main logo

Cymraeg (Ail Iaith) - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA09150
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Dewch I astudio Cymraeg! Mae’r cwrs hwn ar gael I ddysgwyr llawn amser sy’n dymuno astudio UG a Safon Uwch mewn Cymraeg fel Ail Iaith. Mae’r fanyleb Cymraeg Ail Iaith
UG a Safon Uwch wedi’I llunio I annog myfyrwyr i:

1. Astudio’r Gymraeg gyda diddordeb, pleser a brwdfrydedd;
2. Cyfathrebu’n gywir ac yn rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn ystod eang o sefyllfaoedd a chyd-destunau;
3. Ysgrifennu’n greadigol ac yn ffeithiol ar gyfer ystod o ddibenion;
4. Dadansoddi testunau cyfarwydd ac anghyfarwydd yn annibynnol;
5. Gwrando ac ymateb I farnau pobl eraill wrth fynegi barn;
6. Mynegi barn annibynnol, yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth am destunau llenyddol a ffeithiol;
7. Ymateb yn Gymraeg yn glir, mewn modd perthnasol, hyderus a strwythuredig;
8. Chwarae rôl briodol mewn cymdeithas ddwyieithog ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol I ymgeiswyr sydd eisoes wedi cwblhau cwrs TGAU mewn Cymraeg fel Ail Iaith. Mae’r cwrs hefyd yn addas I ymgeiswyr sydd â diddordeb yn niwylliant Cymru, yn enwedig astudio ffilmiau, cerddi a hanes Cymru. Diben y fanyleb hon ydy meithrin sgiliau cyfathrebu ymgeiswyr, mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig. Ei bwriad yw datblygu eu gallu I ddefnyddio’r Gymraeg yn llawn dychymyg. Anogir darllen
yn eang, yn ogystal â dysgu gweithiau llenyddol penodol yn drwyadl. Mae’r gallu I ymateb I ddeunyddiau llenyddol ac amlgyfryngau cyfoes yn cael ei hyrwyddo er mwyn dod I werthfawrogi treftadaeth ddiwylliannol Cymru. Gwnaeth CBAC ryddhau cwrs newydd yn
2016-17 a fydd yn apelio at fyfyrwyr sy'n edrych I ehangu eu gwybodaeth am agweddau diddorol iawn ar hanes a diwylliant Cymru, ac sydd â diddordeb yng Nghymru gyfoes.
Mae llawer o'r testunau ar y cwrs wedi'u moderneiddio I apelio at ddysgwyr 16+ oed.

Anfonwch e-bost at Carys - carys.roberts@cambria.ac.uk - I weld a ydych chi’n addas ar gyfer y cwrs hwn neu os hoffech chi ragor o wybodaeth am gynnwys y cwrs. Mae’r cwrs hwn yn fwy addas I ddysgwyr sydd wedi cael gradd C neu uwch yn y cwrs llawn, ond mae myfyrwyr sydd wedi cwblhau'r cwrs byr hefyd yn gallu astudio'r pwnc hwn a byddant yn cael eu cefnogi I wneud hynny.
Y flwyddyn Safon Uwch (Y flwyddyn astudio gyntaf)
Mae tri maes astudio yn seiliedig ar asesiadau craidd siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu:
CA1: Astudio ffilm o’r enw PATAGONIA ac arholiad llafar mewn grŵp o 2-3 o bobl yn profi eich astudiaeth o’r ffilm. Mae yna hefyd asesiad byr (unigol) gyda’r arholwr am eich pwnc gwaith cwrs dewisol.
CA2: GWAITH CWRS. Mae hwn wedi’i gynllunio i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu yn syml ond yn effeithiol yn y Gymraeg. Byddwch yn dewis pwnc sy’n eich diddori a’ch ysbrydoli. Mae’n rhaid i’r pwnc dan sylw fod â chysylltiad Cymreig e.e. Cestyll, chwedlau, hanes, diwylliant.
CA3: Arholiad ysgrifenedig yn seiliedig ar RAMADEG a BARDDONIAETH. Byddwch yn ymateb i dri chwestiwn yn profi eich astudiaeth o ramadeg. Byddwch hefyd yn ysgrifennu am gerdd wedi’i dewis o blith 5 cerdd a astudiwyd yn y dosbarth. Mae’r cerddi hyn yn rhai pleserus a chyfredol, a byddant yn galluogi’r myfyriwr i ddysgu termau newydd a gwella eu rhuglder trwy astudio testunau llenyddol yn yr iaith Gymraeg.

Y flwyddyn A2 (Yr ail flwyddyn astudio)
Mae yna dair uned astudio yn yr ail flwyddyn:
CA4: Astudio drama Gymraeg gyfoes o’r enw CRASH. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn arholiad llafar mewn grwpiau ac yn ymateb i gwestiynau sy’n profi eu gwybodaeth am y ddrama. Bydd yna hefyd arholiad unigol yn seiliedig ar astudio themâu Cymreig yn y cwrs. Gelwir hyn yn SYNOPTIG.
CA5: Arholiad ysgrifenedig 2 awr sy’n profi’r meysydd canlynol: Yr Iaith Gymraeg mewn Cymdeithas a Thrawsieithu. Mae’r uned hon yn galw am astudio hanes Cymru: gwleidyddol, cymdeithasol ayb. Mae’r uned hefyd yn ymwneud ag ymarfer y sgìl o drawsieithu – nid cyfieithu – ond dehongli deunydd Saesneg trwy ymateb yn y Gymraeg.
CA6: Arholiad ysgrifenedig 2 awr yn seiliedig ar gyfres o brofion gramadeg, ac adran sy’n profi gwybodaeth ac ymatebion i bedair stori fer Gymraeg gan gynnwys traethawd yn cymharu a chyferbynnu themâu ar draws y cwrs Cymraeg.

Sgiliau: Ceir pwyslais cryf ar sgiliau llafar a gwrando ym mhob gwers a digon o gyfle i weithio mewn parau a grwpiau, gyda’r cynorthwyydd Cymraeg ac yn annibynnol. Datblygir sgiliau ysgrifennu yn systematig trwy gydol y cwrs, yn yr un modd â’r gallu i ddelio â ffurfiau llafar ac ysgrifenedig yr iaith mewn amryw o gyd-destunau.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Sylwch: Ni fydd myfyrwyr sydd wedi astudio TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf / Llenyddiaeth Gymraeg (Iaith Gyntaf) yn cael astudio Cymraeg fel ail iaith.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae pwysigrwydd astudio’r Gymraeg yn amlwg, beth bynnag yw eich uchelgeisiau gyrfaol. Bellach, mae cyflogwyr yn nodi pa mor ddymunol yw cymhwyster yn y Gymraeg wrth geisio am swyddi. Fe allech ddewis astudio’r pwnc hwn er eich mwynhad eich hun, er bod cyfleoedd gyrfa yn cael eu creu yn sgil meddu ar gymhwyster yn y Gymraeg megis addysgu, cyfieithu, dehongli a gweithio gyda busnesau sy’n galw am gyfathrebu yn y Gymraeg.

Mae ieithoedd yn cyfuno’n dda ag unrhyw bwnc yn awr bod mwy o sefydliadau AU yn cynnig mwy o bosibiliadau i barhau i astudio iaith. Mae astudio iaith yn galw am ddychymyg, hunanddisgyblaeth a’r gallu i gyfathrebu. Mae’r rhain yn nodweddion dymunol iawn i ddarpar gyflogwyr.
Efallai y bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?