Home > Cymorth i Fyfyrwyr
Un o’n prif flaenoriaethau yw eich cefnogi chi. Dyna pam, o’r funud y byddwch yn ymuno â Choleg Cambria, byddwch yn cael cymorth penodol gan eich Anogwr Cynnydd yn rheolaidd.
Bydd yr Anogwr Cynnydd yn gysylltiedig â’ch maes pwnc felly byddant yn bwynt cyswllt ac yn gymorth gwych i chi o’r diwrnod cyntaf!
Hefyd byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau grŵp sydd wedi’u llunio i ddatblygu ymwybyddiaeth ar draws ystod o bynciau allweddol yn ogystal â chyfarfodydd 1:1 gyda’ch anogwr. Yn y cyfarfodydd hyn, byddant yn monitro eich cynnydd yn fanwl i ddeall beth yw’r ffordd orau i’ch helpu yn ystod eich amser gyda ni.
Bydd eich Anogwr Cynnydd yn eich helpu i ymgartrefu yn y coleg, eich arwain trwy’r cwrs a bywyd ehangach y coleg, cynnig cymorth trwy amseroedd anodd, monitro cynnydd yn fanwl, a dathlu llwyddiannau wrth gwrs!
Rydym yn gwybod y gall bod yn ofalwr neu’n ofalwr ifanc fod yn hynod o heriol. Rydym wedi ymrwymo i wella eich llesiant a’ch cyfleoedd cyffredinol yn ystod eich amser gyda ni. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r studentservices@cambria.ac.uk
Os ydych chi’n blentyn sy’n derbyn gofal, rydym yn deall y gallai hyn effeithio ar eich profiad yn y coleg. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi ym mhob ffordd bosibl. Os oes angen unrhyw wybodaeth neu gymorth arnoch chi, mae pob croeso i chi gysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0300 303 0007 i ebost studentservices@cambria.ac.uk
Mae ein cyfleusterau’n cynnwys mannau i chi weddïo, bod yn dawel neu fyfyrio, ac mae gennym gyfleusterau golchi yn Iâl. Cysylltwch â ni i gael manylion.
Ffoniwch – 0300 303 0007
E-bostiwch – chaplaincy@cambria.ac.uk
Mae gennym Dîm Diogelu sy’n cynnwys pum Swyddog Llesiant a Chydlynydd Diogelu. Mae ein Tîm Diogelu blaenllaw wedi’u hyfforddi’n arbennig mewn ymateb i amheuon, datgeliadau o gam-drin neu achosion o weld cam-drin. Mae’r coleg hefyd yn:
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i’ch cadw’n ddiogel, yn y coleg a thu allan i’r coleg, tra byddwch yn fyfyriwr yma. Os oes angen i chi siarad am eich diogelwch, cysylltwch â’r tîm diogelu ar 0300 30 30 007, e-bost safeguarding@cambria.ac.uk neu galwch heibio Gwasanaethau Myfyrwyr.