main logo

Cyflwyniad i Gyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA99680
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, 6 awr – 9:00-16:00
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG, Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol
Dyddiad Dechrau
18 Jun 2024
Dyddiad Gorffen
18 Jun 2024

Trosolwg o’r Cwrs

Erbyn hyn mae gan y defnydd o gyfryngau cymdeithasol gyrhaeddiad mor enfawr nes bod marchnata digidol yn ceisio manteisio arno, gan anelu at gysylltu ac ymgysylltu â darpar gwsmeriaid mewn ffordd bersonol trwy ystod o sianeli cyfryngau.

Mae marchnata digidol yn rhan annatod o strategaeth farchnata gyffredinol ac mae’n cynnwys defnyddio cyfryngau digidol a chymdeithasol i gynyddu ymwybyddiaeth a hysbysebu cynnyrch neu wasanaeth.

Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i’r cysyniadau angenrheidiol sydd ynghlwm â’r broses hon ac yn eich galluogi i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol mewn ffordd ddylanwadol.

Fel rhan o’r cwrs hwn bydd disgwyl i chi greu ac adolygu llwyfannau marchnata e-bost a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol amrywiol er mwyn datblygu eich sgiliau, dysgu sut i adeiladu proffiliau perthnasol ac ystyried sut a pham y dylai datblygu cynnwys er mwyn bodloni anghenion cynulleidfaoedd gwahanol.

Cynnwys y Cwrs
● Cynllunio - adolygu strategaeth Busnes, Marchnata a'r Cyfryngau Digidol
● Ymchwilio i lwyfannau/technolegau cyfathrebu digidol
● Datblygu presenoldeb ar y Cyfryngau Cymdeithasol er mwyn ehangu eich cyfleoedd busnes
● Datblygu Cynnwys Digidol - Testun, graffeg a CTA fel rhan o ymgyrchoedd wedi’u targedu
● Datblygu eich gwefan (os yn berthnasol) a datblygu cysylltiadau eich gwefan gyda’r cyfryngau cymdeithasol a’r cysylltiadau yr ydych yn eu cael ganddynt
● Optimeiddio gwefan (SEA) (os yn berthnasol)
Tasgau a chymorth parhaus gan diwtoriaid
Bod yn gyfarwydd ag ymarferoldeb sylfaenol cyfrifiadur a sut i ddefnyddio’r we.
Bydd y cwrs hwn yn helpu i roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i reoli’r cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol.
£59
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?