main logo

Tystysgrif Sylfaenol IEMA mewn Rheoli’r Amgylchedd

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA17405
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, 6 Diwrnod
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli, Iechyd a Diogelwch, Cadwraeth, Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd
Dyddiad Dechrau
07 Jun 2024
Dyddiad Gorffen
12 Jul 2024

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn wedi'i ddatblygu i roi sylfaen o wybodaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd i ddysgwyr adeiladu arni. Mae’r ystod eang o egwyddorion amgylcheddol, cynaliadwyedd a llywodraethu sy’n cael eu trafod yn sicrhau bod dysgwyr yn gwerthfawrogi ac yn deall ehangder yr agenda cynaliadwyedd, ac mae canolbwyntio ar offer a sgiliau rheoli penodol yn rhoi cyflwyniad i ddysgwyr i gymwysiadau ymarferol y bydd eu hangen arnynt wrth weithio yn y maes hwn.


1. Amlinellu goblygiadau tueddiadau byd-eang i'r amgylchedd, i gymdeithas, i'r economi ac i sefydliadau

2. Amlinellu egwyddorion busnes/llywodraethu cynaliadwy a'u perthynas â sefydliadau, cynhyrchion a gwasanaethau

3. Amlinellu egwyddorion amgylcheddol a'u perthynas â sefydliadau, cynhyrchion a gwasanaethau

4. Amlinellu polisi a deddfwriaeth o bwys a'u goblygiadau i sefydliadau, cynhyrchion a gwasanaethau

5. Amlinellu'r prif offer, technegau, systemau ac arferion a ddefnyddir i wella perfformiad cynaliadwyedd

6. Amlinellu rôl arloesi ac arferion blaenllaw eraill wrth ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy a darparu atebion cynaliadwy

7. Casglu data, dadansoddi, a gwerthuso gwybodaeth lle bo'n briodol

8. Ymchwilio a chynllunio i ddarparu atebion cynaliadwy

9. Cyflwyno cyfathrebu effeithiol a chasglu adborth

10. Ymgysylltu â rhanddeiliaid

11. Amlinellu offer a thechnegau sy'n nodi cyfleoedd a risgiau

12. Nodi a chynnig ffyrdd o wella perfformiad

13. Cefnogi newid a thrawsnewid i wella cynaliadwyedd

Caiff ei asesu trwy arholiad amlddewis llyfr agored 1 awr ar-lein.

Caiff y cwrs ei asesu’n Saesneg.

Cynghorir ymgeiswyr y mae Saesneg yn ail iaith iddynt y dylai eu sgiliau darllen ac ysgrifennu fod yn gyfwerth ag o leiaf Lefel 6 y System Profi Iaith Saesneg Ryngwladol (IELTS).

Prawf ar gyfer Anfrodorol Siaradwyr Saesneg. Gall ymgeiswyr gael gwybodaeth am y gwasanaeth profi iaith hwn o wefan IELTS (www.ielts.org).

Gall ymgeiswyr y mae Saesneg yn ail iaith iddynt hefyd wneud cais am Addasiad Rhesymol (gweler isod)
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ond bydd profiadau yn y gweithle yn helpu gan fod hwn yn gymhwyster proffesiynol.
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n cychwyn gyrfa mewn rheolaeth amgylcheddol ac sydd eisiau sylfaen gadarn o arbenigedd amgylcheddol a chynaliadwyedd i adeiladu arni. Mae cyflawni aelodaeth Gyswllt IEMA, lefel aelodaeth broffesiynol mynediad IEMA, yn helpu i ddarparu tystiolaeth o’r wybodaeth hon yn ogystal â’r ymrwymiad i’r llwybr gyrfa hwn.

Y camau nesaf – Diploma NEBOSH mewn Rheolaeth Amgylcheddol
£1075
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?