cymru ôl-16 Uwch yn rhan o’r rhaglen astudio a bydd yn cynnig y cyfle i’r dysgwr ennill ymwybyddiaeth bersonol a chymdeithasol bellach trwy ddarpariaeth yr Her Menter Fyd Eang a’r Her Gymunedol.
Asesir dwy uned trwy arholiadau:

Mae Uned 2 – Datblygu Ymgyrch Marchnata
Uned 3 – Cyllid Personol a Busnes

yn arholiadau sydd wedi’u gosod trwy’r corff dyfarnu (BTEC Pearson).

Mae’r pedair uned arall yn cael ei hasesu trwy brosiectau bywyd go iawn, gyda myfyrwyr yn rhedeg eu busnes eu hunain (lle byddant yn cymhwyso’u holl wybodaeth o’r tymor cyntaf), lle bydd sgiliau yn cael eu datblygi o ran sgiliau cymdeithasol, yn ogystal â meithrin hyder wrth ddefnyddio sgiliau trafod, gallu cyfathrebu’r tu allan I gylchoedd cymdeithasol, ac edrych ar sut mae busnesau’n gallu bod yn broffidiol yn ogystal â bod yn gyfrifol yn amgylcheddol ac yn foesol.

Mae aseiniadau ysgrifenedig yn seiliedig ar sefyllfaoedd gwaith realistig, gan ddatblygu sgiliau ysgrifennu academaidd hanfodol, yn ogystal ag asesu trwy bodledu, trafodaethau 1 I 1, fideos a chyflwyniadau yn rhan o ddull asesu ymarferol.
5 TGAU gradd C/2 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af),
neu
fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus gyda Theilyngdod neu Ragoriaeth, gyda gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af).

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Gallai dysgwyr symud ymlaen ymhellach i’r Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 BTEC mewn Busnes (Mentergarwch ac Entrepreneuriaeth) ar ôl cwblhau’r Diploma Sylfaen yn llwyddiannus, wedi llwyddo i ennill gradd Teilyngdod neu uwch.

Mae’r Diploma Estynedig yn gyfwerth â 3 Safon Uwch sy’n galluogi i ddysgwyr symud ymlaen i gyrsiau gradd Addysg Uwch neu brentisiaethau lefel uwch, gan gynnwys Rheoli Busnes, y Gyfraith a Chyfrifeg.

Gall y cymhwyster hwn hefyd arwain at gyfleoedd gyrfa mewn meysydd arbenigol ym myd busnes, fel Cyllid, Adnoddau Dynol, Marchnata, yn ogystal â gyrfaoedd eraill sy’n gysylltiedig â busnes, fel rheoli Gwerthiannau a Rheoli Manwerthu, Rheoli Digwyddiadau, Cyfryngau Cymdeithasol, Rheoli Chwaraeon, dechrau eich busnes eich hun, y Gyfraith, Cyfrifeg, Rheolaeth Ariannol a chymaint o gyfleoedd gyrfa eraill.

Bydd hefyd yn bosibl i ddysgwyr symud ymlaen yn y gwaith ac astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol fel y rhai a gynigir gan sefydliadau siartredig marchnata, cyfrifwyr rheoli a datblygu personél.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?