main logo

Diploma lefel 2 mewn Cefn Gwlad ac Amgylchedd

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP50201
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn, lawn amser.
Adran
Coedwigaeth a Chefn Gwlad
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Os ydych chi'n chwilio am fan cychwyn am yrfa'n gweithio yng nghefn gwlad, gan gwmpasu rheoli tir, cynefinoedd, bywyd gwyllt a chadwraeth, mae’r cwrs hwn fod yn ddelfrydol i chi. Mae'r cwrs hwn yn darparu sylfaen gadarn i chi fynd ymlaen i gymhwyster lefel 3 mwy arbenigol, fel rheoli cefn gwlad neu goedwigaeth a choedwigaeth, neu i fynd i gyflogaeth, neu fel arall gallai arwain at brentisiaeth yn y gwaith.

Mae’r cwrs yn cwmpasu gweithio’n ddiogel yng nghefn gwlad, profiad gwaith, gweithredu peiriannau a gyrru tractorau, cadwraeth a gwella cynefinoedd Prydain, syrfeo a monitro rhywogaethau, busnes cefn gwlad, sgiliau ystâd, a sgiliau ymarferol coedwigaeth.

Byddwch yn cael eich addysgu mewn amrywiaeth o ddulliau, ac yn cael budd o sesiynau ymarferol, gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, ymweliadau a siaradwyr gwadd. Byddwch yn cael defnyddio’n llawn ystâd helaeth y coleg, gan gynnwys y fferm 970 erw (400 hectar) a choetiroedd. Byddwch yn treulio 150 o oriau mewn lleoliad profiad gwaith yn rhan o’r cwrs.

Mae teithiau addysgol yn rhan bwysig o’r cwrs, ac mae cysylltiadau cryf gyda busnesau a sefydliadau cefn gwlad yn darparu rhagor o gyfleoedd dysgu fel ymweliadau a sesiynau ymarferol.

Bydd y myfyrwyr hynny nad ydynt wedi cael gradd C/4 neu uwch mewn TGAU Saesneg a Mathemateg yn cael cynnig cyfle i ailsefyll y cymwysterau hynny.
Mae pob uned y cymhwyster yn cael eu hasesu trwy ystod o aseiniadau, sy’n asesu sgiliau ymarferol, gwybodaeth a dealltwriaeth, fel y bo’n briodol i’r uned.
Rhaid llwyddo ym mhob aseiniad I lwyddo yn yr unedau, ac mae’n rhaid llwyddo ym mhob uned I ennill y cymhwyster. Mae asesiadau’n cael eu cynnal trwy gydol y cwrs, gyda dyddiadau cau gosod ar gyfer tasgau unigol. Rhoddir graddau ar gyfer pob aseiniad, sy’n cyfrannu at radd gyffredinol y cymhwyster.

Bydd cwblhau’r cwrs hwn a’r holl asesiadau’n llwyddiannus yn arwain at Ddiploma Lefel 2 City & Guilds mewn Cefn Gwlad a’r Amgylchedd.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Cymraeg/Saesneg (Iaith 1af), Mathemateg a Gwyddoniaeth, neu gymhwyster Lefel 1 perthnasol.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Symud ymlaen i’r Diploma Estynedig Lefel 3 Tilhill mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth (2 flynedd) neu Ddiploma Estynedig mewn Rheoli Cefn Gwlad.
Mae graddau Rhagoriaeth yn ofynnol i symud ymlaen i gyrsiau lefel 3.
Mae cyfleoedd swyddi yn amrywiol gan gynnwys gweithio fel cymhorthydd cadwraeth, ciper cynorthwyol dan hyfforddiant, coedwigwr hamdden cynorthwyol, gweithiwr cynnal a chadw/peiriannau, gweithiwr tir i driniwr coed neu gontractwr ffensio. Mae cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau hefyd.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?