Cyflwyniad i brosesau ffotograffiaeth eraill

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs yn rhoi cyflwyniad byr i hanes a throsolwg o hanes amrywiaeth o brosesau ffotograffig gwahanol sydd ar gael i ffotograffwyr heddiw. Yna, bydd cyflwyniad i baratoi a chreu negatifau digidol a negatifau papur cwyr, a fydd yn cael eu defnyddio wrth gymhwyso nifer o brosesau amgen yn ymarferol, a fydd yn cynnwys:

Printiau lwmen, seianoteip a gwm bicromad

Gan fod hwn yn gwrs rhagarweiniol byddwn ni’n trafod y pryderon iechyd a diogelwch ynghylch paratoi cemeg a phapurau ar gyfer y prosesau y byddwn ni’n eu defnyddio, a bydd yr holl ddeunyddiau yn cael eu paratoi gan staff cyn y sesiynau er mwyn osgoi unrhyw broblemau iechyd a diogelwch posibl.
AMH – cwrs heb ei achredu
Mae angen diddordeb mewn celf ac yn benodol ffotograffiaeth – ond does dim angen profiad blaenorol.
Bydd cyfranogwyr yn gallu defnyddio gwaith sydd wedi’i greu fel rhan o bortffolio i hyrwyddo eu gwaith creadigol annibynnol, neu at ddibenion gwneud cais i addysg uwch. Gallai’r gweithdy fod yn fan cychwyn ar gyfer gyrfa mewn argraffu ffotograffig gwahanol – naill ai’n fasnachol neu ar gyfer eich gwaith celf eich hun.

Gallai hefyd fod yn gam tuag at gyrsiau pellach posibl ar gyfer y prosesau hyn a chyrsiau tebyg eraill yn y dyfodol yn y coleg.
£200
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?