main logo

Technoleg Ddigidol - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA16218
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dysgir y cynnwys UG yn y flwyddyn astudio gyntaf.
Dysgir y cynnwys U2 yn yr ail flwyddyn astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn annog ymgeiswyr i ddatblygu’r:
• gallu I feddwl yn greadigol, arloesol, dadansoddiadol, rhesymegol a beirniadol;
• sgiliau I gydweithredu;
• gallu I gymhwyso sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth TGCh mewn ystod o gyd-destun er mwyn datrys problemau;
• dealltwriaeth ynghylch canlyniadau defnyddio TGCh ar unigolion, sefydliadau a’r gymdeithas ac ystyriaethau cymdeithasol, cyfreithiol, moesegol ac eraill ynghylch defnyddio TGCh;
• ymwybyddiaeth am dechnolegau sy’n dod i’r amlwg a gwerthfawrogi effaith potensial y rhain ar unigolion, sefydliadau a chymdeithas.

Uwch Gyfrannol: Mae Unedau 1 a 2 yn ymwneud â chymhwyso TGCh I ddatrys problemau ac astudio’r cyfleoedd I, ac effeithiau defnyddio TGCh yn y byd heddiw. Bydd ymgeiswyr yn cael y cyfle I weithio gydag amrediad eang o feddalwedd a chaledwedd I greu datrysiadau ar gyfer problemau’n ymwneud â busnes.

Safon Uwch: Mae Unedau 3 a 4 yn caniatáu astudio’r cysyniadau sy’n gysylltiedig â defnyddio TGCh yn yr unfed ganrif ar hugain. Bydd dysgwyr hefyd yn cael cyfleoedd I gaffael y sgiliau sydd eu hangen yn y proffesiwn TGCh, megis cydweithio a rheoli prosiect. Gellir datblygu’r sgiliau ymarferol hyn mewn meysydd TGCh o ddiddordeb iddynt. Caiff myfyrwyr ddefnyddio’r sgiliau newydd hyn fel hwb I gymwysterau ac amgylcheddau gwaith eraill.
Bydd Unedau 1 a 3 yn cael eu hasesu’n allanol trwy gyfrwng papurau ysgrifenedig dan amodau arholiad. Bydd Unedau 2 a 4 yn cael eu hasesu gan y ganolfan a’u cymedroli’n allanol gan CBAC.

Rhaid i’r ymgeiswyr gynhyrchu adroddiad wedi’i seilio ar eu gwaith ymarferol/ymchwil. Cynhelir ffug arholiadau mewnol er mwyn darpar ymarfer realistig ar gyfer arholiadau.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Gallai’r cymhwyster hwn alluogi dysgwyr i fynd ymlaen i addysg uwch neu waith yn un o’r llu o feysydd galwedigaethol sy’n dod i’r amlwg ym maes TGCh.
Efallai y bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?