main logo

Cwrs Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol IEMA ar gyfer Rheolwyr

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA16879
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, 2 Ddiwrnod

0930 – 1700

Adran
Busnes, Arwain a Rheoli, Iechyd a Diogelwch, Cadwraeth, Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd
Dyddiad Dechrau
16 Jul 2024
Dyddiad Gorffen
17 Jul 2024

Trosolwg o’r Cwrs

Bwriad y cwrs Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer Rheolwyr yw darparu trosolwg strategol a gweithredol o gynaliadwyedd amgylcheddol i reolwyr a goruchwylwyr gan ei fod yn effeithio ar eu diwydiant a’u hardal waith penodol.

Mae'r cwrs yn ymdrin â dealltwriaeth o'r cyfleoedd a'r cyfyngiadau strategol mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn eu cyflwyno i sefydliadau; pwysigrwydd effeithlonrwydd adnoddau; effaith cynaliadwyedd amgylcheddol ar y gadwyn werth; effeithiau llygredd, deddfwriaeth atal, rheoli ac amgylcheddol mewn sefydliadau; a sut mae gweithwyr yn cynorthwyo cynaliadwyedd amgylcheddol.



1. Bydd gan y dysgwr wybodaeth a dealltwriaeth o’r prif beryglon a chyfleoedd amgylcheddol ac economaidd

2. Bydd gan y dysgwr wybodaeth a dealltwriaeth o oblygiadau cydymffurfiaeth â’r hyn sy’n sbarduno newid mewn busnes

3. Bydd gan y dysgwr wybodaeth a dealltwriaeth o’r prif ddylanwadau posibl ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd

4. Bydd gan y dysgwr wybodaeth a dealltwriaeth ynglŷn â sut i wella perfformiad amgylcheddol

5. Bydd y dysgwr yn gallu gwerthuso’r hyn sy’n sbarduno newid yn ogystal â’r hyn sy’n ei rwystro

6. Bydd y dysgwr yn gallu defnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth o ddata gwaelodlin er mwyn monitro a gwella perfformiad

7. Bydd y dysgwr yn defnyddio gwybodaeth o gynaliadwyedd amgylcheddol ar draws y gadwyn gwerth

8. Bydd y dysgwr yn dangos pwysigrwydd gweithredu effeithlonrwydd adnoddau

9. Bydd y dysgwr yn dangos sut y gall gweithwyr wella eu perfformiad amgylcheddol
Mae’r asesiad ar gyfer Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer Rheolwyr yn cynnwys prawf amlddewis 20 cwestiwn ar-lein.

Caiff y prawf ei gwblhau trwy borth asesu IEMA ac caiff dolen i’r asesiad ei hanfon at ymgeiswyr wrth gofrestru.
Dim
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer goruchwylwyr a rheolwyr ar draws pob sector ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.

● Tystysgrif Rheolaeth Amgylcheddol NEBOSH
Neu
● Tystysgrif Sylfaen mewn Rheolaeth Amgylcheddol
£296
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?