main logo

Camu at Cambria

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00942
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser, 3 diwrnod yr wythnos
Adran
Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Camu at Cambria yn gwrs sydd wedi’i anelu at y rhai sy’n gadael yr ysgol ac mae’n cael ei gyflwyno dros 3 diwrnod yr wythnos ac mae ar gael ar ein safleoedd Wrecsam a Sir y Fflint.

Os mae rhai o’r datganiadau isod yn berthnasol i chi yna efallai mai dyma’r cwrs cywir i chi:
● Ni wnaethoch chi fynychu ysgol brif ffrwd
● Rydych chi wedi cael eich addysgu gartref
● Ni wnaethoch chi fynychu lleoliad prif ffrwd ac mae angen eich cyflwyno chi i AU yn raddol
● Ni wnaethoch chi sefyll unrhyw arholiadau
● Mae eich graddau TGAU yn isel iawn
● Rydych chi angen cymorth gyda Mathemateg a Saesneg
● Rydych chi’n cael trafferth gyda gorbryder ac iechyd meddwl
● Gwnaethoch chi fethu llawer o’ch addysg
● Rydych chi’n cael trafferth gydag ystafelloedd dosbarth prysur
● Rydych chi eisiau datblygu eich hyder a hunan hyder
● Dydych chi ddim yn canolbwyntio ar lwybr gyrfa

Mae Camu at Cambria yn flwyddyn bontio ac mae’r cwrs wedi’i ddylunio i’ch helpu chi i chwalu’r rhwystrau i ddysgu a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y camau nesaf yn eich taith dysgu, p’un ai fod hynny ar gwrs lefel uwch, Rhaglen Twf Swyddi Cymru+ neu ddechrau yn y byd gwaith. Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i annog dysgu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, i helpu i ddatblygu sgiliau meddal fel hyder, cyfathrebu a gwaith tîm. Yn ystod y tymor olaf bydd sesiynau blasu â chymorth yn cael eu cynnig mewn meysydd galwedigaethol gwahanol i’ch helpu chi i benderfynu ar sector sydd o ddiddordeb i chi.

Mae buddion Camu at Cambria yn cynnwys:
● Dosbarthiadau pwrpasol
● Cymorth dysgu ym mhob sesiwn
● Tiwtoriaid profiadol a chefnogol
● Pontio i’r coleg â chymorth
● Cymorth gan Anogwr Cynnydd yn ystod eich amser ar y rhaglen
● Cyrchu ein hybiau Anghenion Dysgu Ychwanegol a Llesiant
● Tiwtoriaid Mathemateg a Saesneg pwrpasol
● Cwricwlwm sy’n galluogi’r dysgwr i gymryd rhan - fel grŵp byddwch chi’n penderfynu ar rhai o’r unedau rydych chi eisiau eu hastudio.
● Cymwysterau cydnabyddedig a fydd yn eich helpu chi i lwyddo a symud ymlaen

Cymwysterau Camu at Cambria
● Gwobr Dug Caeredin
● Cymhwyster Lefel Mynediad Cyflawniad Ymddiriedolaeth y Tywysog
● Rhaglen Lefel Mynediad 3 mewn Sgiliau Byw a Bywyd - addaswyd i fodloni anghenion y dysgwr

Bydd pob dysgwr yn cwblhau’r asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a
rhifedd.

Cymwysterau Camu at Cambria
● Gwobr Dug Caeredin
● Cymhwyster Lefel Mynediad Cyflawniad Ymddiriedolaeth y Tywysog
● Rhaglen Lefel Mynediad 3 mewn Sgiliau Byw a Bywyd – addaswyd i fodloni anghenion y dysgwr


Asesu trwy dasgau a gwblhawyd trwy gydol y flwyddyn – Nid oes unrhyw arholiadau ffurfiol
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Dyma gwrs pontio sy’n eich helpu chi i ganolbwyntio ar lwybr gyrfa rydych chi eisiau ei ddilyn nesaf. Yn ystod y tymor olaf, byddwch chi’n rhoi cynnig ar sesiynau blasu mewn meysydd galwedigaethol gwahanol er mwyn i chi benderfynu ar eich camau nesaf.

Bydd dilyniant yn cynnwys naill ai cwrs galwedigaethol lefel uwch, rhaglen Twf Swyddi Cymru+ neu gyflogaeth.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?