main logo

DIGWYDDIADAU AGORED MIS MAWRTH YN CAMBRIA CADWCH EICH LLE YN EIN DIGWYDDIADAU MIS MAWRTH RŴAN!

Mae Digwyddiadau Agored Cambria yn gyfle perffaith i ddarganfod sut beth yw astudio gyda ni.

Mae cyfle i ddarganfod rhagor am ba bynciau rydyn ni’n eu cynnig, cymryd cip ar ein cyfleusterau o’r radd flaenaf, cyfarfod â’n tiwtoriaid cwrs arbenigol a siarad â myfyrwyr presennol am sut beth yw astudio yn Cambria.

Bydd partneriaid cyflogwyr ar gael hefyd i drafod cyfleoedd dilyniant a phrentisiaethau.

Bydd Canolfan Brifysgol Cambria wrth law hefyd i drafod cyfleoedd gradd i’r rhai sydd eisiau dechrau cwrs prifysgol ym mis Medi.

Dewch i ddysgu rhagor yn ystod y digwyddiad agored am ein darpariaeth ran-amser a chyfleoedd cyllid sy’n ffitio o amgylch eich swydd bresennol a’ch ffordd o fyw wrth siarad â’n tiwtoriaid profiadol.

Os ydych chi wedi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn yr ysgol gallwch chi barhau i wneud hynny yn Cambria. Mae’r digwyddiadau agored yn gyfle gwych i siarad â thiwtoriaid a darganfod rhagor am ddysgu yn Gymraeg.

Yn ogystal â dysgu am y cyfleusterau a’r gwasanaethau cymorth ar draws ein safleoedd, mae’n gyfle perffaith i wneud cais i astudio gyda ni – bydd gennym ni staff wrth law ym mhob digwyddiad i’ch helpu chi gyda hyn.

Gweler isod restr o ddyddiadau ac amseroedd y digwyddiadau agored Cambria sydd i ddod. Cliciwch ar y digwyddiad isod rydych chi eisiau mynd iddo, cwblhewch eich manylion a chadarnhewch eich cofrestriad ac mi wnawn ni edrych ymlaen at eich cyfarfod chi’n fuan.

 

Cadwch Eich Lle yn Ein Digwyddiad Agored!

Cadwch eich lle yn y digwyddiad agored mae gennych chi ddiddordeb ynddo wrth ddewis y lleoliad/lleoliadau isod. 

Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy

Dydd Mercher 6 Mawrth 5:00PM - 7:00PM
 

I ddod i'r Digwyddiad Agored cliciwch ar y botwm isod

Llysfasi

Dydd Sadwrn 9 Mawrth 10:00AM - 12:00PM
 

I ddod i'r Digwyddiad Agored cliciwch ar y botwm isod

Ffordd y Bers

Dydd Mercher 13 Mawrth 5:00PM - 7:00PM
 

I ddod i'r Digwyddiad Agored cliciwch ar y botwm isod

Iâl a Chweched Iâl

Dydd Mercher 13 Mawrth 5:00PM - 7:00PM
 

I ddod i'r Digwyddiad Agored cliciwch ar y botwm isod

Llaneurgain

Dydd Sadwrn 16 Mawrth 10:00AM - 12:00PM
 

I ddod i'r Digwyddiad Agored cliciwch ar y botwm isod

Cyfleusterau Sy'n Arwain y Diwydiant Ar Draws Saith Safle

Yale Hafod building
Cambria Business Centre

Darganfyddwch ragor o wybodaeth am y cyfleusterau a gallwch chi gyrchu teithiau 3D i gerdded o amgylch pob safle yn rhithwir!

Yn Cambria mae gennym ni 7 safle sy’n cynnwys cyfleusterau o’r radd flaenaf a’r dechnoleg ddiweddaraf i ddysgwyr eu defnyddio. P’un a ydych chi am astudio yn ein Chweched Dosbarth, sy’n cynnig labordai Gwyddoniaeth, stiwdios drama a rhagor sy’n llawn offer neu os ydych chi’n chwilio am gwrs galwedigaethol lle gallwch chi ddysgu gan ddefnyddio cyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n benodol i’r diwydiant, mae gennym ni’r cwrs addas i chi.

Straeon Myfyrwyr

Dewch i glywed gan ein myfyrwyr

Darganfyddwch Gwrs i Chi!

Dewch i ddarganfod pa gyrsiau sydd ar gael ar ein safleoedd

Bersham Site Page Hero
Deeside Sixth Site Page Hero

Darganfyddwch Gwrs i Chi!

Dewch i ddarganfod pa gyrsiau sydd ar gael ar ein safleoedd

Gwybodaeth am ein Coleg

Cafodd y coleg ei sefydlu yn ôl yn 2014, ac ers hynny rydym wedi sefydlu ein hunain yn gyflym fel darparwr addysg blaenllaw yn y DU. Rydym yn un o’r colegau mwyaf yn y DU, gyda thua 6,000 o fyfyrwyr llawn amser, 20,000 o ddysgwyr rhan-amser a llawer o gysylltiadau rhyngwladol.

Ar draws ein saith safle, rydym yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau llawn amser a rhan-amser gan gynnwys cyrsiau Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion, ac Addysg Uwch. Mae’r coleg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â thros 1000 o gyflogwyr yn lleol ac yn genedlaethol i’ch helpu chi i gael cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth.

Play Video about An image depicting the enterance to the reception at Coleg Cambria.
Myfyrwyr Presennol
0 +
Cyrsiau
0 +
Safleoedd
0 +
Darlithwyr
0 +

Syniadau Da ar gyfer Digwyddiad Agored

Gwnewch y gorau o'ch amser yn ymweld â Cambria gyda'r syniadau da yma

Siaradwch â'r tîm

Ffoniwch ni

0300 30 30 007

Anfonwch e-bost atom ni

enquiries@cambria.ac.uk

Oriau agor

8:30 AM - 17:00 PM

Dewch i'n gweld ni

Coleg Cambria Ffordd Celstryn, Cei Connah Glannau Dyfrdwy Sir y Fflint CH5 4BR