Seicoleg Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00092
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae arholiadau 2 uned ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf (Lefel UG) a 2 arall ar ddiwedd yr ail

Blwyddyn 1

Uned 1 - Seicoleg: O’r Gorffennol i’r Presennol.
Diben yr uned hon yw rhoi sylfaen gadarn mewn rhai o elfennau craidd sylfaenol seicoleg trwy astudio 5 ymagwedd seicolegol.
Ar gyfer pob un o’r 5 ymagwedd seicolegol (biolegol, seicodeinamig, ymddygiadol, gwybyddol a chadarnhaol), bydd yn angen I ddysgwyr wneud y canlynol:
● gwybod a deall rhagdybiaethau pob ymagwedd
● cymhwyso'r rhagdybiaethau I egluro ffurfio perthynas
● gwybod a deall sut y gellir defnyddio'r ymagwedd mewn therapi (un therapi I bob ymagwedd), a phrif gydrannau'r therapi
● gwerthuso'r therapi (gan gynnwys ei effeithiolrwydd a'I ystyriaethau moesegol)
● gwerthuso'r ymagwedd (gan gynnwys cryfderau, gwendidau a chymhariaeth â'r pedwar dull arall)
● gwybod, deall a llunio barn ar ddarn clasurol o dystiolaeth (gan gynnwys methodoleg, gweithdrefnau, canfyddiadau, casgliadau a materion moesegol a goblygiadau cymdeithasol).

Uned 2 - Seicoleg: Defnyddio Cysyniadau Seicolegol.
Adran A: Dadleuon Cyfoes.
Mae archwilio pum dadl gyfoes yn rhoi cyfle I ymchwilio’n annibynnol I feysydd y mae seicoleg wedi dylanwadu arnynt. Dylid ystyried dwy ochr y ddadl o safbwynt seicolegol. Gofynnir I ddysgwyr archwilio'r dadleuon gan ddefnyddio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r pum ymagwedd yn Uned 1. Y 5 dadl I'w hymchwilio yw
● Moeseg niwrowyddoniaeth
● Y fam fel y prif ofalwr
● Defnyddio technegau cyflyru I reoli ymddygiad plant
● Dibynadwyedd tystiolaeth llygad-dyst (gan gynnwys plant)
● Rôl seicoleg gadarnhaol yng nghymdeithas heddiw

Adran B: Egwyddorion Ymchwilio.
Ymchwil seicolegol yw canolbwynt yr adran hon, o'r camau cynllunio cychwynnol hyd at gam olaf y dadansoddiad a'r gwerthuso. Er mwyn rhoi cyd-destun priodol ar gyfer yr addysgu, dylid astudio dau ddarn o ymchwil o waith seicolegwyr cymdeithasol a datblygiadol.
● “Social Psychology: Milgram, S. (1963). Behavioural study of Obedience.”
● “Developmental Psychology: Kohlberg, L. (1968). The child as a moral philosopher.”
Adran C: Cymhwyso dulliau ymchwilio I senario anghyfarwydd
Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol I ddysgwyr gymhwyso eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ddulliau ymchwil I senario ymchwil anghyfarwydd, gan lunio barnau ar fanylion ymchwil
seicolegol.

Blwyddyn 2

Uned 3 – Seicoleg: Goblygiadau yn y Byd Go Iawn.
Adran A – Astudio Ymddygiadau.
Archwilio 3 ymddygiad o 6; Ymddygiadau caethiwus, Ymddygiadau ar y sbectrwm awtistiaeth, Ymddygiadau bwlio, Ymddygiadau troseddol, Sgitsoffrenia, Straen.

Adran B – Pynciau Llosg.
Mae hon yn elfen synoptig o'r cwrs; Astudir 5 dadl sy'n rhychwantu ymchwil seicolegol, a bydd gofyn I ddysgwyr ddefnyddio deunydd o bob rhan o'r cwrs I ddadlau. Y dadleuon yw:
● Costau moesegol cynnal ymchwil
● Anifeiliaid nad ydynt yn ddynol
● Statws gwyddonol
● Rhywiaeth
● Rhagfarn ddiwylliannol

Uned 4 – Seicoleg: Dulliau Ymchwil Cymhwysol.
Adran A: Ymchwiliad Personol.
Er mwyn sicrhau gwir werthfawrogiad o fethodolegau mewn seicoleg, disgwylir I'r dysgwyr ennill profiad uniongyrchol o ddau ddull ymchwil trwy ddylunio a chynnal dau ymchwiliad yn ystod y flwyddyn. Mae teitlau'r ymchwiliadau hyn yn newid bob blwyddyn, a bydd y bwrdd arholi yn eu
pennu. Bydd gofyn I ddysgwyr ymateb I gwestiynau sy'n ymwneud â'r ymchwiliadau hyn yn yr asesiad. Anogir dysgwyr I ddefnyddio TGCh wrth ymchwilio, dylunio, dadansoddi a chyflwyno eu hymchwiliad.

Adran B: Senarios Anghyfarwydd.
Ail agwedd y gydran hon yw I ddysgwyr gymhwyso eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ddulliau ymchwil I senarios ymchwil anghyfarwdd, gan lunio barnau ar fanylion ymchwil seicolegol.
Mae'r addysgu wedi'I leoli yn yr ystafell ddosbarth gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau fel deunydd fideo, ILT, chwilio ar y we, taflenni a thrafodaethau. Mae seicoleg yn ategu'r mwyafrif o bynciau eraill. Gellir ei gyfuno â gwyddorau, mathemateg, astudiaethau cyfrifiadurol, gwyddorau
cymdeithasol eraill neu'r celfyddydau.

Mae'r addysgu'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth, gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau megis deunydd fideo, chwilio ar y rhyngrwyd, taflenni a thrafodaeth. Mae seicoleg yn ategu'r rhan fwyaf o bynciau eraill. Gellir ei gyfuno â gwyddorau, mathemateg, astudiaethau cyfrifiadurol, gwyddorau cymdeithasol eraill neu'r celfyddydau.
CBAC yw’r Bwrdd Arholi. Bydd gofyn i’r myfyrwyr sefyll arholiad ffug mewnol ar ddiwedd pob uned. Cafodd yr arholiadau ymarfer hyn eu llunio fel eu bod mor debyg i’r arholiadau allanol ag y bo modd.

Arholiadau allanol:
Unedau 1 a 2 (UG) – Bydd Uned 1 a 2 yn cael eu harholi ym mis Mai cyntaf y cwrs – arholiadau 1 awr 30 munud yr un.

Uned 3 (A2) – Ail fis Mehefin y cwrs – arholiad 2 awr 30 munud. Uned 4 (A2) – Ail fis Mehefin y cwrs – arholiad 1 awr 30 munud.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch arnoch chi gan gynnwys Iaith Saesneg/ Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg, a bodloni’r meini prawf canlynol:

-TGAU gwyddoniaeth gradd C/4 neu uwch

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae cyflogwyr y rhan fwyaf o feysydd yn cydnabod Seicoleg fel pwnc sy’n paratoi ac yn aeddfedu pobl ar gyfer bron unrhyw fath o waith. Mae lefel UG yn dangos dealltwriaeth o bobl a thrwy gwblhau’r Safon Uwch, dylai’r myfyriwr fod wedi meithrin y gallu i ddadansoddi’n feirniadol wrth ymdrin â ffenomenau dynol. Ar lefel gradd, gall Seicoleg agor y drws i nifer o yrfaoedd, er enghraifft: Personél, Rheoli, Proffesiynau Gofal ac Addysgu. Mae gradd dda yn gallu arwain at fod yn Seicolegydd Siartredig mewn meysydd clinigol, addysgol, diwydiannol, galwedigaethol neu fforensig.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?