main logo

Bryn Williams Academy

Dysgwch gan y gorau!

Mae Coleg Cambria a’r cogydd enwog Bryn Williams wedi lansio Academi Bryn Williams i ddylanwadu’n gadarnhaol ar y genhedlaeth nesaf o gogyddion a staff lletygarwch ledled Gogledd Ddwyrain Cymru. Dyma’r academi gyntaf o’i math i Bryn, i Goleg Cambria, ac i Gymru.

Byddwch yn elwa o ddosbarthiadau meistr dan arweiniad Bryn Williams a’i dîm o gogyddion arbenigol, a fydd yn cael eu cynnal ym mwyty Iâl yng Ngholeg Cambria Iâl yn ogystal â bwyty Bryn, Bryn Williams ym Mhorth Eirias. Bydd hyn yn eich galluogi i roi eich gwybodaeth a’ch sgiliau ar waith a’u meithrin ymhellach mewn lleoliad gwaith.

Ar ol cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, bydd cyfleoedd i symud ymlaen i gwrs lefel uwch neu i gyflogaeth. Bydd tîm yr academi yn dal i gadw cysylltiad â chi trwy gydol eich gyrfa ac yn cynnig cyngor ac arweiniad.

Os oes gennych chi angerdd am arlwyo neu waith blaen tŷ, a bod gennych y cymhelliant a’r uchelgais i fod ar y brig, yna dyma’r cwrs i chi!

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Bydd holl ymgeiswyr yr academi yn mynd trwy’r broses dethol.

Mae’r academi yn cynnwys rhaglen a fydd yn rhoi llwybrau tuag at gyflogaeth i chi gyda chyfuniad o addysg a phrofiad gwaith o safon uchel. Mae’r rhaglen academi yn cynnwys:

  • Rhaglen astudio lawn amser sy’n cynnwys Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol neu Lefel 3 mewn Goruchwylio Gwasanaethau Bwyd a Diod yn ogystal â rhaglen i ddatblygu rhagor ar sgiliau Saesneg a Mathemateg.
  • Dosbarth meistr dan arweiniad Bryn Williams a’i dîm o gogyddion arbenigol.
  • Profiad gwaith o safon uchel
  • Gwisg academi

Byddwch yn astudio ym Mwyty Iâl yng Ngholeg Cambria Iâl.

Bydd lleoliadau gwaith yn cael eu cynnal ym mwyty Bryn, Bryn Williams ym Mhorth Eirias.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn Ymuno ag Academi Bryn Williams?
Cysylltwch a byddwn yn eich ffonio chi'n ôl

Hoffech chi wybod rhagor am yr academi?

Ffoniwch neu anfonwch e-bost am ragor o wybodaeth.

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 007

Anfonwch E-bost atom ni

Anfonwch e-bost

enquiries@cambria.ac.uk

Bryn Williams

Hanes Bryn

Yn wreiddiol o Ddinbych yng Ngogledd Cymru, dysgodd Bryn Williams werthfawrogi bwyd a’i darddiad yn ifanc iawn.

Mae wedi gweithio yn rhai o geginau mwyaf enwog Llundain. Mae wedi gweithio o dan Marco Pierre White yn The Criterion, Michel Roux yn Le Gavroche am dair blynedd a bu’n senior-sous yn The Orrery am bedair blynedd.

Mae Bryn bellach yn Berchennog Odette’s, ers mis Hydref 2008. Mae Bryn hefyd ym Mhorth Eirias, Bwyty, Caffi a Bar glan mor ar arfordir Gogledd Cymru. Mae Bryn hefyd wedi agor yn Somerset House, ar The Strand, Llundain.

Fideos llawn gwybodaeth

Bwytai Bryn

Bryn Williams ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn

Bryn Williams yn Odette's Primrose Hill

Bryn Williams yn The
Cambrian