main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

MAE PARTNERIAETH addysg a diwydiant wedi creu ‘dangosfwrdd data’ arloesol ar gyfer cwmni datrysiadau peirianneg
AN EDUCATION and industry partnership created a pioneering ‘data dashboard’ for an engineering solutions company.

Aeth Medru – menter ar y cyd rhwng Coleg Cambria, Prifysgol Bangor, a’r Brifysgol Agored yng Nghymru – ati i gydweithio ag AMRC Cymru i greu’r system ar gyfer LCA Group Ltd ym Mhenarlâg.

Mae’r prosiect hwn yn tynnu sylw at y synergeddau rhwng y byd academaidd, diwydiant a thechnoleg wrth hybu trawsnewid digidol yng Ngogledd Cymru.

Datblygodd y bartneriaeth ddangosfwrdd data prawf cysyniad sy’n arddangos grym dadansoddi a delweddu data amser real. Mae ymrwymiad Medru i drosoli integreiddio data uwch, dylunio addasol, dadansoddi cynhwysfawr a mesurau diogelwch llym yn gwarantu effaith drawsnewidiol ar y modd y mae busnesau’n dehongli ac yn defnyddio eu data.

“Mae ein cydweithrediad gydag AMRC Cymru a LCA Group Ltd yn enghraifft o ymroddiad Medru i ddod â datrysiadau data arloesol i flaen y gad o ran gweithrediadau busnes. Mae’r dangosfwrdd data hwn yn fwy na dim ond offeryn; mae’n gyfrwng i ddatgloi mewnwelediadau gweithredadwy sy’n gallu gyrru penderfyniadau strategol ac effeithlonrwydd gweithredol,” meddai Nick Tyson, Is-bennaeth Coleg Cambria, Medru.

“Mae’r dangosfwrdd arloesol hwn wedi chwyldroi ein llif gwaith, gan ganiatáu arddangos data mewn modd clir, byw a chywir trwy bob cam gweithgynhyrchu. Rydyn ni wedi bod yn casglu data ers 2020, ond erbyn hyn mae’n cael ei arddangos yn ddeinamig ar draws sawl lleoliad, gan gynyddu gwelededd ac effaith.”

Ychwanegodd Alan Sheppard, Rheolwr Gyfarwyddwr LCA Group Ltd: “Mae’r tryloywder hwn mewn cyllidebau a thargedau yn sicrhau bod pob aelod o’r tîm yn deall eu rôl ac yn cyfrannu’n effeithiol.

“Mae diweddaru amser real y dangosfwrdd yn caniatáu i oruchwylwyr bennu tasgau mewn modd deinamig, gan sylwi ar a gwneud yn iawn am unrhyw ddiffygion yn gynnar yn y broses. Mae’n fwy na beth sy’n digwydd ar hyn o bryd yn unig – mae swyddi arfaethedig yn cael eu cynllunio’n amlwg, gan hyrwyddo amgylchedd gwaith rhagweithiol.”

Ategwyd hyn gan y Goruchwylydd Cynhyrchu Luke Byrne, a ddywedodd: “Mae cwsmeriaid ac ymwelwyr wedi sylwi’n gadarnhaol ar sut mae’r offeryn hwn yn dangos ein meistrolaeth o dechnoleg a’n hymrwymiad i welliant parhaus. Mae hefyd wedi trawsnewid y ffordd rydyn ni’n cynnal sesiynau briffio, gan ddefnyddio’r dangosfwrdd i ymgysylltu a hysbysu ein tîm yn uniongyrchol yn y gweithle.”

Mae’r broses yn dechrau gydag asesiad trylwyr o’r dulliau cipio data presennol a’i nod yw integreiddio’n ddi-dor â fframweithiau data’r cleient. Y canlyniad yw dangosfwrdd teilwredig sy’n cynnig golwg gynhwysfawr ar bwyntiau data hanfodol, y gellir eu haddasu i ddyfeisiau amrywiol ac wedi’u cyfnerthu â’r lefelau diogelwch uchaf.

“Mae AMRC Cymru yn falch o gyfrannu at y fenter hon, sy’n cyd-fynd yn berffaith â’n cenhadaeth i wella prosesau gweithgynhyrchu trwy arloesi digidol. Mae’r bartneriaeth hon gyda Medru ac LCA Group Ltd yn dyst i’n hymrwymiad i wthio ffiniau Diwydiant 4.0,” meddai Bobby Manesh, Arweinydd Technegol, AMRC Cymru.

Y tu hwnt i’r prawf cysyniad, mae’r cydweithrediad hwn yn agor llwybrau ar gyfer darpar brosiectau sy’n canolbwyntio ar ddadansoddi data, dweud straeon digidol, a datblygu efeilliaid digidol, yn ogystal ag uwchsgilio trwy Brentisiaethau Gradd a’r gyfres Medru bwrpasol o gyrsiau hyfforddi digidol, gan nodi cam pwysig tuag at integreiddio prosesau gweithgynhyrchu traddodiadol â’r dyfodol digidol.

“Mae’r brwdfrydedd yn heintus – mae adrannau eraill wedi gweld ei botensial ac yn awyddus i harneisio galluoedd tebyg ar gyfer eu data, gan sbarduno ton o arloesedd ar draws y cwmni. Mae’n amlwg mai dim ond y dechrau yw hyn gan fod nifer o syniadau yn cyniwair yn barod ar gyfer yr hyn y gallwn ei gyflawni nesaf gyda’r dechnoleg hon,” ychwanegodd Alan.

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth diweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost