main logo

FdA Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01198
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, 2 flynedd

Bydd angen i fyfyrwyr sy’n astudio’r cwrs hwn ymgymryd â chyfnodau hunan astudio, yn ychwanegol at yr oriau addysgu.

Mae’r rhaglen hon yn cael ei gyflwyno trwy amrywiaeth o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb er mwyn bodloni eich anghenion unigol, yn amodol ar ein gallu i weithio o fewn arweiniad a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau eich diogelwch chi a’n staff. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol o bell. Sylwch pan nad yw lleoliadau gwaith yn gallu cael eu bodloni am resymau diogelwch, byddwn yn addasu modiwlau i gynnwys prosiectau sy’n ymwneud â’r gweithle mewn ffordd a fydd yn parhau i ddatblygu eich sgiliau yn y gwaith.

Mae’r rhaglen hon yn cynnwys cydran lleoliad gwaith hanfodol. Os nad ydych mewn cyflogaeth yn barod, bydd y coleg yn eich cefnogi i ddarganfod lleoliad gwaith.
Adran
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Dechrau
16 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y Radd Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (datblygwyd a dyfarnwyd gan Brifysgol Bangor) yn eich darparu gyda dealltwriaeth fanwl o bolisïau iechyd a gofal cymdeithasol, theori ac ymarfer a byddwch yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio’n effeithiol mewn amgylchedd amlddisgyblaethol.


Yn unol â’r sector iechyd heddiw sy’n newid yn gyson, y pwyslais yn ystod y cwrs hwn fydd profiadau cymdeithasol o iechyd a gofal a chyflwyno a rheoli gwasanaethau.
Byddwch yn dysgu sut mae darpariaeth a chyflwyniad y gwasanaethau hyn yn cael eu dylanwadu gan y gymdeithasol a’r economi yn ogystal â ffactorau moesegol. Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar eich darparu gyda dealltwriaeth fanwl o’r materion cyfoes allweddol sy’n siapio ein hiechyd a’n cymdeithas ac felly llesiant unigolion a’u cymunedau. Byddwch yn meithrin y sgiliau beirniadol a dadansoddol sy'n sail i arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth.


Pam dewis Coleg Cambria ar gyfer y cwrs hwn? (datblygwyd a dyfarnwyd y rhaglen gan Brifysgol Bangor)


Ein nod yw darparu amgylchedd ddysgu anffurfiol a chyfeillgar. Mae strwythur y radd yn ddigon hyblyg i gynnig amrywiaeth o arbenigeddau a dewisiadau eang.
Caiff y radd ei haddysgu gan arbenigwyr yn y maes sy’n ceisio bod yn arloesol a bodloni anghenion go iawn.
Mae gwaith y flwyddyn ragarweiniol wedi'i gynllunio i fagu hyder, beth bynnag fo'ch cefndir.
Rydym yn defnyddio sawl dull dysgu, ac yn ogystal â meithrin sgiliau personol, rydym yn pwysleisio meithrin sgiliau ymarferol mewn arsylwi, dehongli, prosesu gwybodaeth a chyflwyno. Bydd yr holl sgiliau hynny’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.


Caiff y rhaglen ei chyflwyno trwy gymysgedd arloesol o strategaethau addysgu a dysgu a dulliau, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gwaith grŵp, a dulliau ysgrifennu adfyfyriol.

Modiwlau Blwyddyn 1

Materion Iechyd a Lles mewn Cymdeithas Gyfoes:
Cysylltu Theori ag Ymarfer (20 credyd)
Hanfodion Cymdeithaseg (20 credyd)
Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (20 credyd)
Iechyd a’r Gymdeithas (20 credyd)
Ymddygiad ac Iechyd (20 credyd)
Gweithio gyda Phobl sy’n agored i Niwed (20 credyd)

Modiwlau Blwyddyn 2

Iechyd a Lles Cymharol (20 credyd)
Dulliau Ymchwilio (20 credyd)
Heneiddio a Lles mewn Cymdeithas (20 credyd)
Dehongli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Persbectif yn y Gwaith (20 credyd)
Cymdeithaseg Iechyd (20 credyd)
Safbwyntiau Gwaith Cymdeithasol (20 credyd)
Byddwch yn profi amrywiaeth o ddulliau asesu sydd wedi’u cynllunio i sicrhau bod cynnwys, canlyniadau a lefel y modiwlau yn cael eu mesur mewn modd teg a thryloyw. Bydd dulliau asesu’n cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, portffolios ac arholiadau (llyfr agored).
Sylwch: Rydym yn derbyn ac yn ystyried ymgeiswyr sydd gyda phrofiad galwedigaethol, ond nad oes ganddynt y cymwysterau sydd eu hangen. Rydym yn derbyn bob cais yn unigol.

Rydym yn derbyn myfyrwyr sydd ag amrywiaeth eang o gymwysterau, sgiliau a chefndiroedd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr aeddfed.
Mae angen I fyfyrwyr gael sgiliau sylfaenol da a rydym yn gwerthfawrogi afiliau TG a chyfathrebu.
Mae cynigion ar sail tariff, 80-96 o bwyntiau tariff o gymhwyster Lefel 3* e.e:

Cymwysterau Safon Uwch
Diploma Cenedlaethol/Estynedig BTEC a Diploma Estynedig Dechnegol Cambridge: MMP – MMM
Diploma Bagloriaeth Genedlaethol
Diploma Mynediad I Addysg Uwch
Tystysgrif I Ymadawyr Iwerddon: 80 – 96 pwynt mewn o leiaf 4 Pwnc Uwch
Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE
Bagloriaeth Cymru

Ymgeiswyr Rhyngwladol: Mae cymwysterau I ymadawyr ysgolion a diplomas coleg yn cael eu derbyn o wledydd ledled y byd (yn amodol eich bod chi’n bodloni gofynion sylfaenol Iaith Saesneg)

Mae Coleg Cambria yn gofyn am wiriad DBS ar gyfer y rhaglen hon.

Bydd Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr Coleg Cambria yn cynnal y gwiriadau DBS gyda myfyrwyr cyn dyddiad cychwyn y rhaglen.

Mae angen lleoliad gwaith ar gyfer dau fodiwl 20 credyd yn ystod y rhaglen 2 flynedd (bydd myfyrwyr yn ymgymryd â modiwl yn y gwaith / lleoliad gwaith yn y ddwy flynedd L4 a L5).
Mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn faes amrywiol iawn a fydd yn creu llawer o gyfleoedd ar gyfer eich dyfodol. Bydd y Radd Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn paratoi graddedigion ar gyfer amrywiaeth o swyddi sy’n bodoli yn sectorau ehangach Iechyd a gofal cymdeithasol: gan gynnwys sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector; er enghraifft y GIG, cynghorau lleol, sefydliadau gofal cymdeithasol ac amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector. Bydd cyflogadwyedd yn ganolbwynt cryf ar bob lefel o’r cwrs. Bydd myfyrwyr yn meithrin gwybodaeth, sgiliau a phrofiad gwerthfawr wrth iddynt ddysgu ar y modiwlau, a bydd tîm y rhaglen yn gwahodd ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol a phersonél perthnasol eraill, er enghraifft rheolwyr, defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr, i gyflwyno rhai agweddau o’r cwrs.

Mae myfyrwyr hefyd yn cael cynnig mynediad uniongyrchol i flwyddyn olaf (Lefel 6) y rhaglen BA Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor.

Ar ôl cwblhau’r cwrs gall fyfyrwyr symud ymlaen i astudio graddau eraill er enghraifft nyrsio, bydwreigiaeth, therapi galwedigaethol, gwaith cymdeithasol, neu addysgu.
£7500 y flwyddyn

Mae’r myfyriwr i dalu am gostau teithio yn ôl ac ymlaen i leoliadau gwaith.

Efallai bydd angen prynu cyfarpar a / neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Mae’r rhain wedi’u nodi yn y Rhestr Cyfarpar.

Cod UCAS L51C

Defnyddiwch Brifysgol Bangor fel y Sefydliad ar eich cais Cyllid Myfyrwyr
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?