Home > Llyfrgell a Sgiliau Astudio Academaidd
Mae llyfrgell ar bob un o safleoedd y coleg ac maent yn lle gwych i ddod a bod yn rhan o fywyd y coleg. Siaradwch â’n cydweithwyr am yr hyn sydd ei angen arnoch i’ch helpu i wneud y gorau o’ch cyfnod yma. Mae gennym ystod wych o adnoddau i’ch helpu gyda gwaith cwrs sy’n ystyried eich dewis a’ch arddull dysgu eich hun. Os yw’n well gennych chi gael print mae gennym ystod ardderchog o lyfrau sy’n cefnogi eich cwrs. Mae ein casgliad digidol yn cynnig platfformau fideo o ansawdd uchel i wella eich gwybodaeth ac mae gennym un o’r casgliadau e-lyfrau sy’n cael ei ddefnyddio amlaf a’r un mwyaf yng Nghymru!
Os ydych chi angen cymorth gyda’ch gwaith cwrs, aseiniadau, arholiadau neu, os ydych yn cael trafferth bodloni terfynau amser ac angen cymorth ychwanegol, gallwn ni gynnig awgrymiadau defnyddiol am sut i gynllunio ac aros dan reolaeth.
Mae gennym dîm o hwyluswyr sgiliau a allai gael cyfarfod un i un gyda chi i drafod strategaethau i lwyddo. Dyma rai o’r pynciau y gallwn ni roi cymorth i chi arnynt: