main logo

Celf a Dylunio (Ffotograffiaeth/Digidol) - Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00067
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs UG / U2 yn rhaglen astudio heriol, werth chweil a chyffrous, sy'n cynnig profiad gwerthfawr i'r rheini sydd â diddordeb byw mewn gwneud delweddau digidol a ffotograffiaeth. Mae'r cwrs yn ymdrin ag ystod eang o feysydd ffotograffig fel golygyddol, hysbysebu, ffasiwn, dogfennol, celfyddyd gain ac arferion creadigol.

Byddwch yn meithrin sgiliau creadigol trwy amrywiaeth o weithgareddau ffotograffig, gan ddefnyddio ystod eang o dechnegau, dulliau a delweddaeth arbrofol, ochr yn ochr â phrosesau traddodiadol a digidol i gynhyrchu portffolio personol o waith. Byddwch yn ymchwilio i arferion ffotograffig hanesyddol a chyfoes, gan edrych ar waith eraill am ysbrydoliaeth, yn ogystal â datblygu eich sgiliau golygu a dadansoddi delweddau eich hun. Bydd y cwrs yn ehangu eich sgiliau y gallwch eu trosglwyddadwy gydol oes, fel datrys problemau, dysgu’n annibynnol ac iaith weledol, wrth annog eich potensial creadigol yr un pryd.

Gan ddefnyddio ein stiwdio ffotograffiaeth arbenigol, ystafelloedd tywyll gwlyb ac ystafelloedd mhac digidol, byddwch yn dysgu technegau safonol y diwydiant i'ch helpu i ddatblygu eich steil artistig a'ch sgiliau cyfathrebu gweledol. Yn ganolog i'r cwrs mae cyfleoedd i fynychu gweithdai gyda ffotograffwyr a phobl greadigol, ymweliadau ag orielau ac amgueddfeydd, a chymryd rhan mewn cystadlaethau creadigol y diwydiant yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Ar gyfer UG mae un uned asesu di-arholiad – Ymchwiliad Creadigol Personol. Mae hwn yn brosiect/portffolio ymchwilio estynedig wedi’i seilio ar themâu a phynciau sy’n bersonol ac yn ystyrlon i chi. Mae Uned 1 yn cael ei hasesu’n fewnol a’i chymedroli’n allanol.
Ar gyfer Safon Uwch mae dwy uned asesu di-arholiad.
Uned 2 – Ymchwiliad Personol, prosiect/portffolio manwl, sylweddol yn cynnwys elfennau beirniadol, ymarferol a damcaniaethol ac elfen ysgrifennu estynedig gydag isafswm o 1,000 o eiriau.
Uned 3 – Aseiniad wedi’i bennu’n allanol gan y corff dyfarnu.

Mae Uned 2 a 3 yn cael eu hasesu’n fewnol a’u cymedroli’n allanol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau TGAU. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Efallai y byddwch chi’n dymuno mynd ymlaen i Ddiploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio ar lefel cyn gradd, neu cewch barhau gyda’ch astudiaethau mewn prifysgol neu gael cyflogaeth yn y diwydiannau creadigol.

Gall y cwrs hwn arwain at gyfleoedd gyrfa yn y meysydd canlynol: ffotograffydd, gwaith curadurol galeri, rheoli celf, addysgu/darlithio, golygydd, newyddiadurwr lluniau, i enwi dim ond rhai.
Efallai bydd angen prynu offer ac/neu wisgoedd ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?