main logo

Cwrs Diweddaru Cymorth Cyntaf yn y Gwaith

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA17911
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Cwrs 2 diwrnod, cwblhau 1 diwrnod o e-ddysgu cyn dod i 1 diwrnod yn yr ystafell ddosbarth. Ffoniwch Goleg Cambria ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i gael dyddiadau’r cwrs.
Adran
Iechyd a Diogelwch
Dyddiad Dechrau
15 Jul 2024
Dyddiad Gorffen
15 Jul 2024

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â holl ofynion dan y cod ymarfer cymeradwyedig ar gyfer Cymorth Cyntaf yn y gwaith, a gall deiliaid y dystysgrif fel Pobl Cymorth Cyntaf ei defnyddio yn unol â’r Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981. Mae’r cwrs yn cynnwys:

*Damweiniau a salwch
*Adfywio
*Rhoi CPR gan gynnwys defnyddio AED
*Anymwybyddiaeth
*Problemau â’r llwybr anadlu ac anadlu
*Problemau cylchrediad y gwaed
*Clwyfau a gwaedu
*Achosion o wenwyno, llosgi a sgaldio
*Anafiadau i’r esgyrn, y cyhyrau a’r cymalau
*Effeithiau gwres ac oerni
*Ffitiau, epilepsi a diabetes
*Materion iechyd a diogelwch eraill

Mae modiwl hyfforddiant ychwanegol ar gyfer delio â gwaedu catastroffig.
Asesu sesiynau theori ac ymarferol trwy 2 bapur amlddewis ac asesiadau sgiliau ymarferol. Nodwch fod rhaid gwneud asesiad CPR ar lefel y llawr.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer deiliaid tystysgrif Cymorth Cyntaf yn y Gwaith sy’n dod i ddiwedd y cyfnod achredu. Gall ymgeiswyr ei hadnewyddu hyd at 3 mis cyn hynny ond heb fod yn hwy na 28 diwrnod ar ôl dyddiad y daw eu tystysgrif gyfredol i ben.
Argymhellir yn gryf fod y rheiny sydd wedi cwblhau’r cyrsiau Cymorth Cyntaf yn y Gwaith 1 diwrnod a 3 diwrnod yn cwblhau cwrs gloywi 3 awr bob 12 mis – ac yna cwblhau’r hyfforddiant llawn ail-ardystio ar ôl tair blynedd.
£151 – Mae hyn yn cynnwys holl lawlyfrau’r cwrs, ffioedd cwrs a ffioedd arholiadau.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?