Home > Oedolion > Gweld Pob Maes Pwnc > Llwybr Saesneg a Mathemateg
Saesneg a Mathemateg
EIN TRI LLWYBR
Yn dibynnu ar eich lefel a’r hyn rydych yn dymuno ei gyflawni, mae gennym dri llwybr Saesneg a Mathemateg ar gael.
Os ydych yn gobeithio cymryd y camau cyntaf a dysgu sgiliau Mathemateg a Saesneg sylfaenol, rydym yn cynnig ystod o gyrsiau byr Sgiliau Hanfodol Cymru, wedi’u hachredu ac AM DDIM*. Maent wedi’u lleoli yn ein cymunedau ar draws Wrecsam a Sir y Fflint a safleoedd Cambria.
Ydych chi’n teimlo eich bod chi angen gloywi eich sgiliau Mathemateg a Saesneg cyn symud ymlaen i astudio ar gyfer TGAU? Yna bydd ein cyrsiau Sgiliau Hanfodol yn lle da i ddechrau.
A oes angen i chi wella eich gradd TGAU neu ydych yn dymuno gwneud er mwyn cael swydd neu allu gwneud cais ar gyfer y brifysgol? Os felly, rydym yn cynnig TGAU mewn Saesneg a Mathemateg.
*Yn amodol ar gymhwysedd