main logo

City & Guilds Diploma Lefel 3 YMCA mewn Gweinyddu Busnes

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA07408
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, 15 Mis.

Caiff y cymwysterau hyn eu hennill trwy gwblhau unedau sgiliau a gwybodaeth. Rydym yn annog dysgwyr i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gydag arweiniad a chefnogaeth asesydd. Bydd yr amser a gymerir i gwblhau yn amrywio yn unigol, ond mae gan ddysgwyr amserlen o 15 mis i gwblhau’r holl gydrannau gofynnol.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad Gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Diploma NVQ Lefel 3 City & Guilds mewn Busnes a Gweinyddu yn rhoi’r hyblygrwydd i ddysgwyr ddatblygu eu dealltwriaeth o ystod eang o weithgareddau gweinyddol fel rheoli gwybodaeth, cydlynu digwyddiadau a rhoi gweithdrefnau a systemau ar waith.

Mae hefyd yn rhoi’r cyfle iddynt gael sgiliau busnes hanfodol mewn gwneud penderfyniadau a rheoli adnoddau a phrosiectau. Yn ystod y rhaglen mae dysgwyr yn ymdrin ag ystod eang o destunau o bob agwedd ar waith gweinyddol. Yna gallant adeiladu ar eu cyflawniadau i ennill mwy o sgiliau technegol a rheoli, yn ogystal â goruchwylio eraill a chyfrannu at strategaeth ehangach eu sefydliad neu adran.

Mae cymwysterau Lefel 3 wedi'u hanelu'n gyffredinol at swyddogion gweithredol/gweithwyr gweinyddol, arweinwyr timau gweinyddol, cymhorthwyr personol neu ysgrifenyddion, gan gynnwys ysgrifenyddion cyfreithiol neu feddygol.

Sesiwn ymsefydlu 1 x sesiwn 3 awr i gynnwys holiadur cyn y cwrs a chofrestru. Gellir teilwra’r asesiad o unedau i fodloni anghenion y dysgwr a’r cyflogwr a gellir ei gyflwyno yn y gweithle.

Bydd asesiad cychwynnol manwl yn cael ei gynnal. Mae’r Tîm Asesu yng Ngholeg Cambria yn gweithio’n agos gyda busnesau, adrannau, rheolwyr a gweithwyr i gyflwyno cymwysterau wedi’u teilwra yn seiliedig ar swyddi unigol.

Bydd cymorth strwythuredig ar gael yn y gweithle a chymorth hyblyg yn y coleg.

Bydd cymorth gan yr asesydd dros y ffôn / e-bost ar gael hefyd.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi cyfleoedd i’r dysgwr gael gwaith mewn swydd weinyddol/goruchwylio o fewn unrhyw fath o sefydliad a gall gynnig dilyniant i Ddiploma Lefel 4 a Phrentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes.
I gael rhagor o fanylion cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?