main logo

Tystysgrif Lefel 3 CBAC mewn Troseddeg

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA16729
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Bydd y cwrs yn cael ei addysgu dros ddwy flynedd ac yn cael ei ddilyn fel rhan o astudiaethau Safon Uwch. Rhaid i ddysgwyr gwblhau pob uned yn ystod y ddwy flynedd er mwyn ennill y cymhwyster.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Diweddarwyd manyleb CBAC yn 2021 ac mae'r cymhwyster, ar ôl ei gwblhau, werth yr un pwyntiau UCAS â phynciau Safon Uwch. Erbyn hyn maen bosib ei astudio ochr yn ochr â chymwysterau Safon Uwch fel rhan o lwybr lefel 3 / Cymhwyster Safon Uwch.

Wedi’i gynllunio i gynorthwyo dysgwyr sy’n symud ymlaen i’r brifysgol yn bennaf, mae ein cymhwyster Troseddeg Lefel 3 wedi’i gynllunio i ddarparu profiadau cyffrous a diddorol sy’n canolbwyntio ar ddysgu i bobl ifanc 16-19 oed a dysgwyr sy’n oedolion trwy ddysgu cymhwysol.

Mae’r cymhwyster hwn yn cynorthwyo gyda dilyniant dysgwyr wrth iddynt symud ymlaen o unrhyw astudiaethau Lefel 2 yn enwedig TGAU mewn Cymdeithaseg, y Gyfraith, Seicoleg, Dinasyddiaeth, a’r Dyniaethau.

Unedau’r flwyddyn gyntaf
- Uned 1: Newid Ymwybyddiaeth o Drosedd (gwaith cwrs)
- Uned 2: Damcaniaethau Troseddegol (arholiad)

Unedau’r ail flwyddyn
- Uned 3: O’r Safle Trosedd i’r Ystafell Llys (gwaith cwrs)
- Uned 4: Trosedd a Chosb (arholiad)

Mae enghreifftiau o fodiwlau'r flwyddyn gyntaf sy'n ffurfio Uned 2, yn cynnwys testunau ar y canlynol
- Cymharu ymddygiad gwyrdroëdig
- Adeiladwaith cymdeithasol trosedd
- Damcaniaethau biolegol troseddolrwydd
- Damcaniaethau unigolyddol am droseddolrwydd
- Dadansoddiad o sefyllfaoedd lle mae troseddau yn cael eu cyflawni
- Gwerthuso damcaniaethau trosedd
- Datblygu polisïau
- Sut mae ymgyrchoedd yn effeithio ar lunio polisïau
Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu drwy gyfuniad o arholiad ac asesiad dan reolaeth yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at fyfyrwyr Safon Uwch sydd â diddordeb mewn gyrfa gyda’r Heddlu / Gorfodi’r Gyfraith / Cyfiawnder Ieuenctid / Gwasanaethau Prawf / Carchardai / Gofal Cymdeithasol.
Efallai bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?