main logo

Saesneg a Mathemateg

Cymerwch eich camau cyntaf gyda ni…

Llongyfarchiadau! Mae’r ffaith eich bod chi yma yn golygu eich bod wedi cymryd y camau cyntaf hynny tuag at ddychwelyd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Mathemateg a Saesneg.

Mae sawl rheswm gwahanol pam fod pobl yn dewis dychwelyd i ddysgu. Efallai eich bod chi eisiau gallu helpu eich plant gyda’u gwaith cartref neu eich bod eisiau ennill cymhwyster i’ch helpu i ddod o hyd i swydd.

Beth bynnag yw eich rheswm, mae gennym dîm o staff cefnogol a phrofiadol wrth law i’ch helpu i gyflawni eich nodau.

Roedd ein holl gyn-fyfyrwyr yn eich sefyllfa chi unwaith ac ar ôl cysylltu â ni, mae nifer ohonynt wedi ennill cymwysterau cydnabyddedig a heb edrych yn ôl. Felly am beth ydych chi’n aros?

Pam astudio gyda ni....

CYRSIAU BYR, AM DDIM*

*Yn amodol ar gymhwysedd

Mae cyrsiau ar gael drwy gydol y flwyddyn

Mae cyrsiau yn cael eu cynnal yn y gymuned

ASTUDIO GYDAG ERAILL AR YR UN LEFEL

ENNILL CYMWYSTERAU CYDNABYDDEDIG

DATBLYGU SGILIAU SY'N EICH HELPU I SYMUD YMLAEN

CYMRYD EICH CAMAU CYNTAF TUAG AT DDYCHWELYD I DDYSGU

HELPU EICH PLENTYN GYDA'U GWAITH CARTREF

MAGU HYDER A LLWYDDO

Cyrsiau byr sydd ar gael

Gwybodaeth am y cwrs: Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i wella sgiliau am sut i roi’r cymorth gorau i’ch plentyn gyda’u gwaith mathemateg trwy weithgareddau hwyliog ac ymarferol.

Hyd y cwrs: 1 awr yr wythnos am 6 wythnos

Ble: Mae cyrsiau ar gael mewn lleoliadau cymunedol ar draws Wrecsam a Sir y Fflint. Cysylltwch â ni i ddysgu rhagor.

Cost: AM DDIM*

Diddordeb? Cwblhewch y ffurflen isod a byddwn yn eich ffonio’n ôl am sgwrs.

*yn amodol ar gymhwysedd

Gwybodaeth am y cwrs: Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwella eu hyder wrth ddefnyddio’r wefan Credyd Cynhwysol. Byddwch yn datblygu sgiliau TG, Saesneg a Mathemateg, yn gwneud ffrindiau newydd ac yn magu hyder.

Hyd y cwrs: 2 awr yr wythnos am 6 wythnos.

Ble: Mae cyrsiau ar gael mewn lleoliadau cymunedol ar draws Wrecsam a Sir y Fflint. Cysylltwch â ni i ddysgu rhagor.

Cost: AM DDIM*

Diddordeb? Cwblhewch y ffurflen isod a byddwn yn eich ffonio’n ôl am sgwrs.

*yn amodol ar gymhwysedd

Gwybodaeth am y cwrs: Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i wella sgiliau am sut i roi’r cymorth gorau i’ch plentyn gyda’u gwaith darllen ac ysgrifennu trwy weithgareddau hwyliog ac ymarferol.

Hyd y cwrs: 1 awr yr wythnos am 6 wythnos

Ble: Mae cyrsiau ar gael mewn lleoliadau cymunedol ar draws Wrecsam a Sir y Fflint. Cysylltwch â ni i ddysgu rhagor.

Cost: AM DDIM*

Diddordeb? Cwblhewch y ffurflen isod a byddwn yn eich ffonio’n ôl am sgwrs.

*yn amodol ar gymhwysedd

Gwybodaeth am y cwrs: Ydych chi eisiau gwella eich sgiliau cyfrifiadur neu a oes angen cymorth arnoch wrth fynd ar-lein?

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau TG sylfaenol. Byddwch yn magu hyder, yn gwneud ffrindiau newydd, yn gweithio gydag eraill ar yr un lefel ac yn cael llawer o hwyl.

Hyd y cwrs: 2 awr yr wythnos am 10 wythnos

Ble: Mae cyrsiau ar gael mewn lleoliadau cymunedol ar draws Wrecsam a Sir y Fflint. Cysylltwch â ni i ddysgu rhagor.

Cost: AM DDIM*

Diddordeb? Cwblhewch y ffurflen isod a byddwn yn eich ffonio’n ôl am sgwrs.

*yn amodol ar gymhwysedd

Gwybodaeth am y cwrs: Os ydych yn gweld eich biliau tŷ yn gymhleth neu os ydych chi eisiau cymorth gyda sut i chwilio am y fargen orau, yna bydd y cwrs hwn yn ddelfrydol i chi.

Bydd y cwrs yn eich helpu i ddeall eich biliau, byddwch yn dysgu sgiliau mathemateg a chyllidebu sylfaenol, byddwch yn magu hyder ac yn gwneud ffrindiau newydd.

Hyd y cwrs: 2 awr yr wythnos am 6 wythnos

Ble: Mae cyrsiau ar gael mewn lleoliadau cymunedol ar draws Wrecsam a Sir y Fflint. Cysylltwch â ni i ddysgu rhagor.

Cost: AM DDIM*

Diddordeb? Cwblhewch y ffurflen isod a byddwn yn eich ffonio’n ôl am sgwrs.

Gwybodaeth am y cwrs: Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ennill cyflogaeth.

Mae’r cwrs yn trafod ysgrifennu CV, technegau ac awgrymiadau cyfweliad, sgiliau cyfathrebu a sgiliau cyfrifiadur/TG sylfaenol.

Hyd y cwrs: 4.5 awr yr wythnos am 4 wythnos

Ble: Mae cyrsiau ar gael mewn lleoliadau cymunedol ar draws Wrecsam a Sir y Fflint. Cysylltwch â ni i ddysgu rhagor.

Cost: AM DDIM*

Diddordeb? Cwblhewch y ffurflen isod a byddwn yn eich ffonio’n ôl am sgwrs.

*yn amodol ar gymhwysedd

Cysylltwch â ni a byddwn yn eich ffonio'n ôl