main logo

BEng (Anrh) mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch (Tryd / Mec)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP51321
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n astudio Gradd 3 mlynedd Baglor Anrhydedd ar y cwrs hwn ymgymryd â chyfnodau hunanastudiaeth a threulio rhywfaint o amser ym Mhrifysgol Abertawe, yn ychwanegol at yr oriau a addysgir.
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
19 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
30 Jul 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o bynciau gweithgynhyrchu uwch sydd wedi’u datblygu yn unol ag anghenion cyflogwyr. Mae’r rhaglen hon ar gyfer myfyrwyr a phrentisiaid uwch sydd am symud ymlaen yn y maes hwn a gwella’u gwybodaeth ymhellach ym maes peirianneg gweithgynhyrchu uwch.

Prif nodweddion astudio’r radd hon yn Cambria:

• Caiff pob modiwl ei addysgu gan diwtoriaid Peirianneg Cambria neu Brifysgol Abertawe sydd ag ehangder o wybodaeth ddiwydiannol ac academaidd
• Cysylltiadau rhagorol â llawer o fusnesau ac arweinwyr busnes
• Cyfleusterau ac adnoddau o’r radd flaenaf
• Cyfuniad o astudiaethau academaidd sy’n cysylltu â rhaglenni galwedigaethol ymarferol ym mhob modiwl pwnc
• Cymorth rhagorol I fyfyrwyr, gyda thiwtor personol I bob myfyriwr
• Darparwr profiadol o lwybrau prentisiaeth

MODIWLAU:

Blwyddyn 1:

• Dadansoddi Peirianegol 1
• Busnes, Rheoli a Safon
• Egwyddorion Trydanol ac Electronig
• Peirianneg Gweithgynhyrchu
• Gwyddorau Peirianneg
• Dysgu yn y Gwaith
• Arferion Peirianneg Broffesiynol

Blwyddyn 2:

• Dadansoddi Peirianegol 2
• Gweithgynhyrchu Uwch, CAM & NDT
• Dadansoddi Diriant a Dynameg
• Prosiect Diwydiannol
• Rheoli ac Offeryniaeth Cylchedau Trydanol
• Peirianneg â Chymorth Cyfrifiadur
• Deunyddiau Peirianneg

Blwyddyn 3:

• Prosiect Ymchwil
• Rheoli Peirianneg
• Dylunio Peirianneg Uwch
• Optimeiddio ac Awtomeiddio
Gweithgynhyrchu
• Systemau a Pheirianneg
• Deunyddiau Peirianneg
Uwch
• Gweithgynhyrchu Digidol
• Dylunio ar gyfer Dibynadwyedd
• Diwydiant 4.0
• Systemau Pŵer
(Llwybr Trydanol yn Unig)
• Dadansoddi Elfen Gyfyngedig
(Llwybr Mecanyddol yn Unig)

Cyflwynir y rhaglen trwy gyfuniad o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb I ddiwallu eich anghenion unigol, yn amodol arnom yn gallu gweithio o fewn canllawiau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru I sicrhau eich diogelwch chi a'n staff. Byddwn yn parhau I gefnogi’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol o bell hefyd. Sylwch pan nad yw’n bosib cwblhau lleoliadau gwaith oherwydd rhesymau diogelwch, byddwn yn addasu modiwlau I gynnwys prosiectau sy’n gysylltiedig â’r gwaith er mwyn I ni barhau I allu datblygu eich sgiliau yn y gwaith.

Dyma gwrs ar gyfer ymgeiswyr sydd yn cael eu cyflogi mewn maes peirianneg perthnasol. Bydd gofyn i gyflogwyr gynorthwyo trwy roi amser i’r ymgeiswyr ddod ar y cwrs a chynnal eu hastudiaethau, heb unrhyw ofyn i weithio oriau ychwanegol yn eu lle, neu ostwng eu cyflog.


Byddai gofyn i gyflogwyr a myfyrwyr arwyddo Cytundeb Dysgu i fod yn gymwys i gael Cyllid Prentisiaeth Gradd.
Cyflwynir y rhaglen trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, sesiynau tiwtorial rhyngweithiol, siaradwyr gwadd, gweithdai a thechnegau ‘Dysgu Amrywiol’.

Bydd y rhan fwyaf o’r modiwlau’n cael eu hasesu trwy arholiadau ac aseiniadau. Byddwch yn cael adborth ac awgrymiadau ar sut i wella ar gyfer pob arholiad ac aseiniad.

Bydd gofyn i chi dreulio cyfnodau ar leoliadau gwaith ar gyfer y modiwlau dysgu yn y gwaith. Byddwch yn treulio tuag wythnos bob blwyddyn ar safle Prifysgol Abertawe.
Mynediad Fd/BEng Awyrennau/Gweithgynhyrchu Uwch

Fd/BEng Blwyddyn 1

Cymwysterau Safon Uwch â graddau BBB gan gynnwys Mathemateg a Ffiseg. Nid oes gofyniad penodol ar gyfer y trydydd cymhwyster Safon Uwch, ond mae un o’r pynciau canlynol yn cael eu ffafrio: Cemeg, Dylunio, TG/Cyfrifiadura, Mathemateg Bellach neu Fusnes/Economeg.
Cymhwyster HNC perthnasol (120 credyd, gweler y nodyn isod ar gyfer mynediad i Flwyddyn 2).
Gall myfyrwyr sydd â chymhwyster Lefel 3 BTEC gyda gradd Rhagoriaeth yn gyffredinol gan gynnwys rhagoriaeth yn y modiwl Mathemateg Bellach wneud cais hefyd. Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried fesul achos ac efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr sefyll arholiad mynediad a llwyddo ynddo.

Fd/BEng Blwyddyn 2

Gallai myfyrwyr sydd â graddau modiwlau digon uchel* ymuno ag ail flwyddyn y rhaglen Fd/BEng. Bydd Staff Academaidd Prifysgol Abertawe a Cambria yn ystyried ceisiadau fesul achos.

* – Fel arfer, graddau Rhagoriaeth gan gynnwys mathemateg.

BEng Blwyddyn 3

Bydd Gradd Sylfaen sydd â modiwlau tebyg iawn yn cael eu hystyried fesul achos gan Staff Academaidd Prifysgol Abertawe a Cambria.

• Yn ogystal â hynny, mae’n rhaid bod gan bob ymgeisydd gradd C neu uwch mewn TGAU Iaith Saesneg a TGAU Mathemateg neu Rifedd.

Bydd Staff Academaidd Prifysgol Abertawe a Cambria yn ystyried fesul achos unrhyw asesiad o ddysgu blaenorol (fel dyfarniadau datblygiad proffesiynol neu ddyfarniadau sy’n seiliedig ar gyflogaeth) sydd ar lefel Addysg Uwch ond heb gael credydau AU.

Os hoffech wneud cais ar gyfer:

Y Cwrs BEng Awyrennau – chwilio am god cwrs LP00874
Y Cwrs BEng Gweithgynhyrchu Uwch – chwiliwch am god cwrs LP51321
Y Cwrs FdEng Gweithgynhyrchu Uwch – chwiliwch am god cwrs LP51320
Potensial i symud ymlaen i astudio Gradd Meistr mewn prifysgol o’ch dewis chi.

Dyma rai enghreifftiau o opsiynau gyrfa posib yn y diwydiant Peirianneg Awyrennau:

Dyma rai enghreifftiau o opsiynau gyrfa posib yn y diwydiant Peirianneg:
● Peiriannydd Dylunio
● Peiriannydd Prosiect
● Peiriannydd Gweithgynhyrchu Systemau
● Peiriannydd Cymorth Peirianneg Gweithgynhyrchu Ochr Rheilffordd
● Peiriannydd Rheoli Ansawdd
● Peiriannydd Trydanol
● Peiriannydd Mecanyddol
● Peiriannydd Morol
● Peiriannydd Awyrofod
● Peiriannydd Rheolaeth ac Offeryniaeth
● Peiriannydd Rhwydwaith
● Peiriannydd Diriant
● Peiriannydd Mecatroneg
● Peiriannydd Systemau Pŵer
FdEng £7500 y flwyddyn (Blwyddyn 1 a 2)
BEng – £9000 y flwyddyn (Blwyddyn 3)
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?