Coleg 16-18
Mae’n wych bod gennych chi gynnig i ymuno â ni ym mis Medi ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi.
SUT YDYCH CHI’N CADARNHAU EICH LLE?
Dylai eich bod chi wedi cael e-bost gan y cyfeiriad welcome@cambria.ac.uk gyda theitl pwnc Cadarnhau eich Lle.
Yn yr e-bost mae dolen i chi ei chlicio a fydd yn mynd â chi i’r Porth
Cadarnhau eich Lle. Cliciwch ar y ddolen a dilynwch y cyfarwyddiadau yn
y Porth.
Sylwch – Efallai y byddwch chi mewn sefyllfa i gadarnhau eich lle cyn y Diwrnod Canlyniadau TGAU h.y. Nid ydych chi’n ddisgybl sy’n gadael ysgol ac mae gennych chi eich canlyniadau TGAU eisoes o flwyddyn flaenorol.
Os ydych chi wedi cadarnhau eich lle eisoes yna does dim angen i chi wneud unrhyw beth ar y Diwrnod Canlyniadau TGAU.
Os nad ydych chi wedi cael yr e-bost hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu eisiau gwirio eich bod wedi cadarnhau eich lle yn gywir yna cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at welcome@cambria.ac.uk neu
ffoniwch 0300 30 30 007.
GALLWCH CHI GADARNHAU EICH LLE O’CH SOFFA NEU HYD YN OED WRTH YMLACIO YN YR HAUL!
Nid oes angen i chi ddod i safle’r coleg i giwio am oriau i roi gwybod i ni beth hoffech chi ei wneud nesaf. Gallwch chi wneud hynny ar-lein o le bynnag ydych chi!
Byddwch chi’n gallu dewis un o’r opsiynau canlynol
- Byddwch chi’n cymryd eich lle yn Cambria
- Hoffech chi ymuno â Cambria ond ar gwrs gwahanol
- Nid ydych chi eisiau eich lle yn Cambria erbyn hyn
- Nid ydych chi wedi cael y graddau.
POENI NAD YDYCH WEDI CAEL Y GRADDAU YR YDYCH EU HEISIAU NEU EICH BOD AM NEWID CWRS? PEIDIWCH PHOENI!
Mae hyn yn digwydd yn aml, felly peidiwch â phoeni. Rhowch wybod i ni am eich sefyllfa naill ai wrth ddod i mewn i’n gweld ni – mae ein holl safleoedd ar agor fel arfer ac mae ein staff yma i’ch helpu chi, neu ewch i’r Porth Cadarnhau eich Lle a byddwn ni’n eich cefnogi chi.