main logo

Cwrs Ymarferydd PRINCE2(R)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA16716
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, 2 ddiwrnod
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
09 Jul 2024
Dyddiad Gorffen
16 Jul 2024

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd angen i ddysgwyr allu cyrchu’r rhyngrwyd ac mae angen cyfrif Gmail arnynt (wrth i ddysgwyr gofrestru gyda’r coleg byddant yn cael cyfrif Gmail). Mae’r dulliau cyflwyno’n gyfuniad o ffrydio’n fyw, rhyngweithio fel grŵp a thasgau unigol.

Mae PRINCE2® yn ddull strwythuredig o reoli prosiectau y gellir ei deilwra I brosiect o unrhyw faint. Mae PRINCE2® yn canolbwyntio ar gyfiawnhad busnes, yn diffinio strwythur sefydliad yn glir ar gyfer y tîm prosiect, a defnyddio dull cynllunio sy’n seiliedig ar y cynnyrch. Mae wedi cael ei ddatblygu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn seiliedig ar arfer orau, ac mae’n feincnod ar gyfer rheolwyr prosiectau a dderbynnir yn rhyngwladol. Gall sefydliadau sy'n integreiddio PRINCE2® I mewn I'w prosiectau fod yn sicr y byddant yn cael eu rheoli’n rhagorol. Bydd unigolion sy’n chwilio am waith fel rheolwyr prosiectau yn gwybod fod ardystiad gan arweinydd y farchnad yn ychwanegiad cadarn at eu portffolio proffesiynol.

Ymarferydd PRINCE2®
Diben yr ardystiad Ymarferydd yw cadarnhau a yw’r ymgeisydd wedi ennill dealltwriaeth ddigonol o sut I gymhwyso a theilwra PRINCE2® mewn sefyllfa senario. Dylai Ymarferydd llwyddiannus, gyda chyfarwyddyd addas, allu dechrau cymhwyso’r dull I brosiect go iawn. Mae’r ardystiad yn parhau am 3 blynedd, cyn bydd angen ail-gofrestru. Mae’n rhaid llwyddo ar lefel Sylfaen ar gyfer yr ardystiad Ymarferydd.
Mae’r cwrs hwn yn defnyddio 6ed argraffiad (2017) y maes llafur.
Mae’r gost yn cynnwys yr addysgu, deunydd y cwrs, llawlyfr electroneg a’r arholiad (ymgais gyntaf yn unig).

Mae PRINCE2® yn nod masnach gofrestredig AXELOS Limited, ac fe’I defnyddir gyda chaniatâd AXELOS Limited. Cedwir pob hawl Mae’r logo Swirl™ yn nod masnach gofrestredig AXELOS Limited, ac fe’I defnyddir gyda chaniatâd AXELOS Limited. Cedwir pob hawl.
Arholiad Ymarferydd: Arholiad aml ddewis, llyfr agored, 2.5 awr. Bydd arholiadau naill ai ar-lein neu ar bapur. Bydd rhagor o fanylion ar gael erbyn diwedd mis Ionawr 2023.

Gwaith cartref: Gwaith Cartref: Mae’r cwrs hwn yn ddwys! Mae angen cyflwyno gwaith 12 awr CYN y cwrs. Yn ogystal mae angen tua 12-15 awr o astudio ychwanegol yn ystod a/neu cyn sefyll yr arholiad. Gosodir y gwaith cartref ar noson y cwrs, ac mae’n para tua 2 awr.
Dim, ar wahân i ddiddordeb mewn rheoli prosiectau. Mae angen llwyddo yn yr arholiad Sylfaen er mwyn sefyll yr arholiad Ymarferydd.
Rheoli Prosiectau.
£800
neu am ddim os rydych yn gymwys ar gyfer cyllid PLA. I fod yn gymwys mae’n rhaid bod yn hŷn na 19, mewn cyflogaeth ac yn ennill o dan £29,534 y flwyddyn neu’n hunangyflogedig.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?