main logo

Hanfodion Power BI

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA99674
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, 6 awr
Dydd Mawrth 9am – 4pm
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
30 Apr 2024
Dyddiad Gorffen
30 Apr 2024

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Power BI yn ddatrysiad Cudd-wybodaeth Busnes Microsoft ar gyfer dadansoddi data a delweddu a rhannu data. Mae'n eich galluogi i ddatblygu adroddiadau a dangosfyrddau rhyngweithiol yn gyflym a rhannu delweddau dylanwadol gyda chwsmeriaid neu'ch tîm. Bydd y cwrs undydd hwn yn eich cyflwyno i'r feddalwedd, sut i'w defnyddio orau, a'r ystod o ffyrdd y gallwch ei ddefnyddio yn eich sefydliad.

Gan ddechrau gyda sut i fewnosod data i Power BI o wahanol fformatau ffeil a chronfeydd data, byddwch yna yn symud ymlaen i archwilio gwahanol dechnegau delweddu a thechnegau hidlo. Nesaf, byddwch yn canolbwyntio ar ddeall a gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o siart a'r data y gellir eu defnyddio i'w cynrychioli. Yn olaf, byddwn yn dangos i chi sut i hidlo ac amlygu darnau penodol o wybodaeth i wella cyflwyniad eich negeseuon allweddol.

Yr hyn byddwch yn ei ddysgu
● Beth yw Power BI?
○ Cyflwyniad
○ Amlinelliad ac Amcanion
● Bwrdd Gwaith Power BI
● Mewnosod ffeiliau (Cael Data)
● Perthnasoedd data
○ Gosod Perthnasoedd Data
○ Gweld Perthnasoedd
○ Golygu Perthnasoedd
● Creu Delweddau a Dangosfyrddau Rhyngweithiol
○ Siartiau Cylch, Llinell a Chyfunol
○ Gweithio gyda Matricsau
○ Gweithio gyda Chardiau
○ Geo Data
○ Categoreiddio Data a Mapiau
○ Tablau a Fformatio Amodol
○ Mapiau a Data Daearyddol
○ Cardiau Dangosydd Perfformiad Allweddol
● Fformatio Delweddau
○ Hidlo Data
○ Tafellwyr
○ Hidlwyr Lefel Delweddu
○ Hierarchaethau a Hierarchaethau Ailddefnyddiadwy
○ Archwilio’n Fanwl yn ôl Dyddiad (Drill Down by Date)
○ Golygu Rhyngweithiadau Rhwng Siartiau
● Cyfrifo data gan ddefnyddio DAX (bwrdd gwaith yn unig)
○ Creu colofn wedi'I chyfrifo
○ Cwblhau fformiwla DAX
● Rhannu Adroddiadau a Dangosfyrddau

Ydych chi eisiau creu dadansoddiadau data a delweddiadau effeithiol I helpu'ch busnes I symud ymlaen yn ei nodau yn hyderus? Yna mae’r cwrs hwn yn berffaith I chi.
Asesu parhaus trwy dasgau a monitro gan diwtoriaid
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol arnoch oni bai am fod yn gyfarwydd â gwybodaeth sylfaenol am sut mae cyfrifiadur yn gweithio a systemau meddalwedd sylfaenol – ond mae profiad blaenorol neu fod yn gyfarwydd â TG, Excel, a systemau busnes cyffredinol yn ddymunol.

Dewch i ddysgu’r sgiliau technegol sydd eu hangen arnoch i gyflawni eich nodau ac i ennill y sgiliau a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
Mae’r cwrs yn eich darparu gyda’r wybodaeth a’r adnoddau angenrheidiol i’ch helpu chi i ddeall sut i ddefnyddio meddalwedd delweddu data.
£59
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?