main logo

Cyflwyniad Seiberddiogelwch Cisco a Hanfodion Seiberddiogelwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA99693
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, 12 wythnos – Mer – 18:00-21:00
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
10 Apr 2024
Dyddiad Gorffen
03 Jul 2024

Trosolwg o’r Cwrs

Mae maes diogelwch seiber yn un sy’n tyfu’n gyflym, gyda nifer o gyfleoedd swyddi yn dod i’r amlwg yn fwyfwy aml. Fel y cyfryw, mae’n faes sy’n flaenoriaeth uchel i lawer o sefydliadau a chwmnïau.

Rhagwelir twf uchel yn y maes hwn ar gyfer y dyfodol, wrth i bobl a sefydliadau ddod yn fwyfwy cysylltiedig ac yn ddibynnol ar y cysylltiadau hynny ar gyfer holl agweddau eu bywyd digidol.

Wrth i’r rhain i gyd gynyddu, mae’r risg gan fygythiadau a throseddwyr seiber hefyd yn cynyddu, gan gynyddu’r galw am weithwyr proffesiynol diogelwch seiber.

Mae’r cwrs hwn yn cyfuno’r cyrsiau Cyflwyniad i Ddiogelwch Seiber a Hanfodion Diogelwch Seiber yn un.

Fel y dywed Cisco - “Yn oes ‘The Internet of Everything’ (IoE), mae’r cysylltiadau rhwydweithiol o bobl, prosesau, data, a phethau’n creu mwy o angen am isadeiledd diogelwch cadarn. Mae’r twf esbonyddol o gysylltiadau rhwydweithiol yn rhoi data mewn lle mwy agored i niwed ac ymosodiadau, gan greu angen cynyddol am arbenigwyr diogelwch seiber.”

Mae’r cwrs yn gymysgedd o sgiliau theori ac ymarferol, sy’n cael eu datblygu gan y tiwtor mewn cydweithrediad â meddalwedd safon diwydiant a deunyddiau Cisco.

Mae rhan gyntaf y cwrs yn cynnwys tueddiadau diogelwch seiber a chyfleoedd gyrfa.

Y modiwlau a astudir -
● Yr angen am Ddiogelwch Seiber
● Ymosodiadau, Cysyniadau a Thechnegau
● Gwarchod eich Data a’ch Preifatrwydd
● Gwarchod y Sefydliad
● A fydd eich dyfodol chi mewn Diogelwch Seiber?

Mae ail ran y cwrs yn cael cipolwg manylach ar faes diogelwch seiber.

Y modiwlau a astudir -
● Diogelwch Seiber - Byd o Arbenigwyr a Throseddwyr
● Y Ciwb Diogelwch Seiber
● Bygythiadau Diogelwch Seiber, Gwendidau, ac Ymosodiadau
● Y Grefft o Warchod Cyfrinachau
● Y Grefft o Sicrhau Uniondeb
● Y Cysyniad o Bum Naw
● Gwarchod parth diogelwch seiber
● Dod yn Arbenigwr Diogelwch Seiber

Byddwch yn -
● Deall rheolaethau diogelwch ar gyfer rhwydweithiau, gweinyddion a rhaglenni
● Dysgu egwyddorion diogelwch gwerthfawr a sut i ddatblygu polisïau sy’n cydymffurfio
● Cyflawni gweithdrefnau priodol ar gyfer cyfrinachedd ac argaeledd data
● Datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a datrys problemau gan ddefnyddio offer go iawn a phecyn olrhain Cisco

Gall y cwrs hwn eich helpu i helpu’r byd i gymryd rheolaeth dros ei ddata.

Bydd y canlyniad terfynol drwy arholiad ar-lein Cisco gan arwain at dystysgrif.
Asesiad parhaus drwy dasgau a monitro gan diwtoriaid, a thrwy arholiad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol er bod disgwyl i ddefnyddwyr fod yn gyfarwydd â hanfodion defnyddio cyfrifiadur a’r we.
Mae’r cwrs yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol a’r offer i chi i’ch helpu i ddechrau gyrfa mewn Diogelwch Seiber
£125
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?