main logo

Sut i Wneud Cais

Sut i wneud cais ar gyfer cwrs coleg 16-18

Gallwch wneud cais am eich cwrs delfrydol wrth glicio ar y botwm “Gwnewch Gais Rŵan”. Mae’r botwm “Gwnewch Gais Rŵan” i’w gweld yn adran gwybodaeth am y cwrs ar dudalen y cwrs perthnasol.

Wrth glicio’r botwm bydd y ffurflen cofrestru ar-lein yn ymddangos, bydd angen i chi wneud cyfrif (neu fewngofnodi i’ch cyfrif presennol os oes gennych chi gyfrif yn barod).

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin a sicrhewch eich bod yn cwblhau pob adran o’r ffurflen gais. Os bydd gwybodaeth ar goll bydd yn amharu ar amser prosesu eich cais.

Sut i wneud cais ar gyfer Safon Uwch

Er mwyn gwneud cais ar gyfer cyrsiau Safon Uwch, dewiswch dri phwnc. Bydd pob myfyriwr Safon Uwch yn astudio Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch fel pedwerydd cymhwyster Safon Uwch.

Os ydych chi’n disgwyl cael o leiaf 6 gradd A* (8/9) yn eich TGAU yna efallai y byddwch yn dymuno ystyried dewis pwnc ychwanegol yn ogystal â’r 3 ydych chi wedi’u dewis eisoes.

Os bydd disgwyl i chi gyflawni o leiaf 5 gradd A*/A (7/9) ac yn dymuno ystyried pwnc ychwanegol, yn ogystal â’r 3 ydych chi wedi’u dewis eisoes, yna bydd aelod o staff yn cysylltu â chi i drafod hyn fel rhan o’r broses ymgeisio.

Wrth ystyried y nifer o bynciau Safon Uwch yr hoffech eu astudio, cofiwch bod pob dysgwr Safon Uwch yn cael eu cofrestru’n awtomatig ar y cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ac mae hwn yn cyfrif fel pwnc Safon Uwch ychwanegol.

Pan rydych yn darganfod y pynciau rydych am wneud cais amdanynt cliciwch “Ychwanegu at y rhestr fer” ar gyfer pob un o’r pynciau hynny, gan sicrhau eich bod wedi dewis y cyrsiau cywir ar gyfer y safle cywir (Glannau Dyfrdwy neu Iâl). Pan rydych wedi ychwanegu’r pynciau rydych am wneud cais amdanynt at eich rhestr fer, gallwch glicio “Gwnewch Gais Rŵan”.

Wrth glicio’r botwm bydd y ffurflen cofrestru ar-lein yn ymddangos, bydd angen i chi wneud cyfrif (neu fewngofnodi i’ch cyfrif presennol os oes gennych chi gyfrif yn barod).

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin a sicrhewch eich bod yn cwblhau pob adran o’r ffurflen gais. Os bydd gwybodaeth ar goll bydd yn amharu ar amser prosesu eich cais.

Sut mae'r Broses Ymgeisio yn Gweithio

Dewch o hyd i gwrs a gwnewch gais ar-lein

Pan rydych wedi darganfod y cwrs perffaith rydych am ei astudio gallwch chi wneud cais yn uniongyrchol ar-lein.

Ffurflen Cam 2

Ar ôl i ni gael eich cais, byddwch yn cael e-bost gyda ffurflen i'w chwblhau. Enw'r ffurflen hon yw Ffurflen Cam 2. Llenwch y ffurflen ac anfonwch hi yn ol atom ni.

Penderfyniad am gynigion

Ar ôl i ni gael eich Ffurflen Cam 2, bydd eich cais yn cael ei basio i'r timau cwricwlwm. Ar y cam hwn efallai y bydd y timau cwricwlwm eisiau trafod eich cais gyda chi.

Os yw'r timau cwricwlwm am siarad â chi am eich cais cyn rhoi cynnig i chi efallai y byddant yn cysylltu â chi dros y ffôn o rif nad ydych yn ei adnabod (mae'n debygol o fod yn rif 01978). Cadwch lygad ar eich ffôn ac atebwch yr alwad er mwyn i ni allu prosesu eich cais yn gyflym.

Os yw eich cais yn llwyddiannus byddwch yn cael e-bost a fydd yn cynnwys eich cynnig. Mae hyn yn golygu bod gennych chi le ar gwrs gyda ni os rydych yn bodloni'r gofynion mynediad.

Diwrnod myfyrwyr newydd

Dewch i'n digwyddiad Diwrnod Myfyrwyr Newydd ym mis Mehefin i gael rhagflas o'r coleg a'ch cwrs. Peidiwch â phoeni, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda'r trefniadau am y diwrnod hwn.

Cadarnhau eich lle

Byddwch yn cael e-bost a fydd yn gofyn i chi Gadarnhau Eich Lle ar-lein ar Ddiwrnod Canlyniadau TGAU ym mis Awst. Bydd gwneud hyn yn golygu ein bod ni'n gwybod eich bod am gadarnhau eich lle ar y cwrs ac y byddwch yn ymuno â ni ym mis Medi.

Gwybodaeth am eich dyddiad dechrau

Byddwch yn cael e-bost a fydd yn cynnwys eich dyddiad dechrau a rhagor o wybodaeth ddefnyddiol. Nodwch y byddwch dim ond yn cael yr e-bost hwn ar ôl i chi gadarnhau eich lle.

A oes angen cymorth arnoch i wneud cais?

Os hoffech drafod y broses, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu mae’n well gennych gwblhau ffurflen gais ar bapur, cysylltwch â’n Tîm Derbyniadau ar admissions@cambria.ac.uk neu ffoniwch ni ar  0300 30 30 007, neu defnyddiwch ein cyfleuster Sgwrsio Byw ar wefan y coleg.

Cwestiynau Cyffredin

Dim ond un cais ar gyfer pob person y gallwn ei brosesu ar unrhyw un adeg. Nid yw hyn yn golygu na allwch newid eich meddwl a gwneud cais am rywbeth arall. Os oes gennych chi gais gweithredol a’ch bod yn newid eich meddwl ar y cwrs rydych chi am wneud cais amdano, anfonwch e-bost at admissions@cambria.ac.uk neu defnyddiwch y cyfleuster Sgwrsio Byw ar wefan y coleg neu ffoniwch 0300 30 30 007 a gofynnwch am y Tîm Derbyniadau a byddwn yn newid eich cais i chi.

Dylech wneud cais am 3 chymhwyster Safon Uwch. Mae pob dysgwr Safon Uwch yn cael eu cofretru’n awtomatig ar y cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ac mae hwn yn cyfrif fel pwnc Safon Uwch ychwanegol.

Os ydych yn disgwyl cael o leiaf 6 gradd A* (8/9) yn eich TGAU yna efallai y byddwch yn dymuno ystyried dewis pwnc ychwanegol.

Os bydd disgwyl i chi gyflawni o leiaf 5 gradd A*/A (7/9) ac yn dymuno ystyried pwnc ychwanegol, yna bydd aelod o staff yn cysylltu â chi i drafod hyn fel rhan o’r broses ymgeisio.

Er mwyn dechrau ym mis Medi gallwch wneud cais o ganol mis Tachwedd y flwyddyn cyn i chi fod i ymuno â ni.

Mae ceisiadau ar agor tan ddiwedd mis Medi.

Byddwn yn eich cynghori chi i wneud cais cyn gynted â phosib oherwydd mae ein cyrsiau yn llenwi’n sydyn.

Anfonwch e-bost at admissions@cambria.ac.uk neu defnyddiwch y cyfleuster Sgwrsio Byw ar wefan y coleg neu ffoniwch 0300 30 30 007 a gofynnwch i siarad â’r Tîm Derbyniadau.

Anfonwch e-bost at admissions@cambria.ac.uk neu defnyddiwch ein cyfleuster Sgwrsio Byw ar wefan y coleg neu ffoniwch 0300 30 30 007 a gofynnwch am y Tîm Derbyniadau a byddwn yn cysylltu â chi ac yn cwblhau’r ffurflen gyda chi dros y ffôn. Fel arall galwch heibio unrhyw un o safleoedd y coleg i siarad â’r Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr.

Ar ôl i chi gwblhau a chyflwyno eich Ffurflen Cam 2, dylech gael cynnig dros e-bost o fewn 14 diwrnod.

Os yw’r Timau Cwricwlwm eisiau siarad gyda chi am eich cais cyn rhoi cynnig i chi efallai y byddant yn cysylltu â chi dros y ffôn o rif nad ydych yn ei adnabod (mae’n debygol o fod yn rif 01978).

Cadwch olwg am eu galwad er mwyn i ni allu symud eich cais yn ei flaen.

Wrth gwrs y gallwch chi! Anfonwch e-bost at admissions@cambria.ac.uk neu defnyddiwch ein cyfleuster Sgwrsio Byw ar wefan y coleg neu ffoniwch 0300 30 30 007 a gofynnwch am yr adran Derbyniadau.

Cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr i gael cyngor ac arweiniad. Anfonwch e-bost at studentservices@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 007, a gofynnwch i siarad gyda’r Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr neu galwch heibio un o’n safleoedd i siarad â’r Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr.

Ar gyfer y rhan fwyaf o’n hymgeiswyr mae ein cyrsiau llawn amser am ddim gan eu bod wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru. Ond, efallai y bydd angen i chi archebu cit, offer a gwisg ar gyfer rhai cyrsiau penodol. Mewn rhai achosion efallai bydd cymorth ariannol ar gael i’ch helpu chi i archebu’r eitemau hyn. Cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr i ddarganfod rhagor am gymorth ariannol. Anfonwch e-bost at studentservices@cambria.ac.uk, neu ffonwich 0300 30 30 007 a gofynnwch i siarad â’r Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr neu galwch heibio un o’n safleoedd. Os nad ydych yn ddinesydd y DU/AEE gyda statws sefydlog neu os nad ydych  wedi byw yn y DU am y 3 blynedd diwethaf, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi cwrs i astudio gyda ni. Bydd hyn yn cael ei asesu ar sail unigol yn ystod y broses Derbyniadau.

Cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr i gael cyngor ac arweiniad. Anfonwch e-bost at studentservices@cambria.ac.uk  neu ffoniwch 0300 30 30 007 a gofynnwch i siarad â’r Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr neu galwch heibio un o’n safleoedd i siarad â’r Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr.

Anfonwch e-bost at IS-Support@cambria.ac.uk gan gynnwys eich enw llawn a’ch cod person er mwyn ailosod eich cyfrinair.