main logo

Hanes - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00038
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Blwyddyn 1: Gwleidyddiaeth, protest a diwygio yng Nghymru a Lloegr 1880-1980 (Yr astudiaeth o gyfnod)

Mae'r uned hon yn cynnwys pum pwnc:
1. Graddau’r newid mewn cymdeithas 1880-1951
2. Sefyllfa pleidiau gwleidyddol yn newid 1880-1951
3. Effaith y rhyfel ar gymdeithas yng Nghymru a Lloegr 1902-1951
4. Arwyddocâd prif ddatblygiadau yng Nghymru a Lloegr 1918-1980
5. Rôl merched yn newid 1990-1980

Mae’r cyfnod hwn ym Mhrydain yn un sydd o ddiddordeb mawr I haneswyr. Mae’n astudio Prydain yn y cyfnod modern, gan edrych ar bynciau sy’n berthnasol iawn hyd heddiw. Mae’r pwnc effaith y rhyfel yn edrych ar Ryfel y Boer yn ogystal â’r ddau Ryfel Byd ac ystyried effaith gymdeithasol ac economaidd bob rhyfel. Mae'r cysyniad o les yn cael ei astudio'n fanwl gan ystyried Diwygiadau Rhyddfrydol a Llafur. Mae ffasiwn, cerddoriaeth a mudiadau poblogaidd y 50au, 60au a 70au yn ogystal â rôl merched yn newid, yn bynciau poblogaidd sy'n ennyn diddordeb y myfyrwyr mewn trafodaeth fywiog.

UG: Yr Almaen Weimar, c1918-1933 (Yr astudiaeth fanwl)

Bydd yr elfennau canlynol o Weimar yn cael eu harchwilio, materion a digwyddiadau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yn ystod y cyfnod yn yr Almaen o 1918 hyd at 1933. Bydd y dadansoddi yn canolbwyntio ar ba mor llwyddiannus fu llywodraethau Weimar wrth geisio sefydlogi gwleidyddiaeth a’r economi. Yn gysylltiedig â hynt a helynt y cyfnod Weimar, byddwn yn ystyried esgyniad Hitler a thwf y Blaid Natsïaidd. Byddwn yn ystyried arweinyddiaeth, ideoleg y Natsïaid, trefniadaeth y blaid, propaganda, y SA a’r SS, a natur yr etholaeth. Bydd gwerthusiad o ddehongliadau cystadleuol o faterion allweddol yn hanfodol fel: ‘Pam wnaeth y Parti Natsïaidd dyfu mor gyflym yn y cyfnod rhwng 1929 a 1933?’, ‘Oedd cwymp Gweriniaeth Weimar yn anochel?’

Blwyddyn2:

Mae’r rhan Safon Uwch yn cynnwys tair elfen: Y modiwl cyntaf yw’r astudiaeth eang sy’n ystyried gwrthryfeloedd, bygythiadau a phrotestiadau cyfnod y Tuduriaid, yn ogystal â chyflwr tlodi a chrwydraeth rhwng 1485 a 1603. Mae’r ail fodiwl yn astudio’r Trydydd Reich mewn manylder, 1933-1945 gan adolygu’r Natsïaid yn rheoli ac effaith hynny yn yr Almaen a ledled Ewrop. Y trydydd modiwl yw’r asesiad di-arholiad, sy’n ddarn ysgrifenedig estynedig 3000-4000 o eiriau (20% o’r cymhwyster Safon Uwch).
Asesir yr astudiaeth Cyfnod UG trwy ddewis o gwestiynau traethawd strwythuredig, tra bydd yr Astudiaeth Fanwl yn cynnwys cwestiynau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a bodloni’r meini prawf canlynol:

– TGAU iaith Saesneg / Cymraeg iaith gyntaf gradd B/6 neu uwch
– TGAU Hanes gradd C/4 neu uwch

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Mae hanes yn darparu ystod o sgiliau i fyfyrwyr, gan gynnwys sgiliau dadansoddi a gwerthuso, lle mae llawer o yrfaoedd yn gofyn amdanynt, er enghraifft, y gwasanaeth sifil, y gyfraith neu reoli. Mae gyrfaoedd eraill a all fod yn fwy cysylltiedig â hanes yn cynnwys, er enghraifft, archifydd, curadur amgueddfa, swyddi treftadaeth, athro/athrawes neu ddarlithydd.
Gall fod yn ofynnol prynu offer a/neu wisg benodol ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?