main logo

Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu: Plastro

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP51268
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 1 flwyddyn lawn amser.
Adran
Adeiladu a Gwaith Adeiladu, Plastro
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'n cynnig cyflwyniad eang i ddysgwyr i'r sectorau adeiladu a'r amgylchedd adeiledig, ac yn eu datblygu. Bydd pob dysgwr yn cwblhau chwe uned graidd orfodol a fydd yn cwmpasu cyflwyniad i'r sectorau adeiladu a'r amgylchedd adeiledig, sgiliau cyflogaeth a chyflogadwyedd ac iechyd a diogelwch. Yn ogystal â'r unedau craidd gorfodol, bydd dysgwyr yn gweithio tuag at ddysgu am ddau faes masnach, ac un ohonynt fydd Plastro. Mae'r cymhwyster yn rhoi dealltwriaeth eang, drawsbynciol o'r sector i ddysgwyr, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys am eu datblygiad eu hunain.

· Cyflwyniad i'r Amgylchedd Adeiledig
· Cyflwyniad i'r Crefftau yn y Sector Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
· Cyflwyniad i Gylch Oes yr Amgylchedd Adeiledig
· Cyflogadwyedd mewn Adeiladu a'r Sector Amgylchedd Adeiledig
· Diogelu Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd wrth weithio yn y Sector Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
· Cyflwyniad i dechnolegau sy'n datblygu ym maes Adeiladu a Sector yr Amgylchedd Adeiledig.
Un prawf amlddewis wedi’i osod yn allanol ac wedi’i farcio’n allanol.
Un prosiect wedi’I osod yn allanol, wedi’I farcio’n fewnol, sy’n cwmpasu dau faes masnach.
Un drafodaeth dan arweiniad wedi’I gosod yn allanol ac wedi’I marcio’n fewnol.
Un prawf iechyd a diogelwch wedi’I osod yn allanol ac wedi’I farcio’n fewnol.
4 TGAU gyda Mathemateg a Saesneg gradd D/3 neu uwch.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch
Mae’r cymhwyster yn rhoi digon o wybodaeth i ddysgwyr symud ymlaen i brentisiaeth yn eu dewis o grefft. Ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus, efallai y bydd dysgwyr nad oes ganddynt brentisiaeth yn dymuno parhau ar y cymhwyster Dilyniant llawn amser.
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu iwnifform ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?