Home > Swyddi Gwag > Pam Gweithio I Coleg Cambria
Rydym yn un o’r Colegau Addysg Bellach mwyaf yn y DU, sydd wedi cael adroddiad ‘disglair’ gan Estyn yn ddiweddar. Rydym yn falch o fod yn goleg sydd wedi ennill gwobrau ac rydym wedi ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd diwethaf – fel myfyrwyr, staff a’r coleg yn gyffredinol.
Wedi’i leoli ar draws ffin Swydd Gaer/Gogledd Cymru, gall y coleg gynnig llwybr hawdd i chi i Ogledd Cymru, Swydd Amwythig, Cilgwri, Glannau Mersi a Swydd Gaer. Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi dros 1,300 o gydweithwyr o nifer o wahanol lefydd. Rydym yn cynnig dysgu o lefel mynediad i Addysg Uwch ac yn gweithio mewn partneriaeth â’r prifysgolion gorau a dros 1000 o gyflogwyr.
Os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech fod yn rhan ohono, gwnewch gais heddiw!
Ar hyn o bryd, fi ydi’r Cyfarwyddwr Cwricwlwm yng Ngholeg Cambria. Trwy gydol fy nghyfranogiad ar gwrs Arweinwyr Ysbrydoledig Coleg Cambria, cefais ddyrchafiad i’r swydd yma.
Dechreuodd fy nhaith yn 2011 pan wnes i gofrestru fel myfyriwr hŷn mewn cwrs nos Lefel 2 mewn Gwaith Saer. Gwnaeth y gefnogaeth a’r profiad gwnes i eu hennill rhoi hyder i mi fynd ar ôl Gradd mewn Dylunio a Thechnoleg Bensaernïol. Yn 2016, gwnes i ymuno â Choleg Cambria fel Hyfforddwr / Arddangoswr. Roeddwn i’n cael fy ngwthio gan fy ngwerthfawrogiad newydd ar gyfer addysg ac awydd i gefnogi eraill.
Wrth ddatblygu’n rhagor, cefais ddyrchafiad i swydd darlithydd ac roeddwn i’n cyflwyno Adeiladu Technegol AU oherwydd fy nghymwysterau a phrofiad.
Gan oresgyn yr heriau roedd yn cael eu hachosi gan ddyslecsia, gwnes i gwblhau fy nghymhwyster TAR gyda chymorth gan adran ADY y coleg.
Er ei fod yn rhoi cnoc i’m hyder weithiau, dydi hynny heb effeithio ar fy nghyfleoedd datblygu personol a fy nhwf yn y coleg.
Fe wnes i ddod i ddigwyddiad recriwtio staff yng Nglannau Dyfrdwy oherwydd roeddwn i eisiau newid byd ar ôl bod yn fy swydd ddiwethaf am chwe blynedd. Yr hyn a ddenodd fi i Goleg Cambria yn y digwyddiad mewn gwirionedd oedd y ffocws ar gynwysoldeb. Cyfarfûm â staff a rheolwyr eraill yno ac roedd pawb yn ymddangos yn gyfeillgar a chroesawgar. Roeddwn yn agored iawn ynglŷn â bod yn niwroddargyfeiriol (Dyslecsig, Dyspracsig, Awtistiaeth ac ADHD) a chefais fy sicrhau bod y coleg yn fan diogel i’r holl staff, gan gynnwys y rhai ag anghenion ychwanegol. Unwaith yr oeddwn wedi gwneud cais am fy rôl, cysylltwyd â mi ynghylch unrhyw addasiadau rhesymol y byddai eu hangen arnaf ar gyfer y broses gyfweld, ac awgrymwyd rhai nad oeddwn wedi meddwl amdanynt hyd yn oed yn seiliedig ar bethau yr oeddwn wedi’u dweud. Roedd hyn yn ddefnyddiol iawn, oherwydd nid yn unig yr oeddwn ar y pryd yn gyfartal ag ymgeiswyr eraill, roedd hefyd yn ei gwneud yn glir bod Cambria yn gwybod am beth yr oeddent yn siarad o ran cefnogi staff. Cefais hefyd amserlenni clir o ran pryd i ddisgwyl gwybodaeth a chanlyniadau, a chefais gyfleoedd i ddod i’r coleg ar gyfer ymweliadau cyn ac ar ôl cyfweliad er mwyn i mi ddod i arfer â’r amgylchedd newydd.
Dechreuodd fy nhaith wrth i mi fod ar gwrs AET yng Ngholeg Cambria lle gwnes i gyfarfod â rhai o’n haseswyr a oedd ar y cwrs hefyd. Gwnaeth eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad yn eu swyddi fy ysbrydoli felly roeddwn i’n frwdfrydig i ymuno â’r Coleg pan ddaeth swydd wag tebyg i’r amlwg.
Erbyn hyn dwi wedi gweithio yng Ngholeg Cambria ers 6 blynedd a’r peth gorau am fy swydd ydi’r rhyddid i ddarparu cefnogaeth wedi’i bersonoli i’r dysgwyr, gan eu helpu nhw ar eu taith unigryw a chyflawni eu nodau. Mae diwylliant cynhwysol Coleg Cambria yn sicrhau cefnogaeth sefydlog, gan fy ngalluogi i fod yn rhan o newidiadau cadarnhaol yn y coleg.
Mae gweithio yma wedi bod yn werth chweil yn broffesiynol ac yn bersonol. Dwi’n gwerthfawrogi’r ymrwymiad mae Coleg Cambria yn ei ddangos i’w staff a’i ddysgwyr, gan ddarparu cymorth ymarferol a fy nghysylltu i gydag adnoddau gwerthfawr. Mae’n fraint cael cyfrannu at lwyddiant parhaus y coleg a gwneud gwahaniaeth i fywydau ein dysgwyr.
Dwi wedi gweithio yng Ngholeg Cambria ers 1.5 mlynedd, yn adran Dysgu Sylfaen yn Iâl.
Fel darlithydd Celf a Dylunio, dwi wedi cael y faint o gefnogi creadigrwydd a chwilfrydedd dysgwyr trwy brofiad dysgu amrywiol yn cwmpasu dulliau digidol a thraddodiadol. Mae’n hynod o werth chweil gweld cynnydd a hyder y dysgwyr yn tyfu yn ystod y flwyddyn, gyda llawer ohonyn nhw yn symud ymlaen i lefelau uwch yn y coleg.
Mae ein tîm yn cydweithio’n agos i fodloni anghenion addysgol a galwedigaethol y dysgwyr, gan ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr yn yr amgylchedd coleg. Mae’r diwylliant yng Ngholeg Cambria wedi’i nodweddu gan ei natur gadarnhaol a blaengar. Mae’r rheolwyr a’r cydweithwyr yn cynnig cefnogaeth eithriadol, gan greu amgylchedd dysgu cyfoethog, cadarnhaol a chefnogol.
Dwi wedi gweithio yng Ngholeg Cambria ers dros 18 mlynedd erbyn hyn ar ôl cael y swydd ar ôl gweithio mewn maes gweinyddu a chwilio am antur newydd.
Fy hoff rannau o’r swydd ydi cofrestru a chefnogi dysgwyr a staff yn ystod y cyfnod ymsefydlu. Mae gan ein tîm Gwasanaethau Data Dysgwyr enw da am fod yn hawdd mynd atyn nhw, yn gefnogol ac yn llwyddiannus wrth wasanaethu dysgwyr, cydweithwyr a chwsmeriaid a dwi’n falch o fod yn rhan ohono.
Yr hyn sy’n amlwg yng Ngholeg Cambria ydi’r diwylliant cadarnhaol. Mae’n weithle hyblyg a chefnogol sy’n annog datblygu proffesiynol. Gyda chyfnodau o gau dros y Nadolig a gweithgareddau dros amser cinio fel dosbarthiadau cylchred neu ioga, mae’r coleg yn hyrwyddo llesiant a chydbwysedd gwaith-bywyd. Mae’n le gwych i weithio a ffynnu.
Ar hyn o bryd fi ydi’r Ymgynghorydd AD ar gyfer Sefydliad Technoleg a Phrofiadau Pobl yng Ngholeg Cambria. Gwnes i ddewis ymuno â’r coleg oherwydd ei enw da a’r cyfle dwi’n ei gael yno i wneud gwahaniaeth gwirioneddol gan ddefnyddio fy sgiliau.
Gan ddechrau fel Gweinyddydd AD, gwnes i sylweddoli yn gyflym y potensial i ddatblygu yng Ngholeg Cambria. O fewn chwe mis yn unig, cefais ddyrchafiad i’m swydd bresennol, roedd hyn yn cadarnhau i mi fod y coleg yn lle i mi ddatblygu fy ngyrfa’n barhaus.
Mae ymrwymiad y coleg i feithrin dawn wedi bod yn allweddol yn fy nhaith. Dwi’’n ddiolchgar am y cyfleoedd twf proffesiynol mae Coleg Cambria yn eu cynnig a’r cyfle i gyfrannu at ei lwyddiant.
Penderfynais fynd i ddigwyddiad recriwtio staff yng Nglannau Dyfrdwy am fy mod i eisiau newid ar ôl bod yn gwneud yr un swydd am chwe blynedd. Yr hyn wnaeth fy atynnu i Goleg Cambria oedd y ffocws ar gynhwysiant. Cefais y cyfle i gyfarfod staff a rheolwyr eraill oedd yn gyfeillgar a chroesawgar. Roeddwn yn agored gyda nhw am fod yn niwroamrywiol (Dyslecsig, Dyspracsia, Awtistiaeth ac ADHD) ac fe dawelodd y coleg fy meddwl ei fod yn ofod saff i staff gydag anghenion ychwanegol.
Ar ôl i mi wneud cais fe gysylltodd y coleg ynghylch addasiadau rhesymol ar gyfer cyfweliad. Cafodd rhai pethau eu hawgrymu wrthyf yn seiliedig ar yr hyn yr oeddwn wedi’i ddweud ac fe helpodd hynny i mi fod ar yr un lefel ag ymgeiswyr eraill. Roedd yn amlwg fod Cambria yn gwybod sut i gefnogi staff. Derbyniais amserlen glir a chyfleoedd i alw heibio cyn ac ar ôl y cyfweliad fel fy mod yn gallu dod i arfer gyda’r amgylchedd.
Dechreuais ym mis Awst 2023 ac un o’r bobl gyntaf wnes i gyfarfod oedd Miranda o’r tîm Cymorth Ychwanegol i Staff Coleg Cambria (ASSCC) sydd yma i helpu staff gydag anghenion dysgu ychwanegol. Dyma hi’n fy helpu i ymgynefino ac i fy annog i fynegi unrhyw heriau yr oeddwn yn ei wynebu yn y gwaith a oedd yn golygu fy mod yn gallu cyflawni fy swydd i’r safonau uchaf posib. Mae fy rheolwr hefyd yn gallu cael mynediad at ASSCC i gael cyngor a hyfforddiant ar sut i fy rheoli i’n effeithiol. Mae’r cymorth ar gael gan ASSCC i reolwyr a chydweithwyr hefyd. Mae’n amgylchedd agored iawn a dwi erioed ‘di teimlo fy mod i’n cael fy meirniadu – mae niwroamrywiaeth yn cael ei weld fel cryfder.
Mae manteision lu o weithio yng Ngholeg Cambria na wyddwn oedd yn bosib mewn swydd dysgu. Mae gweithio ystwyth yn cael ei annog sydd yn elfen mor bwysig i mi. Gallaf weithio’n dawel adref neu gydweithio ar safle yn dibynnu ar y dasg ac mae’r hyblygrwydd hwn yn fy helpu i reoli lles meddyliol. Dwi’n cael fy annog i fod yn fi fy hun – dwi ddim angen masgio o gwbl. Mae fy nesg yn llawn o degannau ffidlan a swigod i fy helpu i reoleiddio a chanolbwyntio. Dim dywediad yn unig yw cydbwysedd gwaith/bywyd – mae’n cael ei hyrwyddo go iawn.
Beth sydd wedi cael yr effaith mwyaf arnaf ers ymuno â Choleg Cambria yw’r rhyddid i fod yn fi fy hun. Dwi wedi ffynnu yma, dwi ddim yn gorfod cuddio fy nghreadigrwydd, angerdd, empathi a’r holl bethau eraill sy’n fy ngwneud i’n uchel fy nghloch. Dwi’n gallu cyfathrebu’n naturiol, rhannu syniadau yn hyderus a bod yn agored am bwy ydw i. Dwi’n teimlo fy mod yn cael fy mharchu a bod pobl yn gallu ymddiried yn fy ngallu. Dwi’n hapusach yn y gwaith sy’n fy ngwneud i’n hathrawes well – ac mae bywyd adref yn well hefyd.
Mae ystod eang o fuddion ar gael i chi pan fyddwch chi’n ymuno â’n tîm Coleg Cambria. Byddwch yn barod i arbed swm mawr o’ch incwm gyda’n gostyngiadau i weithwyr. Mae ein buddion yn cynnwys llawer rhagor na gostyngiadau yn unig. Edrychwch ar y rhestr isod:
Cynllun pensiwn gwych
Gwyliau blynyddol hael
Datblygu proffesiynol
Parcio am ddim ar bob safle
Mynediad i ystod o Gyrsiau Addysg Broffesiynol am bris rhatach
Sesiynau Cambria Heini am ddim
Anrhegion Cydnabod
Rhaglen Cymorth i Weithwyr
Meithrinfa ar y safle (Glannau Dyfrdwy)
Campfa ar y safle
(Iâl a Glannau Dyfrdwy)
Cynllun Atgyfeirio Gweithiwr
Cynllun Beicio i'r Gwaith
Polisïau Cyflogaeth Hael
Gostyngiadau mewn siopau masnachol y coleg
Gweithio Ystwyth
Cynllun Arian Iechyd Rhatach
Cynllun Cydnabod
Hwb Buddiannau Cambria
Cau dros gyfnod y Nadolig
Sgrinio a chymorth ASSCC
Cyfleoedd Elusennol a Gwirfoddoli
Yma yng Ngholeg Cambria rydym eisiau rhoi’r cyfle i chi dyfu a dysgu yn barhaus. Bydd ein cronfa helaeth o adnoddau a’r gostyngiadau sydd ar gael ar gyrsiau proffesiynol a chyrsiau gyda’r nos yn rhoi’r cyfle gorau i chi wneud hynny.
Cyfraniad o hyd at 1/3 tuag at ffioedd cyrsiau proffesiynol
Cyfle i gyrchu ystod eang o gyfleoedd e-ddysgu a datblygu proffesiynol
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Yng Ngholeg Cambria, rydyn ni’n sefydliad cynhwysol ac yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a pherthyn ym mhopeth a wnawn. Rydy ni’n gweithio’n agos gyda’n cymuned amrywiol o ddysgwyr, staff a rhanddeiliaid i sicrhau bod Coleg Cambria yn lle cefnogol i bawb.
Waeth beth fo’ch nodweddion, rydych chi’n haeddu cael eich trin â pharch, cael cyfleoedd teg wedi’u teilwra a chael eich dathlu am bwy ydych chi. Waeth beth ydy’ch hil, crefydd neu gred, bod yn drawsryweddol neu anneuaidd, oedran, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol, anabledd, iaith, cenedligrwydd, dosbarth cymdeithasol, statws priodasol, os ydych yn feichiog, yn cymryd absenoldeb mamolaeth neu’n mabwysiadu, rydych chi’n aelod cyfartal a gwerthfawr o’n cymuned.
Mae gennym ni bum Amcan Cydraddoldeb sy’n amlinellu sut y byddwn ni’n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn yn amgylchedd ein coleg.
Diwylliant Caredigrwydd
Byddwn yn sicrhau bod diwylliant o garedigrwydd wedi’i wreiddio’n gyfannol, lle mae pawb yn elwa ar egwyddorion diogelwch, ymddiriedaeth, gonestrwydd, dealltwriaeth a chefnogaeth.
Grymuso â Gwybodaeth
Byddwn ni'n grymuso ein cydweithwyr, myfyrwyr, a chymunedau ehangach gyda gwybodaeth am hunaniaeth, profiad a diwylliant i'w galluogi i ddylanwadu
Amgylcheddau Cynhwysol
Byddwn yn archwilio ac yn adolygu cynhwysiant ein hamgylcheddau a’n lleoliadau'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod pawb yn teimlo bod croeso iddynt
EDI craff
Byddwn ni'n casglu data priodol i ddileu rhwystrau i gydraddoldeb ac ehangu dealltwriaeth o amrywiaeth
Sicrhau Tegwch
Byddwn yn creu tegwch i bawb drwy nodi a chael gwared ar rwystrau a defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer taith y dysgwr a’r gweithiwr.
Fel cydweithiwr yng Ngholeg Cambria, gallwch chi gael mynediad at ystod o gymorth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yma.
Isod mae manylion y gwahanol weithgareddau a phrosiectau y gallwch chi gymryd rhan ynddynt:
Mae gan Goleg Cambria Arbenigwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sy’n cynnig cyngor, gwybodaeth ac arweiniad i aelodau staff ar ymgorffori cydraddoldeb ac amrywiaeth yn eu rolau yn y coleg. Gall ein Harbenigwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth hefyd gynnig cymorth ar faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth personol y gall cydweithwyr eu profi.
Cysylltwch â’n Harbenigwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth drwy cydraddoldebacamrywiaeth@cambria.ac.uk.
Mae’r Panel Profiad Bywyd yn gasgliad o staff yng Ngholeg Cambria sydd â phrofiad bywyd o fod o grŵp sydd wedi’i dangynrychioli, wedi’i leiafu neu wedi’i ymyleiddio. Gallai hyn gynnwys:
Mae’r Panel Profiad Bywyd yn cynnig adborth ac ymgynghoriad ar amrywiol brosiectau, polisïau a phrosesau yng Ngholeg Cambria, gan ddefnyddio eu profiad bywyd.
Mae ASSCC (Cymorth Staff Ychwanegol Coleg Cambria) yn rhaglen i gynnig cymorth i’n cydweithwyr niwroamrywiol. Nid oes angen i gydweithwyr gael diagnosis i gael mynediad at y rhaglen ASSCC. Trwy raglen ASSCC, gall aelodau staff Coleg Cambria gael mynediad at:
Mae pob cydweithiwr newydd yng Ngholeg Cambria yn mynd i Sesiwn Ymsefydlu Cynhwysiant. Mae’r sesiwn yma’n rhoi cyflwyniad i chi i’n diwylliant cynhwysol yma yng Ngholeg Cambria, ac yn eich helpu i ddeall sut y gallwch chi hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn eich swydd.
Yn ogystal â’ch Sesiwn Ymsefydlu Cynhwysiant, rydyn ni hefyd yn cynnig ystod eang o sesiynau hyfforddi Cynhwysiant i’n cydweithwyr. Mae hyn er mwyn rhoi’r holl sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i ddeall cydraddoldeb a’i ymgorffori yn eich swydd.
Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio’n barhaus tuag at wneud Coleg Cambria y lle mwyaf cynhwysol a chyfartal i bawb. Mae’r dogfennau isod yn nodi ein cynlluniau ar gyfer gwneud hynny, a’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud hyd yn hyn.