main logo

Diploma Lefel 2 mewn Gwneuthuro a Weldio

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00484
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Gwneuthuro a Weldio
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae hwn yn gwrs ymarferol a byddwch yn ennill y sgiliau i fod yn weldiwr, gweithiwr llenfetel neu wneuthurwr. Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau mewn gwneuthuro metel, lluniadau peirianneg ac ystod o dechnegau weldio yn ogystal ag iechyd a diogelwch.

Unedau dewisol (y gellir eu cynnig fel rhan o’r cymhwyster hwn).
Gwaith Ymarferol City and Guilds 7682-20 (Unedau Enghreifftiol)
Gwneud Gweithrediadau Peirianneg
Uned 201: Gweithio’n ddiogel mewn amgylchedd peirianneg
Uned 202: Ymgymryd â gweithgareddau peirianneg yn effeithlon ac effeithiol
Uned 203: Defnyddio a chyfathrebu gwybodaeth peirianneg
Uned 222: Cynhyrchu cydrannau a chydosodiadau llenfetel
Uned 228: Paratoi a defnyddio offer weldio â llaw TIG neu arc-weldio plasma
Uned 229: Paratoi a defnyddio MAG lled awtomatig, MIG ac offer weldio â fflwcs

Uned Ddewisol 207: Ffurfio a chydosod pibellau
Uned ddewisol 227: Paratoi a Defnyddio Offer Weldio MMA

Datblygu Sgiliau Llythrennedd a Rhifedd

Profiad Gwaith Perthnasol

Bydd disgwyl i fyfyrwyr nad oes ganddynt radd C mewn Mathemateg a Saesneg, fynychu sesiynau i gefnogi hynny, yn ychwanegol at eu rhaglen alwedigaethol.
Mae’r cwrs yn gofyn am asesu aseiniadau’r coleg yn barhaus a byddant yn cael eu casglu ynghyd fel tystiolaeth bortffolio i ateb gofynion y corff dyfarnu.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cwblhau Diploma Lefel 1 mewn Gwneuthuro a Weldio.
Mae nifer cynyddol o gyflogwyr yn y diwydiant gwneuthuro a weldio bellach yn ystyried bod tystysgrifau Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ), tystysgrifau Sgiliau Hanfodol a thystysgrifau City and Guilds perthnasol, yn rhan hanfodol o’u rhaglenni hyfforddi sgiliau.

Efallai y bydd cyfleoedd i gael cyflogaeth fel hyfforddeion mewn unrhyw un o’r disgyblaethau crefft a ganlyn: Gwneuthuro / Weldio Llenfetel, Gosod Pibellau ac Adeiladu gwaith dur.

Yn dilyn blwyddyn gyntaf o astudio’n llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i’r Rhaglen Lefel 3 mewn Gwneuthuro a Weldio neu gael gwaith fel Prentis Modern.

Bydd dysgwyr sy’n cael gwaith hefyd, yn dibynnu ar delerau eu cyflogwyr, yn gallu cael cyfle i symud ymlaen i raglen Lefel 3 mewn Gwneuthuro a Weldio yn y dyfodol.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?