Mae Digwyddiadau Agored i Oedolion Coleg Cambria yn gyfle i chi archwilio ein hystod eang o gyrsiau, cyfarfod â’n tiwtoriaid arbenigol, siarad â staff, cael gwybodaeth a chyngor am gyllid a gwneud cais am gwrs.
Mae digonedd o resymau i chi ddod, p’un ai rydych eisiau dysgu rhywbeth newydd neu uwchsgilio eich galluoedd, mae ein digwyddiad yn ffordd berffaith i chi ddarganfod rhagor am ddysgu yn Cambria.
Rhagor o resymau dros fynd i ddigwyddiadau agored i oedolion…
- Ydych chi awydd astudio am radd i gael dyfodol disglair?
- Ydych chi eisiau uwchsgilio i symud ymlaen yn eich gyrfa gyda chwrs datblygu proffesiynol?
- Ydych chi eisiau dysgu rhywbeth newydd gyda chwrs rhan amser?
- A oes angen cyngor am Brentisiaethau arnoch chi?
- Ydych chi eisiau dysgu Cymraeg gyda Cymraeg i Oedolion?
- A oes gennych chi ddiddordeb yn ein dosbarthiadau Saesneg, Mathemateg a Chyfrifiaduron i oedolion am ddim* rydym yn eu cynnal yn eich cymuned?
- Neu ydych chi eisiau darganfod rhagor am ein cyrsiau am ddim* wedi’u hariannu gan Gyfrif Dysgu Personol?
*yn amodol ar argaeledd