main logo

Hyfforddiant Llif Dorri Pŵer (1 diwrnod)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA87864
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Mae hwn yn gwrs 1 diwrnod (09:00 – 16:00)
Adran
Adeiladu a Gwaith Adeiladu
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad Gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs yn cynnwys amrywiaeth o lifau torri petrol a batri. Mae'r cwrs yn ymdrin â gwybodaeth a gwaith ymarferol ar sefydlu a defnyddio:

• Rheoliadau a deddfwriaeth sy'n rheoli llifau torri petrol a'u disgiau torri
• Prif elfennau'r llif dorri a'u swyddogaethau
• Risgiau llwch, sŵn, dirgrynu a thagu sy'n deillio o ddefnyddio’r llifau, a'r angen am gyfarpar diogelu personol (PPE) cywir
• Cod diogelwch gweithredwyr gan gynnwys y risgiau o wrthlamu, tynnu i ffwrdd, dringo a phinsio
• Gwiriadau cyn defnyddio a gweithdrefnau adrodd ar ddiffygion
• Dewis, adnabod a gosod olwynion sgraffinio ar lifau torri gan gynnwys addasu'r gard
• Archwilio a chynnal a chadw llifau torri
• Dewis, archwilio a gosod olwynion torri ar lifau torri petrol
• Paratoi ac asesu'r maes gwaith
• Cludo, gafael yn a thywys y llif dorri
• Gweithdrefnau cychwyn oer a chynnes diogel
• Atal llwch
• Ail-lenwi â thanwydd yn ddiogel
• Defnydd diogel wrth dorri'n fertigol ac yn llorweddol (concrit a dur)
• Cludo a storio'r llif dorri
Dim asesiad ffurfiol, asesiad ffurfiannol parhaus o sgiliau ymarferol a phrawf byr i asesu’r wybodaeth a ddysgwyd. Bydd pawb sy’n cwblhau’r cwrs yn derbyn tystysgrif cyflawniad Coleg Cambria.
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol na chymwysterau ffurfiol i gofrestru ar y cwrs. Unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu, neu’n bwriadu gweithio ynddo
Gwaith tir, gwaith carreg, gosod brics, toi, palmantu a slabio a gweithwyr adeiladu cyffredinol
£100
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?