main logo

Celf, Crefft a Dylunio (Celf, Crefft a Dylunio, Celfyddyd Gain, Dylunio Tecstiliau, Dylunio 3D a Dylunio Graffeg) - Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00069
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Dyma'r ehangaf o'r holl arbenigeddau Celf a Dylunio Safon Uwch ac mae'n cwmpasu amrywiaeth eang o gyfryngau a thechnegau.

Mae'r Safon Uwch yn rhaglen o waith cwrs heriol, gwerth chweil a chyffrous heb unrhyw arholiadau sy'n cynnig profiad gwerthfawr i chi os oes gennych chi ddiddordeb brwd Celf a Dylunio.

Fel cwrs cyffredinol, mae hwn yn eich galluogi i gadw'ch opsiynau ar agor ar gyfer y dyfodol ac yn darparu sylfaen addysgol dda i bob gyrfa. Bydd yn ehangu eich sgiliau trosglwyddadwy gydol oes y mae cyflogwyr a phrifysgolion yn awyddus eu cael. Sgiliau fel creadigrwydd, datrys problemau, dysgu annibynnol, sgiliau trefnu a chyfathrebu, wrth annog eich potensial creadigol.

Mae pob myfyriwr yn cymryd rhan mewn gweithdai ymarferol a damcaniaethol ac yn cael eu hannog i arbrofi gydag ystod o gyfryngau a datblygu sgiliau trwy amrywiaeth o weithgareddau ac arbenigeddau gan gynnwys ffotograffiaeth, tecstilau, ffasiwn, celfyddyd gain, lluniadu, paentio, 3D, graffeg a gwneud printiau. Mae gwaith ymarferol yn cael ei ategu gan ddadansoddiad beirniadol o ffynonellau ac ymchwil priodol.

Cewch gael i archwilio prosesau gan ddefnyddio stiwdios celf a dylunio arbenigol i gynhyrchu portffolio personol o waith. Os hoffech arbenigo ar ôl y rhan o’r cwrs sy’n adeiladu sgiliau, gallwch wneud hynny ar brosiectau personol, gan ddatblygu eich gwaith eich hun mewn unrhyw gyfeiriad gyda chefnogaeth staff addysgu medrus.

Mae yna lawer o gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd ac mae myfyrwyr yn cwblhau prosiectau seiliedig ar aseiniadau sy'n datblygu sgiliau meddwl a chyfathrebu a'r gallu i ddatrys problemau. Gallwch ddisgwyl gweithio gyda deunyddiau celf traddodiadol a'r cyfryngau digidol diweddaraf gan ddefnyddio cyfrifiaduron iMac safonol y diwydiant a meddalwedd Adobe.

Bydd yna gyfleoedd i weithio gydag artistiaid, dylunwyr a chrefftwyr. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol ac ymweliadau addysgol i gefnogi eich astudiaethau ac mewn arddangosfeydd allanol a chystadlaethau'r diwydiant creadigol.
Mae un uned asesu diarholiad ar lefel UG.
Uned 1 – Ymholiad Creadigol Personol. Asesir yn fewnol a’I safoni’n allanol. Dyma brosiect/bortffolioo ymchwiliol estynedig yn seiliedig ar themâu a phynciau sydd yn bersonol ac yn ystyrlon I chi.

Mae un asesiad diarholiad uned 2 ac un arholiad uned 3, ar lefel Safon Uwch.
Uned 2 – Ymchwiliad Personol, prosiect/portffolio ymarferol a
damcaniaethol manwl iawn ac elfen ysgrifenedig estynedig sy’n o leiaf
1000 o eiriau.

Uned 3 – Aseiniad wedi’I osod yn allanol gan y corff dyfarnu.
Bydd pob uned yn cael ei hasesu’n fewnol a’I safoni’n allanol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg iaith Gyntaf a Mathemateg, ynghyd â’r meini prawf canlynol:

– Gradd B/6 mewn pwnc cysylltiedig â Chelf

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Rydym wedi cael myfyrwyr hynod o lwyddiannus, yn y Brifysgol ac mewn cyflogaeth yn y DU a thramor.

Mae’r myfyrwyr yn defnyddio’r sgiliau o’r cwrs I symud ymlaen a chael lle ym mhrifysgolion blaenllaw’r DU I astudio amrywiaeth o gyrsiau Celf a Dylunio a chyrsiau Meddygaeth, Gwyddoniaeth Fforensig, Saesneg yn ogystal â chyrsiau cysylltiedig â Busnes a Gwyddorau Cymdeithasol. Maent wedi ennill lle yn y prifysgolion gorau, er enghraifft, Goldsmiths, University of the Arts London, Falmouth, Caeredin a Glasgow yn ogystal ag Ysgol Gelf Ruskin, Prifysgol Rhydychen.

Efallai y byddwch yn dymuno symud ymlaen I Ddiploma Sylfaen Lefel 3/4 (cyn-radd) mewn Celf a Dylunio
Efallai bydd angen prynu offer/a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Gweler y rhestr offer atodedig I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?