main logo

Cwrs Sylfaen PRINCE2(R)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA15091
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, 3 diwrnod
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
18 Jun 2024
Dyddiad Gorffen
02 Jul 2024

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd angen i ddysgwyr allu cyrchu’r rhyngrwyd ac mae angen cyfrif Gmail arnynt (wrth i ddysgwyr gofrestru gyda’r coleg byddant yn cael cyfrif Gmail). Mae’r dulliau cyflwyno’n gyfuniad o ffrydio’n fyw, rhyngweithio fel grŵp a thasgau unigol.

Mae PRINCE2® yn ddull strwythuredig o reoli prosiectau y gellir ei deilwra I brosiect o unrhyw faint. Mae PRINCE2® yn canolbwyntio ar gyfiawnhad busnes, yn diffinio strwythur sefydliad yn glir ar gyfer y tîm prosiect, a defnyddio dull cynllunio sy’n seiliedig ar y cynnyrch. Mae wedi cael ei ddatblygu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn seiliedig ar arfer orau, ac mae’n feincnod ar gyfer rheolwyr prosiectau a dderbynnir yn rhyngwladol. Gall sefydliadau sy'n integreiddio PRINCE2® I mewn I'w prosiectau gael sicrwydd o lywodraethu rhagorol. Bydd unigolion sy’n chwilio am waith fel rheolwyr prosiectau yn gwybod fod ardystiad gan arweinydd y farchnad yn ychwanegiad cadarn at eu portffolio proffesiynol.
PRINCE2® Sylfaen
Diben y lefel Sylfaen yw cadarnhau fod gennych ddigon o wybodaeth a dealltwriaeth o’r dull PRINCE2® I allu gweithio gyda thîm rheoli prosiectau, neu yn aelod ohono, mewn amgylchedd sy’n cefnogi PRINCE2®. Hefyd, mae lefel Sylfaen yn angenrheidiol ar gyfer yr ardystiad Ymarferydd. Gellir cwblhau’r cwrs hwn ar ei ben ei hun.

Mae’r cwrs hwn yn defnyddio 6ed argraffiad (2017) y maes llafur.
Mae’r gost yn cynnwys yr addysgu, deunydd y cwrs, llawlyfr electroneg a’r arholiad (ymgais gyntaf yn unig).

Mae PRINCE2® yn nod masnach gofrestredig AXELOS Limited, ac fe’I defnyddir gyda chaniatâd AXELOS Limited. Cedwir pob hawl Mae’r logo Swirl™ yn nod masnach gofrestredig AXELOS Limited, ac fe’I defnyddir gyda chaniatâd AXELOS Limited. Cedwir pob hawl.
Arholiad Sylfaen: Arholiad aml ddewis, heb lyfrau, 1 awr.

Gwaith cartref: Gwaith Cartref: Mae’r cwrs hwn yn ddwys! Mae angen cyflwyno gwaith 12 awr CYN y cwrs. Yn ogystal mae angen tua 12-15 awr o astudio ychwanegol yn ystod a/neu cyn sefyll yr arholiad. Gosodir y gwaith cartref ar noson y cwrs, ac mae’n para tua 2 awr.
Dim, ar wahân i ddiddordeb mewn rheoli prosiectau. Mae angen cyflawni’r arholiad Sylfaen er mwyn sefyll yr arholiad Ymarferydd.
Rheoli Prosiectau
£870
neu am ddim os rydych yn gymwys ar gyfer cyllid PLA. I fod yn gymwys mae’n rhaid bod yn hŷn na 19, mewn cyflogaeth ac yn ennill o dan £29,534 y flwyddyn neu’n hunangyflogedig.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?