main logo

Diploma lefel 3 mewn Technolegau Digidol (Llwybr Gyrfaoedd Digidol)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00339
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser.
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae astudio cwrs TG yng Ngholeg Cambria yn eich galluogi i weithio gyda chynhyrchion arloesol a thechnoleg newidiol mewn un o’r sectorau sy’n cynyddu gyflymaf yn y byd. Mae’n eich rhoi yn y sefyllfa gorau posibl i fanteisio i’r eithaf ar yr amgylchedd digidol hwn ac ar eich potensial CHI.

Mae cyfrifiaduron yn rhan o bob agwedd ar ein byd. Gallai gyrfa yn y diwydiant arloesol hwn, sy'n symud yn gyflym, fod yr union beth i chi.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau iawn i chi symud eich gyrfa yn ei flaen, gan sicrhau eich bod yn cael y gymysgedd orau o sgiliau i lwyddo.

Mae’r Diploma Lefel 3 mewn Technolegau Digidol wedi’i lunio i wneud y gorau o’ch potensial a’ch rhagolygon gyrfa. Mae wedi ei fireinio i wella eich sgiliau digidol ac i ddarparu’r cyfle gorau i chi gael prentisiaeth neu swydd pan mae’r cwrs wedi gorffen.

Mae'r meysydd y byddwch chi'n dysgu amdanynt ar y cwrs hwn yn cynnwys -
● Systemau Technoleg Gwybodaeth
● Creu Systemau i Reoli Gwybodaeth
● Defnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol mewn Busnes
● Rhaglennu
● Datblygu Gwefannau
● Datblygu Apiau Dyfeisiau Symudol
● Rheoli Prosiectau TG
● Seiberddiogelwch a Rheoli Digwyddiadau
● Darpariaeth Gwasanaethau TG
● Modelu Data
● Data Mawr a Dadansoddiadau Busnes
● Storio yn y Cwmwl ac Offer Cydweithio
● Rhyngrwyd Pethau

Dyma gwrs dwy flynedd o hyd a fydd yn arwain atoch chi’n ennill Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn TG.

Mae ail flwyddyn y cwrs yn canolbwyntio ar raglen TG uwch, a fydd yn darparu cymorth a sgiliau ychwanegol i chi gyda’r nod o symud ymlaen i brentisiaeth neu swydd. Mae’r cwrs hwn, sydd wedi’i gyfoethogi, yn cynnig rhagor o bwyslais ar sgiliau cyflogadwyedd a hyfforddiant sy’n cynnwys profiad gwaith, amgylchedd yr ystafell ddosbarth fel swydd, dillad sy’n addas i’r gwaith, gweithio mewn grwpiau prosiect, gweithgareddau ymgysylltu â chyflogwyr, a meysydd tebyg eraill o sgiliau cyflogadwyedd.

Mae’r cymwysterau ychwanegol canlynol ar gael hefyd -
● Academi ‘Cloud Foundations’ Gwasanaethau Gwe Amazon (AWS)
● Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
● Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
Mae’r cymhwyster BTEC yn defnyddio cyfuniad o steiliau asesu i roi’r hyder i chi y gallwch chi gymhwyso’ch gwybodaeth i lwyddo yn y gweithle – a chael y sgiliau astudio i barhau i ddysgu ar gyrsiau addysg uwch. Mae’r ystod hwn o asesiadau galwedigaethol – ymarferol ac ysgrifenedig – yn golygu y gallwch chi ddangos eich dysgu a’ch cyflawniadau i gael yr effaith orau pan fyddwch chi’n cymryd y cam nesaf, boed hynny’n geisiadau i gyrsiau addysg uwch neu ddarpar gyflogwyr.

Mae BTEC yn defnyddio tri math o asesiad – aseiniadau, tasgau ac arholiadau ysgrifenedig. Gyda’i gilydd, mae pedwar arholiad/asesiad wedi’u hasesu’n allanol a fydd yn cael eu gwasgaru ar draws y 2 flynedd lawn.
5 TGAU gradd A* I C gan gynnwys Mathemateg neu Saesneg neu gwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau.
Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Mae pwyntiau UCAS am gwblhau cwrs llawn 2 flynedd y Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn TG, gan roi dewis eang o opsiynau dilyniant i fyfyrwyr.

Gallwch chi fynd i brifysgol, astudio prentisiaeth neu ddechrau cyflogaeth a pharhau i ddatblygu eich gyrfa TG… pwy a ŵyr ble y daw i ben?

Rhai cyfleoedd posibl yn y maes TG:

Dylunydd Gwefannau
Datrysiadau Technoleg Ddigidol
Technegydd Cymorth Systemau
Arbenigwr Seiberddiogelwch
Technegydd Cymorth TG
Dadansoddydd Data
Rheoli TG ar gyfer Busnes
Ymarferydd Technoleg Ddigidol Newydd
Peiriannydd Meddalwedd
Cyfrifiadura Busnes ac Entrepreneuriaeth
Dadansoddydd Systemau
Datblygwr Apiau
Rheolwr Systemau Gwybodaeth
Efallai bydd angen prynu offer a / neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?