main logo

Lefel 1 mewn Busnes, Teithio a Digwyddiadau

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01246
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y cwrs hwn yw canolbwyntio ar ennyn diddordeb dysgwyr ac annog eu dealltwriaeth o’r sgiliau, y nodweddion a’r wybodaeth sydd eu hangen ledled y sectorau Busnes a Thwristiaeth. Mae’r cwrs hwn yn addas i bobl ifanc ac oedolion sydd eisiau meithrin y sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y sectorau hyn, gan feithrin ac ymarfer y sgiliau y mae cyflogwyr eu hangen.

Wrth gwblhau’r cwrs hwn bydd dysgwyr yn astudio pynciau fel gwasanaethau i gwsmeriaid, menter a’r sgiliau sydd eu hangen i sefydlu busnes, sut i gynllunio digwyddiadau yn effeithiol (corfforaethol, priodasau, partïon), ffactorau sy’n effeithio ar y sector, pwysigrwydd rheoli cyllidebau a marchnata’n effeithiol. Yn ogystal â hyn, byddwch yn parhau i ddatblygu eich llythrennedd a rhifedd.
Bydd dysgwyr yn cyflawni’r cymhwyster trwy gwblhau gwaith cwrs a asesir yn fewnol. Gallai hyn gynnwys tasgau fel siartiau gwybodaeth, taflenni neu asesiadau ysgrifenedig.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu Fathemateg.

I’r holl ddysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen at y cwrs Lefel 1 hwn o Sgiliau Sylfaen – mae’n rhaid i chi fod wedi cyflawni eich cymhwyster lefel Mynediad 3, symud ymlaen yn eich Mathemateg a Saesneg/Cymraeg a chyflawni pob targed yn eich cynllun dysgu unigol.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Cymhorthydd gwasanaeth i gwsmeriaid, cymhorthydd twristiaeth a hamdden, cymhorthydd asiant teithio, prentis cynllunio digwyddiadau, cynrychiolydd gwyliau;
Symud ymlaen i gwrs Lefel 2;
Prentisiaeth
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?