main logo

Mynediad Cyfun i Addysg Uwch (AU) - Gofal Iechyd (Dechrau yn Mis Medi)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP07017
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser

Mae’r rhaglen Mynediad Cyfun yn gwrs sy’n cael ei gyflwyno trwy gredydau am fodiwlau y gallwch eu hastudio yn llawn amser dros gyfnod o flwyddyn (34 wythnos academaidd) o fis Medi i fis Mehefin. Mae’r cwrs yn cynnig cyswllt wyneb yn wyneb 53%, rhwng 9.15am a 6.30pm ar ddydd Iau ar y safle. Byddwch yn astudio gweddill y cwrs trwy e-ddysgu ar-lein ar amser sy’n gyfleus i chi yn ystod eich wythnos.

Agwedd bwysig o’r rhaglen hon yw rheoli eich amser eich hun ac mae’n hanfodol eich bod yn cynllunio ymlaen llaw o ran sut rydych yn trefnu eich astudiaethau ar-lein ac annibynnol, bydd cael cynllun yn ei lle yn eich cynorthwyo chi a’ch llwyddiant.
Adran
, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Dechrau
05 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y Diploma yw paratoi dysgwyr i astudio mewn prifysgol. Mae'r cwrs yn cynnwys modiwlau gorfodol yn y pynciau arbenigol, ynghyd ag Astudiaethau Sgiliau Craidd. Mae’r unedau’n cynnwys pynciau fel Anatomi a Ffisioleg, Cymdeithaseg ac Iechyd. Bydd y sgiliau craidd yn cynnwys sgiliau fel cyfathrebu ac astudio. Yn ogystal â darlithoedd ffurfiol ac astudio ar-lein, mae modiwl lleoliad gwaith ar gael hefyd (nid oes angen lleoliad gwaith arnoch chi)
Cyflawnir y rhaglen drwy asesu parhaus. Mae’r rhan fwyaf o’r cwrs yn waith aseiniadau gyda rhywfaint o brofion wedi’u hamseru neu arholiadau. Byddwch yn ennill credydau wrth gwblhau pob uned astudio’n foddhaol. Mae’n rhaid cael 60 credyd i ennill y Diploma Mynediad i AU, sy’n cynnwys nifer o gredydau gorfodol. Graddau’r credydau cymhwyster lefel 3 yw Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen astudio lawn yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn Diploma Mynediad I Addysg Uwch – Agored Cymru, sy’n cael ei gydnabod gan ‘QAA’.
TGAU gradd C (4) mewn Saesneg a Mathemateg, gyda gradd D (3) o leiaf yn y pwnc
arall
neu
Lefel 2 AON neu Gyfathrebu, gydag o leiaf Lefel 1 yn y pwnc arall.

Mae profiad mewn lleoliad Gofal Iechyd addas yn ddymunol. Dylai ymgeiswyr fod yn 19
oed neu’n hŷn i astudio'r cwrs hwn.

Fodd bynnag, rydyn ni’n annog oedolion sydd â phrofiad bywyd a gwaith i wneud cais
hefyd, hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw’r gofynion mynediad uchod, gan fod pob cais dysgwr yn cael ei asesu yn unigol.

Caiff darpar ymgeiswyr eu hannog i gysylltu â phrifysgolion unigol i gael gwybodaeth am
ofynion mynediad.

Dylai dysgwyr fod wedi ymrwymo i raglen lawn amser lefel 3 a datblygu eu gallu i astudio.

Mae sgiliau TG yn hanfodol gan fod rhan sylweddol o’r cwrs yn cael ei gyflwyno ar-lein.
Cafodd y cymhwyster Gofal Iechyd ei lunio ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen i astudio cyrsiau gradd a dilyn gyrfaoedd yn y sector gofal fel Nyrsio, Bydwreigiaeth, Therapi Galwedigaethol, Radiograffeg neu Reoli Iechyd.
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?